x
Cuddio'r dudalen

Meic Yn Nodi Mis Hanes LHDTC➕

Mae Chwefror yn fis i ddathlu hanes LHDTC➕, ac mae Meic yn ymuno yn y dathliadau wrth edrych ar wahanol agweddau LHDTC➕ yn ein hymgyrch diweddaraf.

This article is also available in English – click here

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Ymgyrch Mis Hanes LHDTC➕ Meic

Mae gennym sawl blog i rannu gyda thi’r mis hwn fel rhan o’n hymgyrch LHDTC+:

Cadwa olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol am gynnwys sydd yn dathlu Mis Hanes LHDTC+ yn ystod mis Chwefror.

Pam dathlu Hanes LHDTC➕?

Mae Mis Hanes LHDTC+ yn cael ei ddathlu bob blwyddyn oherwydd cyfraith gelwir yn Adran 28 oedd yn atal pobl rhag “hyrwyddo cyfunrhywioldeb (homosexuality)”. Golygai hyn nad oedd plant na phobl ifanc yn cael eu haddysgu am faterion LHDTC+. Cyflwynwyd y gyfraith yma yn 1988 ac ni chafodd gwared ohono tan 2003 yng Nghymru a Lloegr. Mae Mis Hanes LHDTC+ yn cael ei ddathlu yn y DU ers 2005 i addysgu am LHDTC+ o’r diwedd. Bwriad y dathliad yw hyrwyddo cydraddoldeb (trin pawb yn yr un ffordd) ac amrywiaeth (gwahaniaethau) er budd pawb.

Thema 2022 ydy ‘Mae’r Arc Yn Hir’ sydd yn dod o ddyfyniad Martin Luther King, “Mae arc foesol y bydysawd yn hir, ond mae’n plygu tuag at gyfiawnder”. Golygai hyn y gall newid gymryd amser hir, ond mae’n digwydd yn y pen draw. Mae’n anodd credu mai dim ond yn 2003 cafodd Adran 28 ei ddileu – fe gymerodd amser hir, ond mae yn digwydd!

Felly, pam ydym ni’n parhau i ddathlu?

Er bod pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol, mae’r gymuned LHDTC+ yn parhau i orfod wynebu anwybodaeth a chamddealltwriaeth Mae digwyddiadau fel Mis Hanes LHDTC+ yn bwysig i godi ymwybyddiaeth, i gofio cyflawniadau’r gorffennol, ac i ddathlu datblygiadau.

Eisiau dysgu mwy am hanes LHDTC+? Gwylia’r fideo isod, er ei fod dros 8 munud o hyd, mae’n grynodeb gwych o hanes LHDTC+ ac mae’n edrych ar bobl LHDTC+ anhygoel sydd wedi gadael marc ar y Byd.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim