Effaith deallusrwydd artiffisial ar gyfryngau cymdeithasol

Ydy’r llun yna’n wir? Person go iawn sydd wedi sgwennu’r sylw yna? Croeso i fyd cyfryngau cymdeithasol heddiw. Mae deallusrwydd artiffisial yn cael effaith anferthol ar y ffordd rydym yn sgwrsio, gweld cynnwys a hyd yn oed beth rydym yn ei gredu ar-lein.
Mae deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Erbyn rŵan mae cyfryngau cymdeithasol yn fwy na dim ond gweld lluniau dy ffrindiau neu rannu jôcs gyda’ch gilydd. Gadewch i ni edych ar yr effaith mae AI yn ei gael ar gyfryngau cymdeithasol a sut gallwn ni aros yn ddiogel ar-lein.
Cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan AI
Wyt ti erioed wedi gweld llun sy’n edrych braidd yn rhy berffaith? Siawns ydi, mai AI sydd wedi creu’r llun. Mae platfformau cymdeithasol yn llawn cynnwys sydd wedi’i greu gan AI. O’r testun o dan y llun i sut mae’r graffeg wedi’i ddylunio, mae gymaint o adnoddau yn defnyddio AI i wneud creu cynnwys yn haws i bobl.
Mae AI yn dy alluogi i greu lluniau o unrhyw beth. Efallai dy fod wedi gweld rhai yn barod, fel portreadau o bobl enwog a llun o ungorn ar feic modur ar ben enfys. Er bod y creadigrwydd yn drawiadol, mae’n mynd yn anoddach gweld y gwahaniaeth rhwng be sy’n wir a be sy’n ffug.
Mae’n bosib mae AI sydd wedi ysgrifennu’r testun ti’n darllen ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. Gall fod yn anoddach gweld os yw rhywbeth wedi cael ei ysgrifennu gan berson go iawn neu gan AI. Mae’n rhaid bod yn ofalus iawn am beth rydym yn credu ar-lein, gan fod camwybodaeth yn gallu cael ei rannu.
‘Chatbots’
Mae AI wedi newid sut rydyn ni’n cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. Mae ‘chatbots’ fel My AI gan Snapchat yn cael eu pweru gan AI.
Maent ar gael unrhyw amser o’r dydd, sy’n golygu eu bod yn ‘rhywun’ i siarad efo unrhyw bryd. Wyt ti erioed wedi gofyn cwestiwn i AI byddet ti’n teimlo embaras i’w ofyn i ffrind? Mae hyn yn gallu apelio, oherwydd does dim rhaid i ti boeni am gael dy feirniadu neu boeni am sut i gychwyn sgwrs.
Ond sut wyt ti’n gwybod dy fod yn cael ateb cywir? Er bod sgwrsio gydag AI yn gallu bod yn adnodd defnyddiol i gael gwybodaeth neu ychydig o dynnu coes, mae dibynnu arnynt fel dy unig ffynhonnell o wybodaeth yn gallu dy arwain at gamwybodaeth.
Dylanwadwyr rhithiol
Felly, rydym yn gwybod bod AI yn gallu creu testun a sgwrsio, ond beth sy’n digwydd pan mae AI yn creu pobl? Dyna sydd yn digwydd gyda dylanwadwyr rhithiol.
Mae cwmnïau yn arbrofi gyda dylanwadwyr rhithiol er mwyn hyrwyddo eu cynnyrch. Mae’r dylanwadwyr rhithiol yn cael eu creu er mwyn apelio at bobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd a diddordebau. Mae’n ffordd rad a haws o roi mwy o reolaeth i gwmnïau dros eu cynnwys sy’n amhosib i’w wneud gyda dylanwadwyr go iawn.
Ond, mae dylanwadwyr rhithiol wedi’u creu gan gwmnïau er mwyn hyrwyddo eu hunain. Mae hyn yn golygu ei fod yn anodd gwybod os wyt ti’n gallu ymddiried yn y cwmni heb farn person go iawn am y cynnyrch. Oes posib bod hyn am gynyddu’r nifer o sgamiau ar-lein?
Tudalennau wedi’u personoli
Mae AI yn gallu personoli dy brofiad ar gyfryngau cymdeithasol.
Gall algorithmau ddadansoddi ein diddordebau a’n ymddygiad ar-lein er mwyn dangos cynnwys sydd wedi ei bersonoli. Mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn ac rwyt ti’n fwy tebygol o weld cynnwys ti am hoffi. Ond mae’n gallu golygu dy fod yn creu ‘echo chamber’.
Drwy fwydo cynnwys sy’n debyg i’r pethau rydym yn ei hoffi, mae algorithmau AI yn cyfyngu beth rydym yn weld. Mae’n hawdd mynd yn gyfforddus yn ein bybl ein hunain, ond beth os wyt ti’n colli allan ar bersbectif pobl eraill? Beth os wyt ti’n cael dy fanipiwleiddio heb sylweddoli?
Beth allwn ni wneud am AI ar gyfryngau cymdeithasol?
Cwestiynu popeth
Mae meddwl yn feirniadol yn fwy pwysig nac erioed o’r blaen. Cwestiyna popeth ti’n weld, yn enwedig os mae’n ymddangos yn rhy berffaith neu’n anghredadwy. Paid â chredu pethau ar yr olwg gyntaf, gwna fwy o ymchwil.
Bydda’n ymwybodol o be ti’n weld
Bydd yn ymwybodol o sut mae algorithmau yn siapio be ti’n weld ar-lein.
Deall bod yr algorithmau hyn wedi’u cynllunio i ddangos y cynnwys y maen nhw’n meddwl ti’n hoffi, ac mae hyn yn cyfyngu ar weld amrywiaeth o safbwyntiau.
Paid â dibynnu ar un platfform neu ffynhonnell am wybodaeth. Archwilia wahanol wefannau newyddion a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael gwell persbectif. Ceisia dorri allan o dy swigen trwy ddilyn pobl â gwahanol safbwyntiau ac ymgysyllta â chynnwys sy’n herio dy ragdybiaethau.
Edrycha am arwyddion
Mae’n bosib edrych allan am bethau sy’n arwyddion clir bod cynnwys wedi’i gynhyrchu gan AI. Edrycha am fanylion rhyfedd neu olau annaturiol mewn delweddau. Mae AI yn cael trafferth gyda dannedd, dwylo a chlustiau felly edrycha ar y rhain mewn delweddau o bobl. Bydda’n wyliadwrus o gynnwys sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, ac ystyria’r ffynhonnell bob amser.
