x
Cuddio'r dudalen

Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn

Mae’n naturiol i ti fod eisiau gwybod mwy am gyrff pobl eraill a rhyw. Mae rhai pobl yn hoffi gwylio pornograffi i ddysgu mwy a deall beth maent yn hoffi’n rhywiol. Mae yna rai sydd heb diddordeb nac mwynhad ohono. Beth bynnag dy farn di am porn, mae’n syniad deall y ffeithiau, y peryglon a’r buddiannau.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw porn?

Mae pornograffi, cyfeirir ato’n aml fel porn, yn ysgrifennu, lluniau, ffeiliau a fideos yn dangos gweithgaredd rhywiol gyda’r bwriad o droi ti ‘mlaen (cynhyrfu’n rhywiol). Mae porn wedi bod o gwmpas ers amser maith, ond gyda’r rhyngrwyd a ffonau symudol, mae’n haws nac erioed i gael gafael arno.

Mae yna pornograffi proffesiynol gyda chynhyrchydd ac actorion. Neu mae yna porn sy’n cael ei greu gan y cyhoedd ac yn cael ei rannu ar-lein. Os wyt ti eisiau gwybod mwy, neu’n gwylio eisoes, bydd deall y gyfraith yn helpu ti rhag mynd i drafferthion.

Arwydd neon 18+

Ydw i’n gallu cael i drwbl yn gwylio porn?

Yn y DU, mae unrhyw un yn cael gwylio pornograffi, ond rhaid bod dros 18 oed i brynu porn. Rwyt ti’n cael cadw cynnwys pornograffig ar dy ffôn neu wedi’i brintio, ond mae’n rhaid i’r cynnwys yma fod yn gyfreithiol.

Nid yw’n anghyfreithlon i ti wylio porn os wyt ti o dan 18. Ond nid yw’n cael ei greu gyda phobl ifanc mewn golwg. Mae’n cael ei greu’n benodol i oedolion. Weithiau mae pethau’n cael eu dangos a all niweidio, ypsetio, neu godi ofn.

Dylet ti fod yn ymwybodol bod yna bornograffi sy’n anghyfreithiol (gweler manylion yn adran ‘Facts About Porn’ Childline yma). Mae’n anghyfreithlon hefyd i rannu neu dangos porn i rywun sydd o dan 16 oed. Os wyt ti’n gweld unrhyw beth sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, neu ti’n teimlo sydd ddim yn iawn, dweud wrth oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt neu edrycha ar y cysylltiadau yn yr adran ‘Gwybodaeth bellach a chymorth’ isod.

Mae sawl math gwahanol o porn

Weithiau gallet ti ddarganfod porn heb chwilio amdano, fel ar gyfryngau cymdeithasol neu hysbyseb ar wefan, neu efallai dy fod di’n chwilio am porn yn bwrpasol.

Mae porn yn dangos sawl ffordd wahanol i gael rhyw a ffyrdd i bleseru dy hun neu rywun arall. Gall gwylio porn fod yn ffordd iach i ddysgu am ryw (er mae’n gallu troi’n afiach hefyd – gweler isod). Gall annog ti i archwilio’r hyn sydd yn troi chdi ‘mlaen a dy rywioldeb mewn awyrgylch diogel heb fod angen person arall (er fedri di wylio gyda rhywun arall wrth gwrs).

Os wyt ti’n gwylio porn, efallai byddi di’n darganfod rhywbeth sydd yn dy gynhyrfu’n rhywiol. Os wyt ti’n parhau i wylio’r math yma o fideos ac yn mwynhau’r themâu, efallai bod gen ti ginc neu ffetis penodol. Mae’n berffaith normal i gael diddordebau rhywiol gwahanol i’r arfer. Sicrha dy fod di, ac unrhyw un arall sy’n archwilio hyn gyda thi, yn ddiogel, bod y gweithgaredd rhywiol yn gyfreithiol a bod gen ti ganiatâd y person arall.

Tra bod y mwyafrif o gategorïau ar wefannau porn arferol yn gyfreithiol i’w gwylio, mae llinell denau iawn rhwng cyfreithiol ac anghyfreithiol weithiau. Ni ddylai fideo gyda’r gair ‘teen’ yn y teitl ddangos rhywun o dan 18. Os yw’r actor dros 18, mae hyn yn gyfreithiol. Ond, fel rhywun sydd yn gwylio’r fideo, nid all bod yn sicr o hyn. Mae’n rhaid i ti fod yn ofalus o’r pethau rwyt ti’n gwylio.

Siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt os wyt ti wedi gweld porn sydd yn ypsetio, poeni neu yn codi ofn arnat ti. Os wyt ti angen adrodd porn sy’n niweidiol neu’n anghyfreithlon, mae’n bwysig gwneud hyn. Mae posib adrodd cynnwys niweidiol ar-lein yn ddienw ac yn gyfrinachol.

Eicon dim porn ar sgrin cyfrifiadur

Nid yw porn fel rhyw go iawn

Anaml y mae porn yn cynrychioli rhyw go iawn. Mae’n cael ei greu at bwrpas adloniant i oedolion. Nid yw’n ceisio addysgu am atal cenhedlu, STIs na chael caniatâd.

Mae rhyw ‘heteronormative’ yn tueddu bod yn fwy cyffredin mewn porn. Mae hwn yn ryw pidyn-mewn-fagina gyda’r pleser, ran amlaf, i’r person sydd yn berchen ar y pidyn. Mewn gwirionedd, mae yna sawl ffordd i gael rhyw ble mae pawb sy’n cymryd rhan yn gallu teimlo’n dda. Mae’n bwysig gwybod bod porn wedi’i selio ar ddyheadau a ffantasïau rhywiol sydd yn gwneud arian. Nid yw hyn yn cynrychioli’r ffordd mae pawb eisiau cael rhyw.

Fel arfer, nid yw porn yn dangos gwirionedd rhyw go iawn, fel chwerthin yng nghanol rhyw, angen diod, neu’n stopio i bipi. Mae actorion pornograffi yn tueddu bod yn siâp a maint penodol, fel gwasg bach, bronnau mawr, cyhyrau, pidyn anferth a chyrff di-wallt. Mae rhai actorion porn yn cael llawdriniaeth i gael golwg penodol neu’n llyncu tabledi i berfformio’n well neu gadw min (erection) yn hirach. Ym mywyd go iawn, nid cyrff fel hyn sydd gan y mwyafrif ohonom. Gall hyn achosi rhywun i deimlo cywilydd neu’n nerfus i gael rhyw.

Deepfake

Mae rhai pobl yn creu porn wrth ddefnyddio AI (deallusrwydd artiffisial). Gall hyn gynnwys rhoi wyneb rhywun enwog ar gorff rhywun arall. Mae’n edrych fel mai nhw sydd yn y porn. Gelwir y math yma o fideo yn deepfake a gall fod anodd deall beth sy’n wir neu beidio. Gall y math yma o porn achosi pryder gan fod posib defnyddio unrhyw lun sydd ar y rhyngrwyd.

The Future of Revenge Porn – Mae’r sain BBC Sounds yma ar gyfer rhai dros 16.
Mae’n cynnwys rhywfaint o iaith gref a golygfeydd rhywiol cignoeth a all beri gofid i rai gwrandawyr.

Peryglon gwylio gormod o porn

Gall gwylio gormod o porn ddechrau cael effaith ar y ffordd rwyt ti’n meddwl a theimlo, gan achosi niwed i dy iechyd corfforol a meddyliol. Gad i ni edrych ar ychydig o’r peryglon o wylio porn:

Barn ar ddelwedd y corff

Mae gwylio porn yn gallu cael effaith ar y ffordd rwyt ti’n teimlo am gorff dy hun, yn gwneud i ti feddwl bod ffordd benodol o edrych. Efallai dy fod di’n cymharu dy hun i’r bobl yn y fideos ac yn anhapus gyda dy edrychiad. Gall hyn wneud i ti fod eisiau newid dy edrychiad wrth ymarfer y corff yn ormodol, peidio bwyta, neu dynnu blew cedor (pubic hair) i edrych fel yr actorion porn. Efallai byddi di’n dechrau teimlo’n hunanymwybodol am dy genitalia ac yn teimlo cywilydd i ddangos dy gorff.

Mae’n gallu effeithio dy farn di o eraill hefyd, a gwneud i ti deimlo’n wahanol am y pethau sy’n denu ti. Efallai byddi di’n dechrau barnu pobl am nad ydynt yn edrych fel y bobl mewn fideos porn. Rwyt ti’n cymharu’r actorion porn i’r bobl yn dy fywyd, ond nid yw’r mwyafrif o bobl yn edrych fel hyn.

Dibyniaeth

Mae rhai pobl yn dechrau dibynnu ar bornograffi ac eisiau gwylio porn trwy’r adeg. Dyma’r unig beth allant feddwl amdano, yn tynnu sylw ac yn cael effaith ar eu gwaith a’u perthnasau.

Os oes rhaid i ti wylio mwy a mwy o porn i deimlo’n rhywiol ac rwyt ti’n cael trafferth canolbwyntio, yna efallai bod gen ti ddibyniaeth porn.

Disgwyliadau afrealistig

Mae gweld y ffordd mae pobl yn bihafio neu’n cael eu trin mewn fideos pornograffi yn gallu arwain at rywun yn disgwyl i’w partner ymddwyn yn yr un ffordd. Mae’n rhoi disgwyliadau afrealistig o ryw a gall arwain i ti deimlo’n anfodlon a gwneud i dy bartner deimlo dan bwysau, cywilydd, neu fel nad ydynt yn ddigon. Anaml y mae pobl yn ymddwyn fel y maent mewn fideos porn.

Secstio, gyrru noethluniau a phorn dial

Nid oes rhaid i ti wylio llawer o porn i gael dy ddal ym mheryglon y byd ar-lein. Gall rhai pethau fod yn  gynnwys pornograffig heb i ti sylwi.

Secstio ydy pan rwyt ti’n rhannu cynnwys rhywiol fel negeseuon, nodiadau sain, lluniau a fideos gyda rhywun, pa un ai wyt ti’n eu hadnabod neu beidio. Mae cynnwys rhywiol yn cynnwys lluniau hollol noeth, rhannol noeth, a siarad neu wneud gweithred rywiol. Cer i edrych ar ein blog Perthynas Ddigidol: Cadw Dy Hun Yn Ddiogel Wrth Secstio i ddarganfod y gyfraith os yw rhywun dan 18 oed neu heb ganiatâd.

Mae pobl ifanc dan 18 sydd yn poeni bod llun neu fideo rhywiol ohonynt wedi ei rannu ar-lein yn gallu defnyddio’r teclyn Report Remove i’w ddileu o’r rhyngrwyd.

Os wyt ti’n ddioddefwr porn dial ac rwyt ti dros 18 oed, cysyllta â’r Llinell Gymorth Revenge Porn. Mae hyn yn cynnwys Deepfakes.

Gwybodaeth bellach a chymorth

  • Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
  • Report Remove – teclyn i helpu pobl ifanc dan 18 i adrodd lluniau a fideos rhywiol ohonynt a chael tynnu nhw o’r rhyngrwyd
  • ThinkUKnow – gwybodaeth gan CEOP am amddiffyn dy hun ar-lein ac oddi ar y rhyngrwyd, gan gynnwys Perthnasau, Cymdeithasu Ar-lein, Diogelwch Ar-lein, Noethluniau, Rhyw a Chynnwys Rhywiol Ar-lein, a Chamdriniaeth Rywiol
  • Llinell Gymorth Porn Dial – cefnogi dioddefwyr porn dial dros 18 oed
  • Brook – elusen yn cynnig cymorth iechyd a lles rhyw
  • What are deepfakes and how do they work? – BBC Bitesize
  • Report Harmful Content – yn helpu ti i adrodd cynnwys niweidiol rwyt ti wedi gweld ar-lein, gan gynnwys cyfathrebu rhwiol neu gynnwys pornograffig.
Baner manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Os wyt ti’n teimlo fel bod pornograffi yn cael effaith ar dy iechyd meddyliol a chorfforol, chwilia am gymorth gan oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.