x
Cuddio'r dudalen

Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau: Ymgyrch Iechyd a Lles Rhyw Meic

Croeso i’n hymgyrch  Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch isod, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i wylio ychydig o fideos hwyl.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn yr ymgyrch yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Cer draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld fideos hwyl ac addysgiadol.

Baner manylion cyswllt Meic ar flog IEchyd a Lles Rhyw

Siarad â Meic

Efallai bydd gen ti mwy o gwestiynau ar ôl darllen y blogiau yma, neu wedi dod ar draws rhywbeth sydd yn dy boeni. Mae hynny’n berffaith iawn. Siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt neu siarada gyda ni yn gyfrinachol ac am ddim yma yn Meic.

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.

Gwybodaeth a chymorth pellach

  • Clinigau Iechyd Rhywiol – GIG Cymru – gwybodaeth am wneud apwyntiad, sut mae’n gweithio, beth sy’n digwydd, a chael y canlyniadau
  • Iechyd Rhywiol Cymru – gwybodaeth ar STIs, atal cenhedlu a phrofi
  • Brook – elusen yn cynnig cymorth iechyd a lles rhyw
  • Byw Heb Ofn – Llinell gymorth yn darparu help a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
  • Report Remove – teclyn i helpu pobl ifanc dan 18 i adrodd lluniau a fideos rhywiol ohonynt a chael tynnu nhw o’r rhyngrwyd
  • CEOP – adrodd camdriniaeth rywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu â thi ar-lein
  • Childline – tudalennau Rhyw a Pherthnasau