x
Cuddio'r dudalen

Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti

Os wyt ti’n cael rhyw, neu’n bwriadu cael rhyw, mae’n bwysig sicrhau dy fod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu. Er mai condomau yw’r unig ffordd i amddiffyn rhag STIs, mae llawer o ddewisiadau sydd yn amddiffyn rhag beichiogrwydd. Dysga fwy am hyn a gwna’r dewis cywir i ti.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Pam bod atal cenhedlu yn bwysig?

Os nad wyt ti a dy bartner yn barod i gael babi, mae defnyddio dulliau atal cenhedlu yn helpu ti i beidio disgyn yn feichiog. Mae’n bosib cael rhyw o hyd, ond bydd llai o risg o fod yn feichiog (nid oes yr un dull 100% yn effeithiol).

Mae yna lawer o opsiynau, a gall fod yn anodd dewis pa un sy’n iawn i ti. Bydd y blog yma yn rhoi gwell dealltwriaeth i ti o’r gwahanol ddulliau, ond awgrymir i ti siarad am yr opsiynau gyda doctor neu glinig iechyd rhywiol cyn gwneud y dewis.

Defnyddio condomau yw’r unig ddull atal cenhedlu sydd hefyd yn amddiffyn rhag STIs. Os wyt ti’n cael rhyw gyda gwahanol bobl heb gondom, mae cael prawf STI rheolaidd yn syniad da.

condom mewn poced dull atal cenhedlu

Condomau

98% yn effeithiol os defnyddir yn gywir

Mae condom yn orchudd tenau sy’n ymestyn ac yn cael ei wisgo rhan amlaf dros y pidyn yn ystod rhyw. Mae yna hefyd gondomau i’r fagina sy’n cael eu gosod i mewn yn y fagina cyn rhyw. Maent yn creu rhwystr rhwng y pidyn a’r fagina, gan atal sberm rhag cyrraedd yr wy.

Rhaid dilyn y cyfarwyddiadau yn gywir. Os nad yw’n cael ei rolio’n iawn, neu digon o le yn cael ei adael yn y pen, neu ddefnyddio condomau hen, gall gynyddu’r risg o dorri neu lithro i ffwrdd. Dim ond unwaith y gellir defnyddio condomau. Ni ddylid byth ddefnyddio mwy nag un ar y tro.

Mae condomau hefyd yn helpu i amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Mae condom yn fach ac yn gynnil i’w gario. Ceir gwahanol faint, teimlad, deunydd a blas hefyd, felly os yw rhywun yn cwyno bod gwisgo condom yn lleihau’r teimlad yn ystod rhyw, dylent roi cynnig ar rai gwahanol i ddod o hyd i’r maint a’r teimlad cywir iddyn nhw. Mae opsiynau heb latecs hefyd os oes gan rywun alergedd.

Gellir prynu condomau yn y mwyafrif o archfarchnadoedd a fferyllfeydd, neu os wyt ti o dan 25, mae posib cael rhai am ddim trwy’r cynllun Cerdyn-C.

pilsen atal cenhedlu

Pilsen atal cenhedlu

Dros 99% yn effeithiol os defnyddir yn gywir

Mae’r bilsen atal cenhedlu, neu’r ‘bilsen’, yn cael ei lyncu. Mae’n cynnwys hormonau, gan gynnwys estrogen a progestin ac mae’n atal beichiogrwydd wrth:

Atal wy rhag cael ei ryddhau bob mis (ofyliad). Dim wy = dim beichiogrwydd

Teneuo leinin y groth fel bod wy wedi’i ffrwythloni yn llai tebygol o fewnblannu a thyfu

Twchu mwcws ceg y groth sy’n ei gwneud yn anoddach i sberm nofio drwy’r serfics i gyrraedd yr wy

Bydd doctor yn rhoi asesiad i weld os yw’r bilsen yn addas i ti. Mae yna wahanol fathau ar gael, gan gynnwys y bilsen fini a’r bilsen gyfun. Os nad yw un yn addas, yna fedri di roi cynnig ar un arall.

Mae’n rhaid i ti gymryd y bilsen am yr un amser bob dydd. Gall hyn fod yn anodd i bobl gyda bywydau prysur neu gyda thrafferth cofio.

Nid oes rhaid bod yn actif yn rhywiol i gael budd o’r bilsen gan fod llawer o fanteision eraill hefyd:

helpu gyda symptomau PMS fel poen, chwyddo a bod yn flin

posib y gall helpu i reoli acne neu dyfiant gwallt gormodol

gall rheoli’r misglwyf os ydynt yn afreolaidd

Gall sgîl-effaith gynnwys teimlo’n sâl, bronnau’n brifo, cur pen a newidiadau mewn hwyliau. Bydd hyn yn gwella dros amser, ond os ddim, cysyllta â’r doctor.

Golau coch yn fflachio argyfwng

Pilsen atal cenhedlu brys

Neu’r bilsen fore wedyn (er mae gen ti ychydig mwy o amser i’w gymryd). Mae’n atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb amddiffyniad neu os yw condom yn rhwygo. Mae’r bilsen yma i atal beichiogrwydd – os wyt ti’n feichiog yn barod, ni fydd yn achosi i ti golli’r babi.

Gellir cymryd hwn o fewn 3 i 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Gorau po gyntaf – paid disgwyl. Os wyt ti’n chwydu o fewn ychydig oriau o gymryd y bilsen, bydd rhaid dychwelyd a’i gymryd eto.

Ar gael am ddim (hyd yn oed os wyt ti dan 16) mewn clinigau iechyd rhywiol (GUM) neu unedau anafiadau mân, neu mewn rhai meddygfeydd, clinigau pobl ifanc, fferyllfeydd, neu A&E. Os wyt ti dros 16 oed, mae posib prynu yn y mwyafrif o fferyllfeydd.

Gall sgîl-effaith gynnwys teimlo’n sâl neu chwydu, bronnau’n brifo a newidiadau yn y mislif, ond fel arfer dros dro yw hyn ac nid yw’n rhy ddrwg.

Dim ond mewn argyfwng dylid ei ddefnyddio, nid fel dewis rheolaidd i atal beichiogrwydd. Os wyt ti’n cael rhyw ac eisiau osgoi beichiogrwydd, defnyddia ddulliau atal cenhedlu rheolaidd.

Doctor yn dal IUD

Y Coil neu IUD

Dros 99% yn effeithiol

Dyfais siâp T sy’n cael ei osod yn y groth drwy’r fagina. Mae’n ddiogel, cyflym, syml ac yn cael ei osod yn y feddygfa neu glinig fel arfer. Mae’n gallu bod yn anghyfforddus ac achosi crampiau, ond dros dro yw hyn.

Mae’r coil yn amddiffyn rhag beichiogrwydd am 3-10 mlynedd, yn dibynnu ar y math. Golygai hyn nad oes rhaid i ti boeni am gofio cymryd neu ddefnyddio atal cenhedlu fel arall.

Coil gyda hormonau

Yn twchu mwcws serfigol ceg y groth ac yn teneuo leinin y groth, fel ei bod yn anodd i sberm gyrraedd a ffrwythloni’r wy, neu’r wy mewnblannu yn y groth.

Coil heb hormonau

Wedi’i wneud o gopr, mae’n gweithio wrth greu amgylchedd sy’n wenwynig i sberm.

Gall sgîl-effaith gynnwys newid yn y mislif, gan gynnwys mislif trymach a hirach, gwaedu ysgafn rhwng y mislif, neu waedu afreolaidd. Mae yna hefyd berygl y gallai ddod yn rhydd yn y groth, felly mae angen archwiliadau rheolaidd.

Os wyt ti’n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib tynnu’r coil, ac fe ddylai popeth fynd yn ôl i normal.

Gellir dewis cael ffitio IUD fel atal cenhedlu brys hefyd o fewn 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Mae posib cadw hwn i mewn wedyn a’i ddefnyddio fel dy ddull atal cenhedlu arferol.

Mewnblaniad atal cenhedlu

Mewnblaniad atal cenhedlu

Dros 99% yn effeithiol

Mae’r mewnblaniad atal cenhedlu yn wialen fach sy’n cael ei osod o dan groen y fraich yn ystod triniaeth feddygol fer (gall hyn fod yn anghyfforddus ac yn boenus, ond dros dro yn unig yw hyn). Mae’n rhyddhau’r hormon progestin sy’n helpu i atal beichiogrwydd am sawl blwyddyn.

Mae’r mewnblaniad yn stopio beichiogrwydd trwy atal ofyliad, twchu mwcws ceg y groth a theneuo leinin y groth.

Gall sgîl-effaith gynnwys gwaedu afreolaidd, sbotio, neu dim mislif o gwbl, cur pen teimlo’n sâl a bronnau poenus.

Os wyt ti’n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib tynnu’r mewnblaniad, ac fe ddylai popeth fynd yn ôl i normal.

Patsh atal cenhedlu ar fraich

Patsh Atal Cenhedlu

Dros 99% yn effeithiol os defnyddir yn gywir

Patsh bach, tenau sy’n glynu i’r croen i ryddhau hormonau sy’n atal beichiogrwydd. Mae’n cael ei newid yn wythnosol a gellir ei guddio mewn mannau llai gweladwy fel y pen ôl, y stumog neu dop y fraich.

Gall sgîl-effaith gynnwys teimlo’n sâl, blinder, bronnau poenus a chur pen. Efallai na fydd yn addas i bawb, fel pobl sydd â chroen sensitif, sy’n nofio neu’n chwysu lot.

Mae manteision ychwanegol yn cynnwys mislif mwy rheolaidd, ysgafnach, byrrach a llai poenus.

Pigiad Atal Cenhedlu

Pigiad Atal Cenhedlu

Dros 99% yn effeithiol

Mae hormonau’n cael eu rhoi yn y corff gyda phigiad bob 8-13 wythnos i amddiffyn rhag beichiogrwydd. Mae’n atal ofyliad, yn twchu mwcws ceg y groth ac yn teneuo leinin y groth.

Gall sgîl-effaith gynnwys newidiadau yn y cylchred mislif, mislif afreolaidd, trymach neu ysgafnach neu dim mislif o gwbl.

Os wyt ti’n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib stopio’r pigiad, ond  gall gymryd hyd at flwyddyn i bopeth fynd yn ôl i normal.

Diaffram atal cenhedlu

Diaffram a Chap Serfigol

92-96% yn effeithiol os defnyddir yn gywir

Darn o silicon neu latecs crwn yw hwn, sy’n cael ei osod yn y fagina cyn cael rhyw, gan greu rhwystr i’r serfics (agoriad i’r groth) ac atal sberm rhag mynd i mewn. Mae angen defnyddio sbermleiddiad (gel, hufen neu ewyn sy’n lladd sberm) ar y diaffram neu’r cap a thu mewn i’r fagina cyn ei ddefnyddio.

Mae’n rhaid i weithiwr gofal iechyd proffesiynol dy ffitio ar gyfer diaffram neu gap, gan fod yn rhaid iddo fod y maint cywir a rhaid dangos sut i’w osod yn iawn i sicrhau bod ceg y groth wedi’i orchuddio’n llwyr.

Mae’n rhaid gadael hwn i mewn am 6-8 awr ar ôl rhyw er mwyn iddo weithio. Yn wahanol i gondom, mae’r diaffram a’r cap ceg y groth yn ddull atal cenhedlu rhwystr y gellir ei ailddefnyddio a all bara ychydig flynyddoedd os caiff ei lanhau’n iawn, ei sychu, a’i gadw’n ddiogel bob tro mae’n cael ei ddefnyddio. Ond, yn wahanol i gondom, ni all diaffram neu gap serfigol atal STIs.

Calendr mislif gyda stwff mislif o gwmpas

Dulliau Ymwybyddiaeth o Ffrwythlondeb

Hyd at 99% yn effeithiol os caiff ei wneud yn gywir

Mae dulliau ymwybyddiaeth ffrwythlondeb (dulliau rhythm neu gynllunio teulu naturiol) yn dechneg lle mae pobl yn tracio’r cylchred mislif i ddeall y dyddiau pan fyddant fwyaf ffrwythlon er mwyn osgoi rhyw heb amddiffyniad.

Mae pobl sy’n defnyddio’r dull yma yn deall bod dau brif gam – cyn ac ar ôl ofyliad. Wrth dracio hyn, drwy ddarllen tymheredd y corff ar orffwys bob bore a monitro lefel y mwcws o’r serfics, gellir gwybod ble maent yn eu cylchred misol. Gellir defnyddio apiau i gadw golwg ar y wybodaeth yma hefyd a helpu ti i ragweld y dyddiau mwyaf ffrwythlon (pan fyddi di’n fwy tebygol i ddod yn feichiog).

Rhaid gwneud hyn yn gyson ac yn gywir os yw’r dull yma yn mynd i fod yn llwyddiannus. Mae’n rhad ac am ddim ac nid yw’n cynnwys hormonau, offer allanol na meddyginiaeth, ond gall fod yn llai dibynadwy i bobl â misglwyf afreolaidd neu’r rhai sydd heb amser neu drefn i dracio’r cylchred mislif yn gywir.

doctor yn barod am llawdriniaeth

Sterileiddio

Dros 99% yn effeithiol

Mae sterileiddio yn fath o atal cenhedlu sydd angen llawdriniaeth. Rhaid i ti fod yn sicr nad wyt ti eisiau plant biolegol yn y dyfodol, gan fod hwn yn ateb parhaol. Mae opsiynau lle gellir rhoi pethau yn ôl fel yr oedd cynt, ond gallant fod yn ddrud ac nid oes gwarant o lwyddiant.

Mae sterileiddio benywaidd yn golygu rhwystro neu selio’r tiwbiau ffalopaidd. Dyma’r tiwbiau y mae’r wyau’n teithio drwyddynt i gyrraedd y groth yn ystod ofyliad. Mae hyn yn golygu na all y sberm gyrraedd yr wy, gan atal beichiogrwydd.

Mae sterileiddio gwrywaidd, gelwir yn fasectomi, yn golygu torri neu rwystro’r fas deferens (y tiwbiau sy’n symud y sberm o’r ceilliau i’r pidyn). Trwy atal yr alldafliad (ejaculation) yn ystod rhyw, mae’n atal beichiogrwydd.

Mae risgiau’n cynnwys gwaedu a haint, fel y byddai gydag unrhyw lawdriniaeth.

potel siampên yn ffrwydro

Tynnu allan

80% yn effeithiol os gwneir yn gywir

Pan fydd y pidyn yn cael ei dynnu allan cyn alldafliad (ejaculation) fel nad yw sberm yn mynd i mewn i’r fagina. Dyma’r dull atal cenhedlu lleiaf effeithiol a gall fod yn annibynadwy iawn.

Hyd yn oed cyn alldafliad, mae’r pidyn yn gollwng ychydig o hylif cyn-alldaflu, gelwir yn ‘pre-cum’ yn aml, ac mae hwn yn gallu cynnwys sberm. Gall yr ychydig bach yma arwain at feichiogrwydd os yw’n mynd i mewn i’r fagina, felly nid yw dibynnu ar dynnu allan i atal beichiogrwydd yn gweithio’n effeithiol.

Mae’n gallu bod yn anodd rheoli hyn, mae angen llawer o ymarfer a hunanymwybyddiaeth, a hyd yn oed wedyn, gall ffaelu. Mae angen i ti hefyd fod a  ffydd lwyr yn y person arall os nad chdi yw’r un gyda’r pidyn.

Gan fod hwn yn anodd iawn i ddibynnu arno, awgrymir i ti ystyried un o’r dulliau atal cenhedlu mwy effeithiol a dibynadwy uchod.

Paid anghofio. Defnyddio condomau yw’r unig ddull atal cenhedlu sydd hefyd yn amddiffyn rhag STIs. Os wyt ti’n cael rhyw gyda gwahanol bobl heb gondom, mae cael prawf STI rheolaidd yn syniad da.

Gwybodaeth a Chymorth Pellach

  • Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
  • GIG Eich Canllaw Atal Cenhedlu – dulliau atal cenhedlu sydd orau i ti ac sy’n mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu gwestiynau
  • Brook – gwasanaeth iechyd rhywiol, addysg a lles i bobl ifanc.
  • Clinigau Iechyd Rhywiol – GIG Cymru – gwybodaeth am wneud apwyntiad, sut mae’n gweithio, beth sy’n digwydd, a chael y canlyniadau
  • Iechyd Rhywiol Cymru – gwybodaeth ar STIs, atal cenhedlu a phrofi
Baner manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.