x
Cuddio'r dudalen

Parchu Ffiniau: Deall Caniatâd

Mae perthnasau rhywiol rhwng dau oedolyn cytûn dros 16 oed yn gallu bod yn bleserus iawn. Mae cael caniatâd yn bwysig! Os nad wyt ti, mae’n anghyfreithlon, a gall cael effaith dinistriol ar y person sydd heb  roi caniatâd.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw Caniatâd?

Caniatâd rhywiol ydy pan fydd person yn dweud ei fod yn iawn i berson arall gael cyswllt rhywiol â nhw. Os nad rhoddir caniatâd gan un ohonynt, a dyw’r person arall ddim yn stopio, yna mae hyn yn cael ei ystyried fel ymosodiad rhywiol yn ôl y gyfraith. Os yw’r gweithgaredd yma yn cynnwys rhyw (rhyw fagina, anws neu yn y geg) yna mae hyn yn rêp. Gall unrhyw un fod yn ddioddefwyr ymosodiad rhywiol, beth bynnag eu rhyw, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw a chefndir.

Nid oes llinellau aneglur pan ddaw at ganiatâd. Mae’r fideo ‘Tea and Consent‘ yma yn egluro caniatâd yn glir mewn ffordd ddoniol ac ysgafn.

Mae gan rywun yr hawl i newid eu meddwl a dweud na ar unrhyw adeg, hyd yn oed os oeddent wedi cytuno ar y cychwyn. Gall cael dy wrthod yn anodd, yn enwedig pan fyddech chi wedi dechrau closio mwy, ond dyw’r ffaith dy fod di’n disgwyl y byddai pethau yn mynd yn bellach ddim yn golygu bod rhaid i’r person arall wneud hyn.

Os dyw rhywun ddim yn dweud ‘na’, nid yw hyn yn ei wneud yn ‘ia’. Dyw’r ffaith nad ydynt yn dweud na ddim yn golygu eu bod yn rhoi caniatâd.

Pryd all rhywun ddim rhoi caniatâd?

Diffiniad cyfreithiol caniatâd ydy “os yw’r person yn cytuno drwy ddewis, ac mae ganddynt y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis yma”.

Gad i ni edrych ar y ddau beth ar wahân.

Rhyddid yw os nad yw rhywun yn rhydd i ddewis os ydynt eisiau rhyw neu beidio, neu os ydynt dan fygythiad i wneud dewis. Nid ydynt wedi rhoi caniatâd.

Gallu yw cyflwr meddwl a gallu rhywun i wneud penderfyniad. Os oes gan rywun broblemau iechyd meddwl, neu ddim yn hollol ymwybodol neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, yna nid oed ganddynt y ‘gallu’ i wneud dewis. Golygai hyn na allant roi caniatâd yn gyfreithiol i ryw.

Os yw deall caniatâd yn anodd i ti, efallai bydd rhai o’r esiamplau yma yn helpu

  • Os yw rhywun wedi meddwi ac yn lled ymwybodol, nid allant roi caniatâd i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • Nid all cael caniatâd os yw rhywun yn cysgu neu’n anymwybodol ond wedi cytuno i weithgaredd rhywiol neu ryw gynt
  • Os yw rhywun yn ofnus ac wedi cael ei fygwth i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, nid ydynt wedi rhoi caniatâd

Am fwy o esiamplau a gwybodaeth ddefnyddiol, edrycha ar dudalen Chwedlau a Ffeithiau Caniatâd ar wefan Brook.

Pâr o ddwylo yn gafael mewn bariau carchar i flog caniatâd

Pam bod deall caniatâd yn bwysig?

Mae deall caniatâd yn arwain at berthnasau iach a rhyw ddiogel a pleserus.

Gall y goblygiadau o beidio deall caniatâd fod yn ddifrifol iawn. Mae ymosodiad rhywiol a rêp yn gallu cael effaith enfawr ar y ddau ohonoch. Bydd y person sydd heb roi caniatâd yn teimlo mewn trallod ac wedi’u treisio. Bydd y person sydd heb gael caniatâd yn gallu wynebu cofnod troseddol, dirwy, gorchymyn prawf neu’r carchar. Gallant gael eu cofrestru fel troseddwr rhyw hefyd.

Os nad wyt ti’n sicr am deimladau dy bartner am hyn, yna siarada â nhw. Darganfod y pethau maen nhw’n gyfforddus ag ef. Sicrha dy fod di’n cael “ie” brwdfrydig cyn unrhyw weithgaredd rhywiol, a cheisia beidio rhoi unrhyw bwysau arnynt. Mae parch at ymateb a theimladau dy bartner yn bwysig ymhob perthynas.

Gwybodaeth bellach

  • Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
  • Rape Crisis – gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan rêp, ymosodiad rhywiol, harasio rhywiol a phob ffurf arall o drais a chamdriniaeth rywiol. Cer i edrych ar eu tudalen Beth Yw Caniatâd Rhywiol
  • GIG Cymru – tudalen Rêp a Chamdriniaeth Rywiol
  • Cymorth i Ferched – elusen yng Nghymru yn gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn merched a genethod
  • Byw Heb Ofn – llinell gymorth yn darparu help a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol
  • Men’s Advice Line – llinell gymorth i ddioddefwyr gwrywaidd o gamdriniaeth ddomestig
  • Galop – elusen yn erbyn camdriniaeth LHDT+ yn gweithio gydag ac ar ran ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth a thrais LHDT+
  • Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru – y gyfraith am ryw a chaniatâd
Baner manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Os wyt ti’n ansicr am ganiatâd ac eisiau trafod hyn, yna cysyllta gyda ni yma yn Meic. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos i gynnig cefnogaeth gyda chyngor a gwybodaeth bellach. Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n ddioddefwr ymosodiad rhywiol yna anogwn i ti siarad gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt, fel rhiant, doctor, athro neu weithiwr cymdeithasol gall anogi a chefnogi ti i fynd at yr heddlu.

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta â ni ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Mae’n gyfrinachol ac am ddim.