x
Cuddio'r dudalen

Canllaw Coslyd STI a Phrofi

Mae’r blog yma yn edrych ar beth yw STI, sut i wybod os oes gen ti un, a beth i wneud os wyt ti’n meddwl bod gen ti un. Mae’n edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn clinig iechyd rhyw, sut i brofi gartref a phryd i gael prawf.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ac eisiau siarad, mae cynghorwyr Meic yn hapus i siarad gyda thi, yn gyfrinachol ac am ddim, rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Ni fyddem yn barnu a gallem  helpu ti i benderfynu ar y camau nesaf. Manylion ar y gwaelod.

Bacteria yn cynrychioli STI

Beth yw STI?

Mae STI yn acronym am Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol. Haint sy’n cael ei basio o un person i’r llall, ran amlaf trwy ryw heb amddiffyniad (condom). Weithiau mae pobl yn defnyddio’r term STD (afiechyd a drosglwyddir yn rhywiol).

Mae sawl STI gwahanol, gan gynnwys:

Sut ydw i’n gwybod os oes gen i STI?

Mae symptomau yn amrywio’n fawr ac yn dibynnu ar yr STI. Weithiau nid oes symptomau o gwbl. Dyma rai symptomau gallai awgrymu bod gen ti haint:

  • Poen wrth bipi
  • Rhedlif (discharge) anarferol o’r genitalia neu’r anws
  • Poen bol
  • Gwaedu rhwng mislif
  • Ceilliau neu fagina boenus neu wedi chwyddo
  • Poen wrth gael rhyw neu waedu wedyn
  • Lympiau neu swigen ar y genitalia
  • Genitalia yn tinglo, llosgi neu gosi
  • Symptomau fel ffliw

Paid mynd i banig! Efallai mai rhywbeth arall sy’n achosi rhai o’r symptomau yma, ond os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom, mae’n syniad da i ti gael prawf.

Weithiau nid oes symptomau, felly mae’r GIG yn argymell prawf STI bob blwyddyn os wyt ti’n cael rhyw heb amddiffyniad. Os wyt ti’n poeni bod gen ti STI, cer am brawf cyn gynted â phosib. Sicrha dy fod di’n defnyddio condom i amddiffyn dy bartner/iaid rhyw nes i ti gael y canlyniadau.

Llun niwlog o glinig gwag

Beth ydw i’n gwneud os ydw i’n  amau bod gen i STI?

Mae posib cael gwared ar y mwyafrif o STIs, felly paid mynd i banig. Mae dau beth allet ti ei wneud. Gwneud apwyntiad mewn clinig iechyd rhyw (neu GUM) lleol neu wneud prawf gartref. Mae yna sesiynau galw heibio mewn rhai clinigau, ond efallai bydd angen apwyntiad. Cysyllta gyntaf i weld.

I ddarganfod y clinig iechyd rhyw neu GUM agosaf, clicia ar y ddolen i dy Fwrdd Iechyd lleol isod:

Beth sydd yn digwydd mewn clinig iechyd rhyw

Mae clinigau iechyd rhyw yn arbenigo mewn iechyd rhywiol. Mae’r staff yn delio gyda STIs bob dydd, felly nid oes rhaid i ti deimlo cywilydd. Ni fyddant yn barnu a byddant yn egluro popeth i ti, yn rhoi cyngor ac mae profi a thriniaeth yn gyfrinachol ac am ddim.

Byddant yn gofyn am enw a manylion cyswllt. Mae croeso i ti roi enw ffug os oes well gen ti, ond bydd angen rhoi manylion cyswllt cywir fel bod posib cysylltu gyda’r canlyniadau. Nid oes rhaid i ti boeni gan fod popeth yn cael ei gadw’n gyfrinachol – ni fyddant yn dweud wrth dy feddyg teulu heb i ti roi caniatâd.

Byddant yn gofyn am dy hanes meddygol a rhywiol – eto, nid oes rhaid i ti boeni; maent yn gwneud hyn bob dydd ac wedi clywed popeth eisoes!

Bydd y nyrs neu ddoctor yn penderfynu ar y profion rwyt ti angen. Yn dibynnu ar yr hyn maent yn profi amdano, gall hyn fod yn sampl pipi neu waed, swab o’r wrethra neu fagina (rwyt ti’n gwneud y swab fagina dy hun) neu archwiliad o’r genitalia.

Os wyt ti’n profi’n bositif, byddant yn gofyn i ti ddychwelyd i’r clinig i drafod triniaeth. Byddant hefyd yn gofyn i ti ddweud wrth unrhyw un rwyt ti wedi bod yn agos atynt yn rhywiol fel y gallan nhw gael prawf hefyd. Nid oes rhaid i ti wneud hyn dy hun os nad wyt ti eisiau; mae’r clinig yn gallu dweud wrth bobl ar dy ran ac ni fyddant yn dweud wrthynt pwy wyt ti.

Mwy am brofi am wahanol STIs ac ymweld â chlinig STI ar y dudalen GIG yma

Tiwb profi gyda Gonorrhea a Syffilis arno i flog STI

Beth yw pecyn profi gartref?

Maent yn arbrofi gyda Gwasanaeth Profi a Phostio’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Maent yn gyrru pecynnau am ddim ar gyfer Chlamydia, Gonorrhoea, HIV, Syffilis, a Hepatitis B neu C i dy gartref mewn pecyn cynnil.

Yn dibynnu ar yr STI, byddi di’n un ai gwneud prawf pipi neu waed, neu’n cymryd swab o’r fagina, gwddf neu’r pen ôl. 

Bydd y pecyn yn cyrraedd mewn 3-5 diwrnod, a dylai’r canlyniadau gyrraedd o fewn 3 wythnos i ti ddychwelyd y pecyn. Os yw popeth yn negyddol yna bydd neges testun yn cael ei yrru i ddweud hynny. Os yw unrhyw un o’r profion yn Bositif, yna bydd dy wasanaeth iechyd rhywiol yn cysylltu i drefnu triniaeth.

Darganfod mwy am Wasanaeth Profi a Phostio GIG yma.

Pryd i gael prawf

Os wyt ti’n poeni dy fod di wedi dal Chlamydia neu Onorrhoea, dylid disgwyl pythefnos ar ôl cael rhyw heb gondom i gael y prawf. Gwna’r prawf yn rhy fuan a ni fydd yn dangos canlyniad positif.

Os wyt ti eisiau prawf HIV yna bydd rhaid disgwyl 7 wythnos ers i ti gael rhyw heb gondom gan na fydd HIV yn dangos fel positif cyn hynny. Awgrymir i ti brofi eto ar ôl 5 wythnos arall am Syffilis, Hepatitis B a C gan na fydd y rhain yn dangos cyn 12 wythnos (gall Hepatitis C gymryd hyd at 6 mis i ddangos canlyniad positif).

Os wyt ti’n credu dy fod di wedi bod gyda rhywun sydd â HIV yn y 72 awr ddiwethaf (3 diwrnod), yna gellir cymryd meddyginiaeth PEP neu PEPSE (Proffylacsis Ôl-Amlygiad ar gyfer HIV) i geisio stopio’r firws. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib, gorau po gyntaf y byddi di’n ei gymryd. Cysyllta â dy wasanaeth iechyd rhyw leol ar y dolenni uchod, neu os yw allan o oriau, cer i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf (A&E).

Banana gyda yn gwenu gyda het condom

Amddiffyn dy hun rhag STI

Mae llawer o ddewisiadau atal cenhedlu, ond y ffordd orau i amddiffyn dy hun rhag dal neu rannu STI yw defnyddio condom allanol (gwryw) neu fewnol (benyw). Os yw’r rhain yn cael eu defnyddio’n gywir maent rhwng 95 a 98% yn effeithiol.

Mae posib dal STI trwy ryw geneuol (oral) hefyd. Amddiffyn dy hun wrth ddefnyddio condomau neu len deintyddol (dental dam). Mae llen deintyddol yn ddarn tenau o latecs sydd yn cael ei ddefnyddio fel rhwystr rhwng y geg a’r fagina neu anws. Mae’r rhain yn gallu bod yn anodd dod ar eu traws, felly mae Cymru Chwareus wedi creu fideo i ddangos sut i greu llen deintyddol gyda chondom.

Cer draw i’n blog opsiynau atal cenhedlu yma.

Os wyt ti o dan 25 oed, mae posib cael condomau am ddim trwy’r cynllun Cerdyn-C. Darganfod dy ganolfan agosaf yma.

Gwybodaeth bellach

Baner manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.