x
Cuddio'r dudalen

Perthynas Ddigidol: Cadw’n Ddiogel Wrth Secstio

Mae cael sgyrsiau rhywiol a fflyrtio gyda rhywun rwyt ti’n hoffi ar-lein neu ar dy ffôn yn beth cyffredin. Ond beth sy’n digwydd os aiff pethau o’i le? Beth os wyt ti’n teimlo dan bwysau? Yn y blog yma, edrychwn ar secstio, y gyfraith, y peryglon, delio gyda phwysau a beth i wneud yw rhywbeth yn mynd o’i le.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw secstio?

Secstio ydy gyrru lluniau, fideos, sain neu negeseuon rhywiol ar-lein neu ar dy ffôn. Efallai bod hyn rhwng pobl sydd yn adnabod ei gilydd neu rhwng dieithrion ar y rhyngrwyd.

Gall hyn gynnwys:

  • Gyrru neu rannu lluniau neu fideos rhannol noeth, noeth, neu rywiol (noethlun)
  • Gyrru, derbyn neu rannu negeseuon, e-byst neu nodiadau llais rhywiol
  • Perfformio gweithred rywiol ar ffrwd byw, camera gwe neu alwad fideo

Mae llawer o resymau dros secstio. Mae rhai pobl yn dweud eu bod yn mwynhau, mae’n rhoi hyder iddynt, mae yna elfen o beryg a hwyl ac yn ffordd i archwilio dy rywioldeb. Ond mae rhai yn teimlo dan bwysau neu yn credu mai dyma yw’r norm a bod pawb yn gwneud hyn os ydynt mewn perthynas.

Merch dan y cynfas yn edrych ar ffôn gyda wyneb sioc - blog secstio

Ydy secstio’n gyfreithiol?

Mae’n anghyfreithiol cymryd, derbyn neu rannu noethluniau o rywun dan 18 oed, hyd yn oed os mai ti sydd yn y llun.

Os wyt ti dros 18 oed, mae’n anghyfreithiol i ti yrru noethlun i rywun dan 18.

Mae’n anghyfreithlon gofyn i rywun dan 18 i yrru noethlun.

Mae’n anghyfreithlon i rannu noethluniau o rywun heb eu caniatâd – mae hyn hefyd yn delio gyda porn dial (rhannu llun o hen gariad i achosi cywilydd neu ofid).

Beth yw’r peryglon?

Rydym wedi siarad am yr ochr gyfreithiol, ond mae yna beryglon eraill i’w hystyried hefyd.

Dylai secstio fod yn benderfyniad cytûn. Beth os yw’n achosi rhywun i deimlo’n anghyfforddus, i boeni neu ofni? Gall hyn gael effaith negyddol ar dy berthynas.

Gallet ti golli rheolaeth o dy luniau neu fideo. Beth os yw’r person rwyt ti wedi gyrru noethlun iddynt yn ei ddangos neu’n ei rannu gydag eraill? Efallai dy fod di mewn perthynas da nawr, ond beth sy’n digwydd os yw’r berthynas yn chwalu?

Gall y lluniau cael eu defnyddio i’ch manipiwleiddio, blacmelio neu ecsploetio (os nad ydych chi’n gwneud rhywbeth, yna byddant yn ei ddangos i rywun arall).

Gallai gael effaith negyddol ar eich enw da a’ch perthynas gyda ffrindiau neu deulu. Gall hefyd arwain at fwlio.

Os wyt ti’n siarad â rhywun ar-lein, bydda’n ymwybodol bod posibilrwydd nad ydynt y person maent yn dweud yr ydynt. Mae grwmio ar-lein a blacmel yn digwydd. Paid gyrru lluniau neu fideos i bobl ddiarth. Os ydyn nhw’n gyrru noethluniau neu negeseuon rhywiol sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, blocia ac adrodd nhw.

Bachgen ifanc gorwedd yn gwely ar ei ffôn

Delio gyda rhywun yn rhoi pwysau arnat ti

Mae’n iawn dweud na.

Nid yw’n iawn i rywun roi pwysau arnat ti i secstio. Os yw rhywun yn swnian arnat ti yn barhaol am noethluniau neu yn gyrru negeseuon, lluniau neu fideos anaddas, yna blocia ac adrodd nhw.

Os wyt ti mewn perthynas, yna dylai secstio fod yn rhywbeth mae’r ddau ohonoch yn cytuno iddo. Ceisia egluro dy deimladau. Os wyt ti mewn perthynas iach, yna fe ddylai dy bartner ddeall a derbyn dy deimladau a dy benderfyniadau. Dylet ti fedru cyfathrebu dy deimladau heb boeni neu ofni eu hymateb.

Os wyt ti’n teimlo fel na fedri di fod yn onest mewn perthynas ag yn teimlo dan bwysau, siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt. Mae Meic yma i wrando os wyt ti angen gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol. Manylion cysylltu isod.

Paid teimlo fel bod rhaid i ti wneud am fod dy ffrindiau’n gwneud. Bydd ffrindiau da yn dy gefnogi ac yn deall os nad wyt ti eisiau gwneud rhywbeth.

Beth os yw pethau yn mynd o’i le?

Os yw dy lun neu fideo wedi cael ei rannu ar-lein, mae hyn yn erbyn y gyfraith. Defnyddia’r teclyn ‘Report Remove’ i’w dynnu i lawr.

Os wyt ti’n poeni am gamdriniaeth rywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu â thi ar-lein, adrodd hyn i CEOP.

Os wyt ti’n cael dy fygwth neu dy flacmelio, paid gyrru mwy o luniau. Adrodd y peth.

Os wyt ti’n derbyn negeseuon, lluniau neu fideos ar gyfryngau cymdeithasol, adrodd nhw ar y llwyfan yna a blocio.

Siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt. Mae yna bobl gall rhoi cymorth i ti a helpu ti trwy’r sefyllfa. Os wyt ti’n anghyfforddus yn siarad gyda rhywun rwyt ti’n adnabod, cysyllta â’n llinell gymorth; bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn gweithio gyda thi i ddarganfod datrysiad.

Gwybodaeth a chyngor pellach

  • Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
  • Report Remove – teclyn i helpu pobl ifanc dan 18 i adrodd lluniau a fideos rhywiol ohonynt a chael tynnu nhw o’r rhyngrwyd
  • ThinkUKnow– gwybodaeth gan CEOP am amddiffyn dy hun ar-lein ac oddi ar y rhyngrwyd, gan gynnwys Perthnasau, Cymdeithasu Ar-lein, Diogelwch Ar-lein, Noethluniau, Rhyw a Chynnwys Rhywiol Ar-lein, a Chamdriniaeth Rywiol
  • CEOP – adrodd camdriniaeth rywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu â thi ar-lein
  • Childline – tudalen gwybodaeth Secstio a Gyrru Noethluniau
  • Aflonyddu Rhywiol Ar-lein – Tudalennau Problemau a Phryderon Ar-lein
  • Rhannu Lluniau Noeth – Tudalennau Problemau a Phryderon Ar-lein
  • Brook – Tudalen Secstio a Rhannu Noethluniau
  • Llinell Gymorth Porn Dial – cefnogi dioddefwyr porn dial dros 18 oed
Baner manylion cyswllt Meic

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.