x
Cuddio'r dudalen

Dyma Fy Stori Arholiadau

Mae arholiadau ymhob man ar hyn o bryd a gall fod yn gyfnod anodd iawn i rai. Mae Meic yma i helpu wrth gyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol dros yr wythnosau nesaf i helpu ti i ymdopi a pharatoi. Os ydy pethau’n profi’n rhy anodd yna gallet ti gysylltu â Meic ar y manylion ar waelod yr erthygl hon.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)


Mae Alice o Gaerdydd yn deall yn iawn am y straen ddaw gydag arholiadau ac roedd am rannu ei phrofiad gyda phobl ifanc eraill. Isod gellir darllen ei safbwynt a’i chyngor o pan roedd hi’n eistedd ei arholiadau, ond i gychwyn dyma fideo bach wedi’i greu o’i stori hoffwn rannu gyda thi.

Stori Alice

Efallai bod yr arholiadau wedi dod i ben i mi, ond dwi’n cofio’r cyfnod pan roedd yn amhosib cau dy lygaid a mynd i gysgu heb glywed llais dy athro yn swnian yn dy ben, yn dweud bod unrhyw benderfyniad yn mynd i aros gyda thi am weddill dy oes.

Ceisiais beidio cynhyrfu, ond fel arfer roedd hyn yn troi’n wallgofrwydd pellach wrth i mi gynhyrfu am y ffaith nad allwn stopio cynhyrfu! Ceisiais ddilyn y cyngor o gyfri defaid, ond fel arfer roeddent yn newid i ddyddiadau hanesyddol neu sawl Harri’r Wythfed bychan yn carlamu dros y ffens.

Yn waeth nag hynny, ar ôl yr arholiadau roedd gen i gymaint o gwestiynau heb eu hateb.

“Beth allwn i wedi ysgrifennu ym mhum munud diwethaf yr arholiad Ffrangeg?”

“Pa brifysgol?”

“Pa swydd?”

Dwi’n un ai’n meddwl am y pethau yma neu’n breuddwydio am hafaliadau arwynebedd cylch o leiaf tair waith y nos!

Teimlo straen gyda chyngor straen!

Yn aml ymddangosai fel bod mwy o wybodaeth am y symptomau o straen na chyngor am sut i’w oroesi. Y peth dwi’n casáu fwyaf ydy pan fydd tudalennau yn rhestru symptomau straen. Roeddwn i dan bwysau. Roedd gen i gur pen ac yn methu cysgu. Ond roeddwn eisiau trechu’r poendod hwn, nid edrych ar ryw restr o bwyntiau bwled yn cynghori i ‘anadlu’n ddofn’ – fel rhywun sy’n dioddef o asthma mae hynny’n anodd! Dyna le’r oeddwn, yn effro am ddau’r bore, yn ceisio tawelu’r meddwl wrth gredu bod cadw’n ddigyffro ac anadlu i mewn ac allan yn araf yn golygu byddwn yn cysgu am naw awr gyfan cyn yr arholiad mathemateg – annhebygol!

Felly i helpu eraill sydd yn chwilio am gyngor defnyddiol yn hytrach nag rhestr o symptomau, dyma fy nghyngor i am yr hyn gall helpu yn ystod arholiadau.

nodiadau arolygu o'r fideo ar gyfer fy stori arholiadau

1. Amseru’r adolygu yn iawn

Y camgymeriad cyntaf gall rhywun ei wneud ydy adolygu’n hwyr yn y nos. Mae ceisio gwasgu llinell amser yr Ail Ryfel Byd i mewn yn dy ben am 11 y nos yn mynd i ddangos i ti’r hyn ti ddim yn ei wybod. Dyma’r unig beth fydd yn mynd drwy dy feddwl di wrth i ti geisio cysgu. Ceisia gorffen yr adolygu o leiaf awr cyn diffodd y golau; cer am dro, darllena lyfr, neu eistedd mewn lle cyffyrddus, distaw am ychydig.

2. Cofleidio’r cwsg

Cer i’r gwely ar amser addas. Efallai bydd rhai pobl yn cynghori ti i fynd i’r gwely’n fuan pan fydd gen ti ddiwrnod anodd o dy flaen, ond os mai 10:30yh ydy dy amser cysgu naturiol, a ti’n ceisio cysgu am 9yh, yna mae’n debyg byddi di’n gorwedd yna’n poeni nad wyt ti’n gallu cysgu. Rhaid darganfod cydbwysedd – paid cysgu tan 11 y bore os wyt ti’n gwybod na fyddi di’n cysgu am 11 y nos. Mae cael trefn gyson yn bwysig.

3. Cynllun adolygu

Gosoda ffigwr benodol i’r cyfnod astudio, a chadw ato. Yn bersonol dwi’n gweithio’n well wrth rannu’r adolygu i mewn i dalpiau pynciau a chael seibiant byr ar ôl gorffen adran. Cofia roi awr i ti dy hun i ginio a chael seibiant llwyr o unrhyw beth i wneud gydag astudio. Paid teimlo’n euog am wneud yr hyn ti’n mwynhau ar ôl i ti orffen yr adolygu gosodwyd am y diwrnod. Ni ddylid gadael i arholiadau orchymyn y ffordd ti’n byw dy fywyd.

4. Bwyd i’r ymennydd

Mae’r ffordd ti’n bwyta yn chwarae rhan bwysig mewn dileu straen. Fy hafan ddiogel i pan oedd gen i bwysau penderfyniadau pwysig oedd siocled – llawer o siocled. I’m hanfodlonrwydd, er bod bwydydd llawn siwgr a braster yn dy godi di yn y tymor byr, byddi di’n teimlo’n isel wedyn. Efallai nad yw ffrwythau, llysiau, cnau, bwydydd protein a grawnfwyd yn swnio’n flasus iawn bob tro, ond byddant yn cadw’r lefelau siwgr yn y gwaed yn uchel ac maent yn dda i’r ymennydd.

5. Cwtanu’r caffein

Efallai bod coffi, te a cola yn teimlo fel ffrind ffyddlon wrth i ti wynebu llinellau terfyn a phenderfyniadau straenus. Ond, byddi di’n teimlo’n gynhyrfus ac yn cael trafferth cysgu. Rhaid yfed digon o ddŵr i gadw’n hydradol. Mae te llysieuol hefyd yn ddewis gwych yn lle dy baned arferol. Ffefryn personol i mi ydy camil a mêl.

6. Osgoi sgrin yn hwyr y nos

Gallet ti feddwl bod cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda i wastraffu amser wrth eistedd yn y gwely, ond twyll yw hyn. Roedd cadw pellter o’r byd y tu mewn i’m ffôn yn help i mi i fynd i gysgu’n haws. Y prif reswm am hyn ydy bod edrych ar sgrin am o leiaf dwy awr cyn cysgu yn atal y rhyddhad arferol o melatonin yn y nos, yr hormon sydd yn gyfrifol am wneud ti’n gysglyd.

Mae mynd ar gyfryngau cymdeithasol yn hwyr y nos yn rhoi ti mewn perygl o ddialog panig hefyd. Dy ffrindiau yn poeni am ddiffyg paratoi ar gyfer yr arholiad nesaf, sôn am yr ateb i’r cwestiwn diwethaf nad wyt ti’n cofio ei weld hyd yn oed, neu pa mor hawdd oedd yr arholiad tra bod ti wedi cael trafferth cofio sut i ysgrifennu dy enw ar frig y dudalen! Dyw hyn ddim yn helpu ti i aros yn dawel a mynd i gysgu.

7. Meddwl yn bositif

Y ffordd gorau i wir orffwys oedd newid meddylfryd. Mae’n bwysig deall nad yw’r dyfodol yn ddibynnol llwyr ar ganlyniad un arholiad. Er bod canlyniadau arholiadau da yn helpu ti i lwyddo yn dy uchelgeisiau, paid teimlo nad oes posib bod yn llwyddiannus heb gael C yn y TGAU Daearyddiaeth. Ni chafodd Richard Branson, Bill Gates a Zoella radd prifysgol. Daw llwyddiant o ysgogiad a bod yn benderfynol.

Paid gadael i arholiadau ddiffinio pwy wyt ti a’r hyn rwyt ti eisiau gwneud.

Siarada gyda Meic

Os wyt ti’n teimlo bod ymdopi’n anodd neu eisiau cyngor neu wybodaeth bellach yna galwa’r llinell gymorth Meic i siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.


Dyma erthyglau eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ymgyrch arholiadau Meic. Bydd mwy yn cael eu hychwanegu fel mae’r ymgyrch yn parhau: