x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut i Ymdopi Gyda Phobl Negyddol

Person yn gwisgo top llawes fer biws gyda golwg poeni ar ei hwyneb. Gwallt bob du, clustlysau glas crwn

Wyt ti’n adnabod rhywun sydd wastad yn gwneud i ti deimlo’n flinedig neu’n ypset ar ôl siarad â nhw? Efallai mai’r rheswm am hyn ydy dy fod di’n delio gyda rhywun negyddol.

Nid yw bod yn negyddol yn golygu dy fod di’n berson drwg. Mae ymennydd rhai pobl yn tueddu canolbwyntio ar deimladau o fethiant, dadlau, brifo, dig, neu gasineb. Weithiau mae pobl angen rhannu teimladau i gael eu clywed a’u deall. Mae’n iawn i beidio teimlo’n hapus drwy’r adeg ac i rannu os nad wyt ti’n teimlo’n iawn. Ond, mae’n anodd gwybod sut i amddiffyn dy egni pan mae’n dechrau cael effaith ar dy les emosiynol ac iechyd meddwl.

Dyma ein cyngor ar sut i ymdopi gyda phobl negyddol:

Cartŵn o ddyn a dynes wedi clymu gyda'i gilydd gyda llinyn o gwmpas y canol. Llaw fawr yn dal siswrn uwchben yn barod i dorri'r llinyn. Yn cynrychioli torri person negyddol o dy fywyd.

Paid cau nhw allan o dy fywyd

Nid yw’r tueddiad o annog pobl i ganslo’r pethau a’r bobl sydd yn ddrwg i’w lles yn ddoeth bob tro.

Efallai bod hyn yn llwyddiant mewn rhai sefyllfaoedd, ond fel arfer y cam olaf un yw hyn, ac nid yw’n bosib bob tro. Weithiau, mae’n rhaid i ti fod o gwmpas y bobl yma, fel yn y dosbarth neu yn y gwaith, ond bydd dysgu sut i reoli’r sefyllfa yn helpu ti i ymdopi gyda’r negatifrwydd.

Os yw negatifrwydd rhywun yn cael effaith ar dy les yna ceisia dreulio llai o amser â nhw os yw’n bosib. Os ddim, yna gallet ti siarad gyda dy athro neu fos. Tra bod hyn yn gallu codi ofn ar rai, mae rhannu teimladau yn gallu helpu newid pethau. Efallai byddant yn gadael i ti symud desg.

Merch hapus gyda chwmwl gwyn a haul uwch ei phen a merch negyddol dan straen gyda storm dros ei phen.

Deall dy rôl

Efallai bod negatifrwydd rhywun a chael dy dynnu i mewn i’w bywyd nhw, yn dy flino’n lân.

Mae’n naturiol teimlo fel y gallet ti ddatrys sefyllfa, ond nid dy gyfrifoldeb di yw hyn. Pan fydd rhywun yn rhannu rhywbeth negyddol, nid dy waith di ydy gwneud iddynt deimlo’n well. Mae cymryd pethau’n bersonol a meddwl ei fod yn rhywbeth i wneud â thi yn golygu byddi di’n cael dy glymu yn yr holl beth.

Dysga wrando heb deimlo’r angen i newid y sefyllfa. Bydd hyn yn defnyddio llai o dy egni ac yn caniatáu i ti ymdopi’n well gyda negatifrwydd.

Cartŵn o berson hapus yn sgipio drwy'r blodau gyda gwen fawr a'i breichiau i fyny gyda phili-pala yn hedfan o'i chwmpas. Yn gwisgo top gwyn, siaced oren, trowsus glas ac esgidiau gwyn. Yn dangos y gwahaniaeth rhwng bod yn rhy bositif ac yn negyddol

Osgoi positifrwydd gwenwynig

Weithiau mae pobl yn taclo’r negyddol gyda phositifrwydd, ond gall hyn fod yr un mor niweidiol. Positifrwydd gwenwynig ydy pan fydd pobl yn gwrthod syniadau negyddol neu’n lleihau problemau fel nad ydynt i weld mor fawr. Rhywbeth fel, “Edrycha ar yr ochr ddisglair” neu “Gall pethau fod yn waeth”.

Gall chwilio am y gorau mewn sefyllfa fod yn beth da weithiau, ond gall hefyd fychanu teimladau pobl a gwneud iddynt deimlo’n unig, fel bod neb yn deall. Gall hefyd arwain at lawer o fynd a dod, sydd yn gallu bod yn anodd ymdopi ag ef. Ceisia osgoi’r dywediadau diystyr yma a chydnabod bod pethau’n gallu bod yn anodd iawn weithiau.

Gwydriad o lefrith hanner llawn neu hanner gwag

Deall persbectif

Wyt ti wedi clywed am y gwydr hanner gwag neu hanner llawn? Dyw’r ffaith dy fod di’n edrych ar yr un sefyllfa â rhywun arall ddim yn golygu eich bod chi’n gweld pethau yn yr un ffordd. Os oes gan rywun bersbectif gwahanol i ti, nid yw hyn yn golygu eu bod nhw’n anghywir, dim ond yn wahanol, ac mae hynny yn iawn.

Weithiau mae cynnig safbwynt gwahanol yn gallu helpu, ond mae’n syniad da i ofyn i’r person os ydynt eisiau clywed dy farn di. Os nad ydynt eisiau gwrando, yna mae hynny’n iawn hefyd. Mae’n debyg mai eisiau fentio maen nhw.

Darlun wal frics coch. Yn cynrychioli gosod ffiniau rhyngot ti a pherson negyddol

Gosod ffiniau (a’u cadw)

Mae’n debyg mai’r ffordd orau i ymdopi gyda phobl negyddol ydy i osod ffiniau.

Gallet ti geisio ailgyfeirio’r sgwrs. Os nad ydynt yn cydweithredu gofynna a allech chi siarad am rywbeth gwahanol. Gallet ti geisio dweud rhywbeth fel. “Dwi’n teimlo braidd yn ypset efo hyn, ac mae’n anodd i mi siarad am y peth. Allwn ni siarad am rywbeth gwahanol?”

Siarad gyda chynghorydd Meic

Mae cynghorwyr cyfeillgar Meic yn hapus i siarad am unrhyw bryderon sydd gen ti, ac yn gallu helpu ti i feddwl am ddatrysiadau. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8yb tan hanner nos bob dydd. Gallet ti gysylltu am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddienw, ar y ffôn, tecst, neu sgwrs ar-lein.