x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Sut i Fyw Gyda’ch Gilydd Mewn Heddwch

Mae rhannu cartref pan fydd perthnasau dan straen yn gallu bod yn anodd iawn beth bynnag, ond yn fwy fyth yn y cyfnod yma o gyfyngiadau Covid-19. Yma byddem yn cynnig cyngor ar sut i ddod ymlaen yn well gyda’r bobl rwyt ti’n byw a nhw.

Dyma ran 1 o 3 mewn cyfres o erthyglau yn edrych ar dai a pherthnasau yn ystod Covid-19. Mae Rhan 2 a Rhan 3 yn edrych ar beth i’w wneud pan fydd y sefyllfa yn annioddefol a bod rhaid cael allan.

———

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Rydym wedi cael amser i fyw gyda chyfyngiadau Covid-19 bellach. I rai, mae pethau wedi dod yn haws dros amser, ond i eraill mae’r straen o fod â’i gilydd drwy’r adeg yn gwaethygu. Mae’n anodd ar deuluoedd a chyd-letywyr i dreulio mwy o amser â’i gilydd – bydd tensiwn a ffraeo yn siŵr o ddigwydd ond gallet ti roi tro ar ychydig o bethau i geisio gwneud ti, a’r bobl ti’n byw â nhw, deimlo’n well. Rho dro ar y canlynol:

Cloc i erthygl Cyngor i Fyw Gyda'ch Gilydd Mewn Heddwch yn Ystod Covid-19

Amser i ti dy hun

Mae cael amser i ti dy hun yn bwysig. Anadla’n ddofn ac ymlacia. Mae hyn yn ffordd dda i osgoi unrhyw ddadlau diangen a byddi di’n teimlo’n well wedyn.

Nodau cerddorol i erthygl Cyngor i Fyw Gyda'ch Gilydd Mewn Heddwch yn Ystod Covid-19

Cerddoriaeth

Gwranda ar gerddoriaeth fydd yn gwneud i ti deimlo’n well, canu, chwarae offeryn neu ddawnsio (gan ddefnyddio clustffonau os oes angen).

Pensil

Ysgrifennu

Noda dy deimladau i lawr ar bapur. Mae lleisio’r emosiynau anodd (hyd yn oed ar bapur) yn gallu helpu, byddi di’n teimlo’n dawelach dy feddwl.

Paent a brwsh

Celf

Rho dro ar rywbeth crefftus. Gallet dorri darnau o gylchgrawn i greu neu lunio portread neu wawdlun.

Emoji chwerthin

Chwerthin

Awgryma weithgareddau hwyl i’w gwneud â’ch gilydd. Mae chwerthin yn gwneud i bawb deimlo’n well.

Siarad i mewn tun i erthygl Cyngor i Fyw Gyda'ch Gilydd Mewn Heddwch yn Ystod Covid-19

Cyfathrebu

Meddylia am ffyrdd i roi gwybod i’r llall pan fyddech chi’n teimlo straen. Cytunwch i barchu angen eich gilydd am dawelwch.

Dau law yn gafael

Helpu

Cyniga help os yw pethau’n anodd ar rywun. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i sut mae’r ddau ohonoch yn teimlo.

pwysau

Cadw’n heini

Mae ymarfer corff yn ffordd dda i ryddhau teimladau o rwystredigaeth a bydd yr endorffinau yn gwneud i ti deimlo’n well wedyn – gall hefyd fod yn rheswm da i gael allan o’r tŷ.

Arwydd 2m i erthygl Cyngor i Fyw Gyda'ch Gilydd Mewn Heddwch yn Ystod Covid-19

Cyfarfod ag eraill

Cyfarfod gyda chartref arall, yn yr awyr agored, 2 fetr ar wahân. Mae’r cyfyngiadau wedi’u lleddfu ychydig felly bydd hyn yn helpu gyda’r straen o fod â’r un bobl drwy’r adeg.

Yr uchod ddim yn helpu?

Os yw pethau yn annioddefol adref, neu os wyt ti’n cael dy niweidio neu ddim yn teimlo’n ddiogel, yna edrycha ar yr erthyglau canlynol ar gyfer rhai Dan 18 a Dros 18.