x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Canllaw i Siarad am Arian Gyda Dy Ffrindiau

Llun cartŵn yn dangos dau ffrind. Mae un yn gafael llawer o arian a'r llall yn edrych yn ddig.

Gall arian fod yn bwnc sensitif, yn enwedig ymysg ffrindiau. Mae’n bwysig deall bod sefyllfa ariannol pawb yn wahanol, ac efallai fod gan rai pobl anghenion ariannol gwahanol i eraill. Bydd y blog yma’n cynnig cyngor ar sut i siarad yn agored ac yn onest am arian gyda dy ffrindiau

Pam bod arian yn bwnc sensitif?

Mae nifer o bobl ifanc yn gwynebu heriau ariannol megis benthyciadau myfyriwr, rhent a chostau byw. Gall hyn olygu bod rheoli dy arian a fforddio nwyddau neu weithgareddau sydd ddim yn hanfodol yn anodd.

Mae gan rai pobl gyfrifoldebau sy’n effeithio ar eu cyllid megis gofalu am frodyr neu chwiorydd iau neu aelodau hŷn o’r teulu.

Ar ben hyn, gall costau annisgwyl godi weithiau. Mae hyn yn gallu cael effaith ar dy gyllideb ac achosi poen meddwl mawr i ti.

Merch ifanc yn talu am ei choffi gyda'i oriawr glyfar.

Mae’n debygol fydd gan rhai o dy ffrindiau fwy neu lai o arian na ti – does neb yn yr un sefyllfa ariannol. Cofia, mae gan bawb flaenoriaethau ariannol gwahanol. Mae rhai yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd, tra bod gan eraill fwy o incwm gwario.

Incwm gwario yw faint o arian sydd gen ti ar ôl ar ôl talu am hanfodion fel biliau, rhent, morgais a bwyd.

Mae pobl yn hoffi gwario eu hincwm gwario ar wahanol bethau. Mae rhai yn blaenoriaethu teithio neu weithgareddau, tra bod eraill yn meddwl am gynilo at y dyfodol.

Mae’r holl ffactorau yma yn ei gwneud hi’n anoddach siarad am arian gyda dy ffrindiau; be mae pawb yn gallu fforddio, a meddwl am weithgareddau i wneud gyda’ch gilydd.

Cartŵn o ferch yn edrych ar ei derbynneb gyda sioc ar ei gwyneb. Mae hi'n cario bag siopa bwyd hefyd.

Dyma ychydig o gyngor am sut i siarad am arian gyda ffrindiau:

Bydda’n onest ac yn agored

Os wyt ti’n poeni am arian, paid â bod ofn siarad gyda dy ffrindiau. Does dim rhai teimlo cywilydd, gallent gynnig cefnogaeth neu gyngor i ti. Mae rhannu dy sefyllfa ac ymddiried yn dy ffrindiau yn gallu lleihau straen. Cofia, dwyt ti ddim ar ben dy hun os wyt ti’n gwynebu heriau ariannol.

Paid â chymharu dy sefyllfa

Mae cymharu dy sefyllfa ariannol gydag eraill yn gallu bod yn niweidiol a gwneud i ti deimlo nad wyt ti’n ddigon da. Canolbwyntia ar dy sefyllfa dy hun, a thrïa beidio sôn am bethau drud ti wedi’i brynu neu gael fel anrheg.

Merch yn edrych yn ei phwrs ac wedi synnu bod dim arian ynddo.

Cynnig Cymorth

Os yw ffrind yn cael trafferth gydag arian, cynigia gymorth ymarferol. Os ydyn nhw’n fodlon, efallai galli di ei helpu i ddod o hyd i swydd neu rannu adnoddau am arian, fel y rhai sydd gennym ni ar Meic.

Angen mwy o gymorth?

Mae pob sefyllfa ariannol yn unigryw ac mae pob perthynas yn unigryw. Drwy siarad gyda llinell gymorth Meic, fe alli di gael gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Siarada gyda ni yn gyfrinachol ac yn ddienw o 8yb i hanner nos bob dydd.