x
Cuddio'r dudalen

Cefnogi Ffrind sy’n Galaru

Pan mae rhywun agos i ti yn galaru, mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut i ymddwyn. Rwyt ti’n poeni amdanynt ac eisiau helpu, ond ti ddim isio dweud neu wneud y peth anghywir. Dyma gyngor i gefnogi ffrind sydd wedi colli rhywun.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar.
I weld mwy o gynnwys yr ymgyrch clicia yma.

Fector clust i gynrychioli gwrando i ffrind

Gwrando

Mae gwrando yn ffordd dda i ddangos dy fod di yna iddynt pan maent yn galaru. Nid oes rhaid i ti boeni am ddweud y peth anghywir, ac nid oes rhaid i ti drwsio pethau.

Efallai dy fod di’n meddwl bod yr hyn ti’n gwneud ddim yn helpu, ond mae gwrando yn gallu bod yn help mawr. Wrth wrando, fedri di bigo fyny ar bethau, efallai byddi di’n cael arwydd o sut fath o gymorth maen nhw ei angen neu eisiau.

Fector ceg gyda swigod siarad i gynrychioli siarad gyda ffrind

Gofyn sut fedri di helpu

Efallai bydd dy ffrind ddim yn barod i siarad, gan ei fod yn rhy boenus, ac nid ydynt eisiau ailadrodd eu hunain drwy’r adeg. Paid â phechu os wyt ti’n cynnig clust i wrando neu help llaw a bod hynny’n cael ei wrthod. Yn lle hynny, gofyn a oes ffordd gallet ti helpu. Efallai gallet ti helpu i fynd trwy eiddo, coginio bwyd, neu gael allan o’r tŷ i dynnu sylw.

Fector merch yn tecstio ar ffôn yn cynrychioli gyrru neges i ffrind.

Cysyllta ar ôl y cyfnod sioc gychwynnol

Yn aml, pan fydd rhywun agos yn marw, mae llawer o gymorth yn dod o bob man gan ffrindiau a theulu. Ond, dros gyfnod, ac ar ôl yr angladd, mae’r cymorth yma’ny distewi. Nid oes rhaid i ti gysylltu drwy’r adeg, ond efallai bydd dy ffrind yn gwerthfawrogi neges o gymorth annisgwyl.

fector golygfa gofod

Rho ofod iddynt

Mae’r emosiynau rwyt ti’n teimlo wrth alaru yn gallu bod yn ormod weithiau. Efallai bydd dy ffrind eisiau ychydig o ofod i feddwl. Paid pechu. Sicrha dy fod di’n cysylltu bob hyn a hyn i weld sut maent. Mae galar yn gallu ynysu rhywun a gwneud iddynt deimlo’n unig.

Fector llun o rieni hapus gyda phlant ar ffôn clyfar

Rhannu atgofion

Weithiau bydd pobl sy’n galaru yn poeni am golli atgofion o’r person sydd wedi marw. Os oeddet ti’n adnabod nhw, rhanna atgofion da gyda dy ffrind ac adlewyrchu ar eu bywyd. Gall rhannu straeon doniol, lluniau, a fideos fod yn ffordd dda i gysylltu gyda rhywun sy’n galaru. Os nad oeddet ti’n nabod y person sydd wedi marw, gallet ti ofyn i dy ffrind rannu ychydig am eu bywyd.

Delwedd fector ar gyfer galar. Dwylo yn ymestyn allan at ei gilydd fel symbol o gymorth. Calon uwchben y dwylo.

Helpa nhw i ddarganfod cymorth

Efallai bydd rhannu gwybodaeth am ble i gael cymorth galar yn helpu dy ffrind. Gall helpu iddynt ddeall y camau nesaf a bod yn ffordd arall i gael gwybodaeth, cyngor, a chymorth. Os wyt ti’n poeni am beth mae dy ffrind yn dweud neu’r ffordd maent yn ymddwyn, siarada gydag oedolyn cyfrifol gallet ti ymddiried ynddynt. Mae yna sefydliadau gall helpu yn ein hadran Cael Help isod.


Cael help

Logo hope again

Hope Again

Gwefan ieuenctid gan Gymorth Galar Cruse. Lle diogel i ddysgu gan bobl ifanc eraill am sut i ymdopi gyda galar a theimlo’n llai unig. Ffonia’r llinell gymorth Cruse ar 0808 808 1677 rhwng 9:30 a 5yh dydd Llun a dydd Gwener neu rhwng 9:30 a 8yh dydd Mawrth, Mercher, ac Iau. Ymwela â’r wefan i ddarganfod cymorth yn dy ardal.

Logo Winston's Wish

Winston’s Wish

Helpu plant a phobl ifanc i ganfod eu traed pan fydd eu bywydau yn cael eu troi wyneb i waered gan alar. Mae eu gwefan Help 2 Make Sense yn cynnwys cyngor a straeon go iawn gan bobl ifanc eraill sy’n galaru. Ymwela â’r wefan am wybodaeth am y cymorth galar sydd ar gael, gan gynnwys sgwrs byw, e-bost, llinell gymorth, cwnsela, adnoddau a gweithgareddau.

Logo grief encounter

Grief Encounter

Cefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth. Mae’r llinell gymorth Grieftalk yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol, cyfrinachol, i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan alar. 0808 802 0111 9yb-9yh yn ystod yr wythnos. Ymwela â’u gwefan am fanylion cwnsela, gweithdai ac adnoddau eraill gall helpu.

Logo Meic

Siarad â Meic

Llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd: 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.

delwedd manylion cyswllt meic