Pam bod siarad am iechyd meddwl yn anodd i ddynion?
Mae dynion yn ei chael yn anodd i fod yn agored am eu hiechyd meddwl gyda ffrindiau a theulu.
Pam bod siarad am emosiynau yn anodd i ddynion?
Un o’r prif resymau pam bod dynion yn ei chael yn anodd bod yn agored am eu hiechyd meddwl yw’r stigma ynghylch gwrywdod. Credai rhai bod dynion yn gorfod bod yn gryf, yn annibynnol ac wedi ymbellhau o’u hemosiynau. Efallai bydd hyn yn achosi rhywun i deimlo fel na allant ddangos emosiynau nac gofyn am gymorth.
Mae rhai yn poeni am gael eu hystyried yn wan neu’n fregus, yn poeni y bydd eraill yn eu beirniadu neu’n eu gwrthod os ydynt yn agored am eu problemau. Mae’r ofn yma yn gallu llethu rhywun, a gall wneud gofyn am help yn anodd iawn.
Mae’n iawn i ofyn am help!
Mae’n hollol normal i brofi newid yn dy hwyliau. Mae pawb yn mynd drwy adegau anodd, ac mae’n iawn i beidio teimlo’n 100% drwy’r amser. Os wyt ti’n cael trafferth gyda dy iechyd meddwl neu les, mae’n bwysig gwybod dy fod ti ddim ar ben dy hun. Mae yna bobl sydd eisiau’r gorau i ti ac sydd eisiau helpu.
Mae siarad am dy iechyd meddwl yn gallu bod yn gam mawr, ond gall roi rhyddhad mawr i ti hefyd, yn gwneud i ti deimlo’n llai unig, bod pobl yn deall, ac yn rhoi hyder i ti chwilio am gymorth
Cofia, nid yw gofyn am help yn dy wneud di’n ddim llai o ddyn.
Sut fedri di gael help gyda dy iechyd meddwl?
Mae llawer o ffyrdd i ti gael help gyda dy iechyd meddwl.
Drwy siarad gyda rhywun, maent yn gallu gwrando ar sut wyt ti’n teimlo – mae hyn yn lleihau’r baich arnat ti. Gallant awgrymu llefydd i ti gael cymorth gan weithwyr proffesiynol – cyfeirio ydi’r term am hyn.
Gallet ti hefyd siarad efo rhywun sy’n agos i ti. Ffrind, aelod o’r teulu neu oedolyn ti’n ymddiried ynddyn nhw fel athro, hyfforddwr neu fentor.
Gallet ti hefyd gael cymorth proffesiynol gan therapydd neu gwnselydd neu drwy gysylltu gyda dy feddyg teulu neu wasanaeth iechyd meddwl yn dy ysgol, coleg neu brifysgol.
Mae nifer o wasanaethau iechyd meddwl ar gael yng Nghymru. Galli di ddod o hyd i restr o wasanaethau ar wefan GIG Cymru.
Os ti’n ansicr ble i fynd am gymorth, gallet ti siarad â chynghorwyr Meic. Mae ein llinell gymorth yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth yn gyfrinachol ac am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru. Siarada gyda ni, rydym yma i wrando a dy gefnogi drwy’r camau nesaf.