x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Ymdopi Gyda Marwolaeth Anifail Anwes

Os wyt ti wedi colli ffrind annwyl, bod hynny’n gi, cath, neidr neu bysgodyn, mae colli anifail anwes yn anodd iawn. Rydym yn aml yn meddwl am ein hanifeiliaid anwes fel rhan o’r teulu, felly mae dweud hwyl fawr yn gallu bod yn boenus iawn.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar.
I weld mwy o gynnwys yr ymgyrch clicia yma.

Dyma 6 darn o gyngor i helpu ti i ymdopi gyda cholli anifail anwes.

1. Gad emosiynau’n rhydd

Nid oes un ffordd i alaru. Mae rhai pobl yn adrodd teimlo’n drist, blin, dideimlad, ac euog hyd yn oed, yn dilyn marwolaeth anifail anwes. Mae’r teimladau yma i gyd yn rhan naturiol o alaru. Efallai bydd ysgrifennu dy deimladau mewn dyddiadur yn helpu ti i brosesu dy emosiynau. Paid dal yn ôl – gad i’r emosiynau lifo.

2. Creu blwch atgofion

Gallet ti greu bocs arbennig i gadw lluniau o dy anifail anwes a chynnwys eu hoff degan neu rywbeth. Gallet ti fynegi dy emosiynau i mewn i rywbeth creadigol, fel gludwaith neu gelf a chadw hwn yn y blwch atgofion hefyd.

3. Treulio amser gydag anifeiliaid eraill

Gallet ti ystyried treulio amser gydag anifeiliaid arall. Beth am gynnig cerdded ci dy gymydog, neu wirfoddoli mewn lloches anifeiliaid. Gall hyn roi teimlad o bwrpas a chysylltiad i anifeiliaid i ti. Efallai bydd gwybod dy fod di’n gwneud gwahaniaeth i’w bywydau yn gwneud i ti deimlo ychydig gwell.

Shilouette of a dog and a cat for pet loss blog

4. Hunanofal

Cymera ofal o dy hun yn gorfforol ac yn feddyliol. Cysga digon, bwyta’n dda, a gwna pethau sy’n gwneud ti’n hapus. Hyd yn oed os wyt ti’n galaru, rwyt ti’n haeddu gofalu am dy hun. Rwyt ti’n cael gwneud pethau sydd yn gwneud i ti deimlo’n well – mae dy lesiant di’n bwysig.

5. Ystyried cael anifail anwes newydd

Pan rwyt ti’n teimlo’n barod, ac os yw pawb yn y cartref yn cytuno, gallet ti ystyried cael anifail anwes newydd. Nid yw cael anifail newydd yn golygu dy fod di’n caru dy hen anifail anwes llai, felly paid teimlo’n euog os wyt ti’n ystyried y peth. Os wyt ti newydd golli dy anifail anwes, efallai ei bod ychydig yn fuan i ti feddwl am hyn nawr, ond un dydd, efallai bydd anifail anwes newydd yn helpu ti i deimlo’n llai unig, a fedri di greu trefn newydd.

6. Gofyn am gymorth

Paid cadw popeth i mewn; rhanna dy deimladau gyda ffrindiau neu deulu. Weithiau, mae siarad am dy anifail anwes ac unrhyw atgofion yn gallu bod yn therapiwtig iawn.

Os wyt ti’n teimlo fel na allet ti rannu’r ffordd ti’n teimlo gyda rhywun yn dy fywyd, a byddet ti’n hoffi siarad gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â Meic. Mae Meic yn llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd: 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.

Cofia, mae galaru yn cymryd amser. Bydda’n garedig i ti dy hun a deall ei bod yn iawn i ti chwilio am help pan fyddi di ei angen.

delwedd manylion cyswllt meic