x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

(WEDI CAU) Rhanna Dy Farn a Helpu Gwella Gwefan Meic

Eisiau cyfle i ennill taleb £50 a helpu i wneud Meic hyd yn oed yn well? Rydym yn chwilio am adborth am ein gwefan!

Bwriad y gwasanaeth Meic yw â rhoi llais i ti a gwrando arnat ti. Mae’n bwysig i ni ein bod yn gwella o hyd ac yn darparu’r cymorth a gwybodaeth gorau bosib i bobl ifanc Cymru. Dyma pam rydym yn gofyn am help i adnewyddu ein gwefan.

Mae’r gwefan yma i gefnogi llinell gymorth Meic, gan roi gwybodaeth a chyngor ychwanegol i chi am bob math o bynciau. Rydym eisiau sicrhau bod y wefan yn ymateb i dy anghenion gan greu rhywbeth mwy deniadol, hygyrch a chynhwysol i bawb, ac rydym angen ti i helpu.

Rydym wedi creu holiadur byr i gasglu dy feddyliau a dy farn; dylai gymryd tua 6 munud. P’un a wyt ti’n ymwelydd rheolaidd neu wedi galw heibio unwaith, rydym eisiau clywed gen ti.

Beth yw’r budd i ti?

Nid yn unig byddi di’n helpu i greu gwell profiad ar-lein i bobl ifanc ledled Cymru, ond byddi di hefyd yn cael cyfle i ennill taleb £50 One4All! Dychmyga sut fyddet ti’n ei wario! Gêm newydd? Pentwr o lyfrau? Jellycat bach ciwt? Pryd o fwyd? Neu daith i’r sinema? Gweler rhestr lawn o fanwerthwyr yma.

Barod i rannu dy farn (ac efallai ennill £50)?

Cyn cychwyn yr holiadur, cymera ychydig funudau i edrych trwy’r wefan. Bydd hyn helpu ti i roi’r adborth mwyaf defnyddiol i ni. Meddylia am y ffordd mae’n edrych, sut rwyt ti’n mynd o gwmpas y wefan, y pethau ti’n hoff ohonynt, neu ddim yn hoffi. Clicia isod i gychwyn ateb y cwestiynau.

Cod QR i'r arolwg

Pwyntia camera dy ffôn ar hwn i fynd yn syth i’r arolwg
(neu clicia ar y botwm i’r arolwg yn uwch i fyny)

Gwybodaeth Bwysig

  • Holiadur yn cau 11:59yh ar 9fed o Fawrth
  • Byddem yn dewis un enillydd
  • Gellir darllen y telerau a’r amodau llawn ar gyfer y gystadleuaeth yma

Edrychwn ymlaen at dderbyn dy adborth a gweithio gyda’n gilydd i wneud gwefan Meic hyd yn oed yn well!

Diolch am dy help a phob lwc!

Y Tîm Meic

Angen siarad?

Os wyt ti eisiau siarad â Meic am unrhyw beth ti’n poeni amdano, neu rwyt ti eisiau cyngor, cefnogaeth neu arweiniad, yna cysyllta. Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gysylltu â ni am ddim ar y ffon, neges WhatsApp, neges destun neu sgwrs ar-lein, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl.