x
Cuddio'r dudalen

Yma i Ti Dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Mae llawer o bobl yn edrych ymlaen at y Nadolig. Gweld teulu, bwyta llawer o fwyd, chwarae gemau, rhoi anrhegion. Ond mae’r adeg yma o’r flwyddyn yn gallu bod yn anodd iawn i lawer hefyd, wrth iddo fwyhau’r pethau sy’n ein gwneud yn drist neu’n flin.

To read this article in English, click here

Mae teuluoedd yn teimlo dyletswydd i dreulio amser â’i gilydd dros y cyfnod yma, ac yn aml gall hyn arwain at ffraeo. Efallai dy fod di wedi colli rhywun, ac mae’r Nadolig yn gwneud i ti hiraethu mwy. Efallai nad oes gen ti neb i dreulio amser â nhw. Neu efallai nad wyt ti’n teimlo fel dathlu dim. Mae llawer o resymau pam nad yw pawb yn teimlo llawenydd dros gyfnod yr ŵyl.

Sad young girl in red sweater and santa hat sits at the table and watches something on smartphone. Festive decoration of the room, but bad mood of person

Teimlo’n isel?

Gall hyn i gyd deimlo fel cwmwl mawr ddu drosot ti. Y peth olaf rwyt ti eisiau ydy gorfod peintio gwen ar dy wyneb a dathlu gyda theulu. Mae’r pwysau o deimlo fel y dylet ti fwynhau dy hun yn gallu achosi i ti deimlo’n fwy isel ac unig.

Os yw pethau’n teimlo’n ormod, cofia bod yna bobl gallet ti siarad â nhw. Nid yw’r llinell gymorth Meic yn cau ei ddrysau ar ddiwrnod Nadolig. Mae’r cynghorwyr yma o hyd i wrando, rhoi gwybodaeth, cynnig cyngor a gweithio gyda thi i ddarganfod ffordd i ymdopi. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos bob dydd, ar ddiwrnod Nadolig a Dydd Calan hyd yn oed. Ffonia, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di bob tro.  💜

Os wyt ti’n teimlo fel nad wyt ti’n gallu ymdopi ac yn meddwl gwneud niwed i dy hun, rydym yn annog i ti siarad gyda rhywun yn syth. Mae’r Samariaid ar gael 24 awr y dydd, bob diwrnod yr wythnos. Gellir ffonio am ddim ar 116 123 neu e-bostio jo@samaritans.org. Os yw’n well gen ti siarad Cymraeg â nhw, yna mae gwasanaeth Cymraeg ganddynt rhwng 7yh a 11yh bob nos ar 0808 164 0123.

Meic contact details banner