x
Cuddio'r dudalen

Meic: Dros 10 Mlynedd o Wybodaeth, Cyngor ac Eiriolaeth

Oeddet ti’n gwybod bod y gwasanaeth Meic wedi bodoli ers dros 10 mlynedd bellach. Rydym yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru? Rydym yn lansio fideo newydd i rannu’r gefnogaeth cyfrinachol ac am ddim mae Meic yn ei gynnig.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here

Mae’r fideo #Meic10 newydd yn dilyn siwrne person ifanc trwy ei fywyd pan fydd yn dod ar draws Meic am y tro cyntaf. Yn y fideo, mae Meic yn cael ei gynrychioli fel coeden, yn gryf ac yn gadarn ac yno i ti bwyso arnynt am gefnogaeth bob tro. Rydym yn dilyn siwrne bywyd y person ifanc. Y cyfnodau pan fydd angen eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth. Mae’n dychwelyd at y goden ar y diwedd i rannu’r goeden (Meic) gyda phlentyn ei hun.

Beth oedd yn digwydd yn 2010?

Mae llawer iawn wedi digwydd ers lansiad llinell gymorth Meic yn 2010. Carwyn Jones oedd Prif Weinidog Cymru🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿. David Cameron oedd Prif Weinidog y DU 🇬🇧. A Barack Obama oedd Arlywydd du cyntaf America 🇺🇸. Dyma’r flwyddyn lansiwyd yr iPad cyntaf ac roedd pobl yn poeni am ffliw moch (dim llawer wedi newid i ddweud y gwir!).

Cyflwynwyd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru). Roedd yn cynnwys y bwriad i daclo tlodi plant a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais mewn penderfyniadau awdurdodau lleol fydda’n cael effaith arnyn nhw.

Yn 2010 daeth Deddf Cydraddoldeb yn gyfraith. Ei fwriad oedd amddiffyn pawb o wahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae llawer wedi digwydd mewn dros 10 o flynyddoedd!

Rydym wedi byw trwy lot mawr mewn 10+ o flynyddoedd. Digwyddiadau byd enfawr fel daeargryn Haiti, trychineb niwclear Fukushima, awyren Malaysian Airline yn diflannu, y Curiosity Rover yn glanio ar y blaned Mawrth, Gemau Olympaidd yn Llundain, ymosodiad  brawychwyr cyngerdd Ariana Grande ym Manceinion, yr argyfwng hinsawdd a Greta Thunberg yn tynnu sylw’r byd gyda #FridaysForFuture, a hyd yn oed seren teledu realiti (Donald Trump) yn dod yn Arlywydd America!

Rydym wedi byw trwy ddiwedd y byd (yn ôl rhai) yn 2012, priodasau pobl o’r un rhyw yn dod yn gyfraith yn y DU, gorymdeithiau Mae Bywydau Du o Bwys, wedi bod yn dyst i’r symudiad #MeToo ac wedi gweld y cymeriad LHDTQ+ agored cyntaf yn hanes Disney-Pixar gyda’r ffilm Onward.

Wyt ti’n cofio’r ffasiwn feiral? Oeddet ti’n gwneud y Harlem Shake neu’r sialens top botel? 🕺 Oeddet ti’n plancio mewn llefydd od neu’n taflu bwced o rew dros dy ben? 🧊 Oedd y ffrog yn ddu a glas, neu gwyn ac aur?👗 A pha mor ciwt oeddet ti yn y sialens 10 mlynedd?📸

Roeddem yn siglo ‘fidget spinners’ ymhobman. Aethom i hela Pokémon ac wrth ein boddau pan gyflwynodd Apple emojis amryw hil o’r diwedd. 🧑🏽🧑🧑🏻🧑🏿🧑🏾🧑🏼 Mae’n debyg ein bod ni wedi bod yn sownd mewn lŵp YouTube neu TikTok am ddyddiau.

Mae’r deg mlynedd (a mwy) diwethaf wedi bod yn brysur iawn. Bellach Mark Drakeford yw’r Prif Weithredwr yng Nghymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿. Boris Johnson yw Prif Weinidog y DU 🇬🇧. A Joe Biden ydy Arlywydd America 🇺🇸 (a Kamala Harris yw’r ferch gyntaf, merch du cyntaf, a’r ferch Asiaidd-Americanaidd cyntaf fel Dirprwy Arlywydd 💪). Ac yna daeth popeth i stop llynedd gyda chyfnodau clo Covid a gorfod aros gartref a pheidio mynd i’r ysgol neu goleg neu waith.

A trwy hyn i gyd, mae Meic wedi bod yno. Mae Meic wedi bod yn rhywun gallet ti bwyso arnynt am gefnogaeth bob tro.

Ffeithiau difyr am gysylltiadau Meic

Mewn dros 10 mlynedd mae Meic wedi cael dros 56 a hanner mil o gysylltiadau gan blant a phobl ifanc Cymru.

Y dull mwyaf poblogaidd o gysylltu ers y cychwyn ydy:

  • Ar y ffôn (40%)
  • Sgwrs ar-lein (37%)
  • Neges testun (22%).

Y diwrnodau prysuraf ydy dyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Sul.

Dyma’r pum prif broblem mae pobl wedi bod yn cysylltu amdanynt:

  • Perthynas sydd ddim yn deulu
  • Iechyd Meddwl
  • Perthynas Teuluol
  • Hawliau a dinasyddiaeth
  • Iechyd corfforol

Yn 2018 enillodd ‘Pili-pala’, un o’n hymgyrchoedd fideo yn edrych ar Berthnasau Iach, wobr Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online.

Eisiau mwy o wybodaeth am y gwasanaethau mae Meic yn cynnig? Cer draw i’n blog i ddarganfod mwy am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth: