x
Cuddio'r dudalen

Sut Gall Meic Helpu Gyda Gwybodaeth?

Gyda chymaint o wybodaeth ar-lein ac oddi ar-lein, mae’n anodd iawn gwybod ble i chwilio am y gwybodaeth rwyt ti ei angen. Rydym yma i helpu ti i gael at y wybodaeth sydd ei angen pan fyddi di ei angen.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here

Beth ydy gwybodaeth a pam bod hyn yn bwysig?

Gall gwybodaeth ddod mewn sawl ffurf wahanol fel testun ysgrifenedig, graffiau, posteri, teledu a phodlediadau – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Gall darganfod gwybodaeth helpu ni i ddod yn fwy gwybodus ac i ddeall pethau yn well. Mae bod yn wybodus a bod â’r atebion i unrhyw gwestiynau sydd gen ti yn gallu helpu ti i wneud penderfyniadau gwybodus sydd yn gallu cael effaith ar dy fywyd di.

Sut gall Meic fy helpu i gael gwybodaeth?

Pan fydd gen ti gwestiwn ac angen ateb efallai byddi di’n gofyn i rywun fel nain, ffrind, neu athro. Efallai byddi di’n troi at lyfr neu’r rhyngrwyd i ddarganfod yr ateb.

Weithiau, mae’r wybodaeth rwyt ti’n chwilio amdano yn gallu bod yn anodd ei ddarganfod, neu nid wyt ti’n rhy siŵr ble i fynd i chwilio i gael yr ateb. Mae’n anodd hefyd deall os yw’r wybodaeth rwyt ti’n chwilio amdano yn ddibynadwy neu’n ‘newyddion ffug’. Pan fyddi di’n darganfod yr hyn sydd ei angen arnat, yn aml mae’n gallu bod yn gymhleth ac yn anodd ei ddeall.

Os wyt ti’n ei chael yn anodd darganfod y wybodaeth rwyt ti ei angen, ac eisiau sicrhau ei fod yn gywir, neu angen help i’w ddeall, yna gallet ti gysylltu â Meic. Mae posib gofyn unrhyw beth wrth Meic, a gallem helpu ti i ddarganfod a deall gwybodaeth gredadwy, gyfoes ac sy’n gyfeillgar i bobl ifanc.

Pa fath o wybodaeth ydw i’n gallu cael?

Nid oes rhaid iddo fod yn rhywbeth mawr neu gymhleth. Efallai dy fod di’n chwilio am glwb chwaraeon lleol gallet ti ymuno, neu gall fod yn rhywbeth mwy cymhleth, fel ble i ddarganfod y clinig STD agosaf.

Dyma gwpl o esiamplau o sut mae Meic wedi rhoi gwybodaeth i blant a phobl ifanc Cymru. Mae’r enwau ar yr esiamplau wedi cael eu newid gan nad ydym byth yn rhannu gwybodaeth bersonol y rhai sydd wedi cysylltu.

Mae gan Mani anawsterau dysgu. Mae’n cael lifft i’r ysgol bob dydd ond hoffai fynd ar y bws gyda’i ffrindiau. Mae ei rieni a’r gweithiwr cymdeithasol wedi dweud na. Mae Mani yn meddwl y dylai cael defnyddio’r bws ysgol fel pawb arall. Cysylltodd â Meic i ddarganfod beth oedd ei hawliau yn y sefyllfa yma.

Mae Jules yn byw gyda’i mam a’i thad. Collodd ei thad ei waith yn ddiweddar, ac mae wedi bod yn yfed mwy o alcohol nag arfer bob nos. Pan fydd yn meddwi, mae’n gwylltio, ac weithiau mae ei mam a’i thad yn ffraeo. Cysylltodd â Meic i chwilio am wybodaeth am sefydliadau gall helpu ei thad i stopio yfed.

Sut ydw i’n cael gwybodaeth gan Meic?

Mae yna flogiau gwych i’w darllen ar Meic sydd yn gallu cynnig llawer o wybodaeth dda, hawdd i’w ddeall heb orfod siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Os nad wyt ti’n barod i siarad gyda un o’r cynghorwyr yn uniongyrchol, cer draw i edrych ar rai o’n blogiau:

Os nad wyt ti’n gallu gweld beth rwyt ti angen ar ein gwefan, neu os hoffet ti siarad â rhywun, gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic bob dydd rhwng 8yb a hanner nos ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim.

Gallet ti bwyso ar Meic am gefnogaeth bob tro – rydym wedi bod yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru ers dros 10 mlynedd. Cer draw i’n blog i wylio ein fideo newydd ac i edrych ar y pethau sydd wedi bod yn digwydd dros y byd dros y 10+ mlynedd o Meic.