x
Cuddio'r dudalen

Cyfweliad Gyda Chynghorwr

Ssh, mae gen i gyfrinach i ti! Ti’n gwybod y bobl yna ti’n siarad â nhw pan fyddi di’n cysylltu â’r llinell gymorth Meic ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein? Wel, wyddost ti eu bod nhw’n bobl go iawn sydd yn bwyta, yfed, canu, dawnsio, chwerthin, wylo.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)


Mae’n debyg bod eu gwynt yn drewi yn y bore yn union fel un ti, a’u bod wedi gwneud pethau sydd yn gwneud iddynt grinjo, wedi disgyn mewn cariad, ffraeo a brwydro yn erbyn pethau. Yn ogystal â hyn mae ganddynt lwyth o hyfforddiant a phrofiad er mwyn gallu helpu’r bobl sydd yn dod drwodd i’r llinell gymorth, ac maent wrth eu boddau yn bod yno i ti pan fyddi di eu hangen.

Roeddem yn meddwl byddai’n syniad da i ofyn ychydig o gwestiynau hwyl a diddorol i un o’r cynghorwyr i ddysgu mwy amdanynt, yn rhoi syniad i ti o’r person sydd ar ochr arall y llinell.

Cawsom afael ar Dean am sgwrs, a chychwyn gydag ychydig o gwestiynau bach sydyn i’w gynhesu.

Cath neu gi?

Ci

Gemau fideo neu deledu?

Teledu

Hufen ia neu gacen?

Cacen

Dydd neu nos?

Ymm… Nos

Siocled neu greision?

Siocled

Arswyd neu Gomedi?

Comedi!

Bwyd Tsieineaidd neu Indiaid?

Tsieineaidd, mmm

Dinas neu gefn gwlad?

Oooo anodd… ond cefn gwlad

Canu neu ddawnsio?

Canu

Gwisgo i fyny neu wisgo i lawr?

Gwisgo i lawr

Nawr cawn symud ymlaen at y cwestiynau mawr. Pa mor hir wyt ti wedi bod yn gynghorwr?

Wyth mlynedd… a mis.

Wow! Beth mae cynghorwr Meic yn ei wneud?

Ran amlaf rydym yn darparu eiriolaeth i bobl ifanc sydd yn meddwl bod angen ychydig o help arnynt i gael pobl broffesiynol neu bobl arall yn eu bywydau i glywed eu syniad, dymuniad neu farn. Gallem helpu nhw i feddwl am yr hyn hoffant ei ddweud os ydynt eisiau hunan-eirioli a chymryd rheolaeth o’r sefyllfa eu hunain. Rydym wrth ein boddau yn ceisio helpu nhw i stopio, cychwyn neu newid eu sefyllfa, rhoi gwybodaeth a chyngor ar lawer o wahanol fathau o bethau.

Felly sut gall cynghorwyr Meic helpu, oes angen cymwysterau penodol?

Rydym yn dod o sawl cefndir proffesiynol gwahanol fel tîm. Rydym wedi gweithio gyda ffoaduriaid, neu fel athrawon, neu mewn tîm cefnogi teuluoedd. Mae gennym weithwyr ieuenctid, cynghorwyr gyrfa… ystod eang o gefndiroedd.

Yn ein rôl, y prif fath o hyfforddiant proffesiynol sydd ei angen ydy hyfforddiant eiriolaeth. Yn enwedig hyfforddiant amddiffyn plant neu ddiogelu.

Fel arfer rydym o gefndir helpu. Mae gweithio gyda phobl ifanc, neu bobl fregus, neu bobl yn gyffredinol, yn fantais. Dyna beth o’r hyfforddiant sydd yn eithaf pwysig yn y swydd.

Beth sy’n digwydd os nad wyt ti’n gwybod sut i helpu efo rhywbeth?

Mae hyn yn digwydd – nid ydym yn arbenigwyr ym mhopeth. Efallai byddem yn gofyn i gydweithiwr sydd â gwybodaeth nad oes gen i. Rydym yn gwneud ymchwil ac yn gallu cysylltu’n ôl gyda gwybodaeth. A gallem ofyn cyngor y rheolwyr hefyd os yw rhywbeth yn achos brys wrth gwrs.

Mae yna sefyllfaoedd lle nad yw’n bosib i helpu – fel sefyllfa feddygol. Os yw person ifanc yn cysylltu ag yn dweud: “Dwi’n meddwl bod ‘na rhywbeth o’i le, dyma’r symptomau, beth wyt ti’n feddwl?” – nid ydym wedi’n hyfforddi’n feddygol ac felly nid allem helpu efo hyn. Mae’n debyg byddem yn eich pasio at GIG Cymru yn yr achos yma.

Cyfrifiadur ar gyfer Cyfweliad gyda chynghorydd

Wyt ti wedi cael galwadau sydd wedi cael effaith arnat ti?

Do. Mae empathi yn bwysig iawn yn y swydd yma. Weithiau mae dy brofiadau personol yn gallu bod yn fantais gan ei fod yn rhoi empathi pellach i ti. Mewn sefyllfaoedd ble mae person ifanc mewn argyfwng, neu wedi gofidio, neu’n teimlo’n isel iawn, gall wneud i ti deimlo’n drist hefyd.

Fyddi di’n cadw’r hyn dwi’n ei ddweud yn gyfrinachol?

Os wyt ti’n dod drwadd at y llinell gymorth, wrth gwrs byddem yn cadw pethau’n gyfrinachol, ac eithrio dwy sefyllfa wahanol. Un sefyllfa ydy pan fyddi di’n gofyn i ni ymddwyn fel eiriolwr i ti. Bydd rhaid i ni gysylltu gyda dy ysgol, os mai dyma oeddet ti wedi gofyn i ni ei wneud, neu weithiwr cymdeithasol neu wasanaeth efallai. Ni fyddem yn gallu rhannu’r wybodaeth yma heb dy ganiatâd.

Yr ail sefyllfa ydy pan ddaw at ddiogelu. Mae yna berygl o niwed os yw rhywun mewn sefyllfa ble fydda nhw, neu rywun sy’n agos atynt, mewn niwed neu berygl ar hyn o bryd, efallai trais corfforol. Mae’n rhaid i ni rannu hynny, gan ein bod yn gyfrifol am hyn fel gwasanaeth. Felly ydy, mae’n gyfrinachol heblaw am mewn sefyllfa diogelu.

Ond nid ydym mewn gwactod – rydym yn gweithio fel tîm. Efallai byddem yn siarad am hyn gyda’r cydweithiwr sydd yn gweithio ar yr un sifft, ond nid ydym yn siarad am y peth gyda neb arall. Mae popeth yn aros o fewn y tîm.

Ydy bod ar y llinell gymorth drwy’r dydd yn unig?

Prin iawn, diolch byth, fyddi di ar ben dy hun. Byddai hynny’n unig. Ond y rhan amlaf  bydd yna gydweithiwr arall, rhywun i rannu syniadau os wyt ti mewn galwad ac eisiau rhywun i’th gefnogi trwy sifft.

Flynyddoedd yn ôl, pan roedd Meic yn 24 awr y dydd, roeddem yn arfer gweithio ar ben ein hunain trwy’r nos. Roedd hynny’n gallu bod yn unig. Os oeddet ti’n brysur roedd yn ok, efallai dy fod di’n cael galwadau neu bethau roeddet ti’n teimlo oedd yn gwneud gwahaniaeth. Ond prin yr ydym ni ein hunain nawr.

Y cwestiwn olaf… addo! Beth yw’r peth gorau am y swydd?

Nid oes un peth yn unig. Dwi wrth fy modd yn gweithio mewn tîm da, cefnogol, ond dwi hefyd yn hoffi pan fyddi di’n teimlo dy fod di wedi gwneud gwahaniaeth i rywun ar y llinell gymorth, yn enwedig os wyt ti wedi gallu helpu rhywun i helpu eu hunain.

Gwych! Mae wedi bod yn ddiddorol iawn siarad gyda thi, diolch Dean.


Felly dyna ti. Dyna un o’n cynghorwyr hyfryd sydd yn gweithio ar y tîm llinell gymorth. Y gobaith yw bod gweld nhw fel pobl go iawn yn ei wneud yn haws i ti gysylltu â’r llinell gymorth os wyt ti’n teimlo’n nerfus neu’n poeni am gysylltu. Mae ein cynghorwyr i gyd yr un mor gyfeillgar a gofalgar ac yn gweithio’n galed i wneud pethau’n haws i ti, a’th helpu gyda’r pethau sydd yn digwydd yn dy fywyd.

Felly paid oedi, cysyllta’r llinell gymorth heddiw os oes yna rywbeth sydd yn dy boeni neu dy fod di angen help gydag unrhyw beth. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.