x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Newydd i Meic? Canllaw i Wybodaeth, Cyngor ac Eiriolaeth

Wyt ti’n newydd i’n llinell gymorth, ac wyt ti’n ansicr beth ydyw? Gan ein bod bellach wedi lansio ein gwasanaeth negeseuo WhatsApp, dyma amser perffaith i rannu ein canllaw i Meic a sut gallem dy helpu.

Beth yw Meic?

Mae ‘Meic’ yn fyr am ‘meicroffon’, sydd yn cynrychioli ni yn rhoi llais i ti – rydym yn pasio’r meicroffon i ti fel y gallet ti gael dy glywed.

Mae gennym gynghorwyr profiadol, medrus, a chyfeillgar sydd yn barod i wrando arnat heb farnu, yn cymryd dy bryderon o ddifrif, ac yn dy gefnogi di i gychwyn, stopio, neu newid unrhyw beth yn dy fywyd sy’n achosi pryder i ti.  Gallem helpu ti i ddarganfod y wybodaeth rwyt ti ei angen, cynnig cyngor pan rwyt ti’n ansicr beth i wneud, a darparu eiriolaeth pan fyddi di angen rhywun i siarad ar dy ran.

Gallet ti anfon neges i ni ar WhatsApp, ffonio ar y ffôn, sgwrsio ar-lein neu anfon neges destun rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.

Cute illustration of a purple microphone with a smiling face and arms - the Meic mascot

Sut gallem dy helpu i ddarganfod gwybodaeth?

Weithiau, gall fod yn anodd dod o hyd i’r wybodaeth gywir. Efallai nad wyt ti’n sicr os yw’n gywir neu’n ddibynadwy. Gallem dy helpu i ddarganfod gwybodaeth gywir a chyfoes ar unrhyw bwnc a’i wneud yn haws i ti ei ddeall. Gall fod yn rhywbeth syml, fel darganfod clwb chwaraeon lleol, neu rywbeth mwy difrifol, fel dod o hyd i glinig iechyd rhywiol agos.

Cut illustration of a lightbulb with a shy smiling face and arms - one of the Meic characters that symbolises Education

Sut gallem gynnig cyngor

Pan fyddi di mewn sefyllfa anodd ac yn ansicr o’r cam nesaf, gall cyngor helpu. Nid ydym yn dweud wrthyt ti beth sy’n rhaid i ti ei wneud, ond yn hytrach yn cyflwyno’r opsiynau i ti, fel bod hyn yn helpu ti i benderfynu beth sydd orau i ti.

Gallem roi cyngor ar unrhyw beth, bach neu fawr. Bod hynny’n stryglo i wneud ffrindiau, teimlo pwysau cyfryngau cymdeithasol, neu broblemau perthynas – gallem helpu.

Cute illustration of a cat and a dog leaning against each other happy with eyes closed - Meic characters that symbolises the topic Relationships

Sut gallem ddarparu eiriolaeth?

Mae eiriolaeth yn golygu bod rhywun yn siarad ar dy ran, yn dy helpu i ddweud dy ddweud. Mae’n ddefnyddiol pan fydd gen ti rywbeth pwysig i’w ddweud, ond yn anhyderus i leisio hyn i’r bobl sydd angen gwybod.

Byddem yn annog hunan-eiriolaeth pan fo hynny’n bosib, sy’n golygu helpu ti gyda’r sgiliau a’r hyder i gyfathrebu anghenion dy hun. Os na fedri di wneud hyn, yna gall Meic rannu’r neges ar dy ran, gan ddefnyddio dy eiriau di, a sicrhau bod y bobl iawn yn gwrando. Enghraifft o hyn fydda siarad gydag athro am fwlio neu fynd ar ôl y cymorth sydd ar gael i ti. Gallem hefyd drefnu galwad tair ffordd fel dy fod di’n gallu bod ar yr alwad wrth i ni ffonio rhywun ar dy ran.

Cute illustration of a cloud and sun with faces - characters that symbolises the topic Mental Health

Beth yw cyfrinachedd?

Pan fyddi di’n cysylltu, nid ydym yn gweld dy rif ac nid oes rhaid i ti roi enw.

Mae cyfrinachedd yn golygu bod unrhyw beth rwyt ti’n rhannu gyda ni yn aros yn breifat o fewn y tîm Meic. Yr unig amser bydd rhaid i ni dorri’r cyfrinachedd yma yw os oes perygl difrifol o niwed i ti neu rywun arall. Manylion pellach am hyn yma. Byddem wastad yn ceisio dweud wrthyt ti pan fydd rhaid i ni dorri cyfrinachedd a byddem yn egluro’r camau cymerir i sicrhau dy fod di’n ddiogel.

Illustration of a mobile phone with the Meic website on the screen

Sut i Gysylltu â Meic?

Os wyt ti’n 25 oed neu’n iau, yn byw yng Nghymru, ac angen gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth, gallet ti gysylltu â Meic bob dydd o 8yb tan hanner nos ar y ffôn, WhatsApp, neges testun, neu sgwrs ar-lein. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol, ac yn ddienw.

Ymwela â’n hadran Blog i ddarllen erthyglau diddorol neu ein hadran Cael Help am wybodaeth gynorthwyol ar nifer o bynciau gwahanol yn ogystal â dolenni i wasanaethau gall helpu.

Cofia, mae Meic yn rhywun ar dy ochr di, yma i gynnig cefnogaeth gydag unrhyw beth rwyt ti ei angen. Rydym yma i wrando.