x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut Mae Meic Yn Helpu Gyda Dy Hawliau!

Wyt ti’n cael trafferth cael dy glywed, dy gymryd o ddifrif, neu dy ddeall? Mae gen ti hawliau, ac mae Meic yma i helpu ti i’w deall.

Ydy dod o hyd i’r geiriau cywir a chyfleoedd i fynegi dy hun yn anodd? Rydym yma i roi’r wybodaeth a’r gefnogaeth rwyt ti ei angen i gyrraedd dy nodau.

Beth yw dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau?

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau, pethau fel addysg, gofal iechyd a theimlo’n ddiogel. Mae dy hawliau di yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud yma yn Meic. Rydym yn defnyddio  Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) fel canllaw.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae deall dy hawliau fel cael pŵer arbennig. Mae’n helpu ti i siarad dros dy hun ac i gael y cymorth rwyt ti ei angen. Mae cynghorwyr Meic wedi’u hyfforddi i esbonio dy hawliau i ti os oes gen ti gwestiynau, ac maent yn gallu helpu ti i ddod i ddeall y peth gorau i wneud mewn unrhyw sefyllfa.

Purple microphone

Cymorth Meic

Dyma sut mae Meic yn cefnogi dy hawliau:

  • Ddim yn barnu: Mae ein cynghorwyr yma i wrando heb farnu, beth bynnag yw dy sefyllfa. Maent yn trin ti gyda pharch a thegwch, beth bynnag dy gefndir
  • Mae dy lais di’n bwysig: Oes gen ti farn neu eisiau dweud dy ddweud? Rydym eisiau clywed! Mae dy safbwynt di’n bwysig a byddem yn helpu i sicrhau dy fod di’n cael dy glywed ar y materion sy’n effeithio arnat ti
  • Cael yr hyn sydd ei angen arnat: Rydym yn teilwra ein cyngor ar gyfer dy sefyllfa benodol, gan sicrhau dy fod di’n cael y wybodaeth a’r cymorth gorau i ti
  • Gwybodaeth yw pŵer: Wedi drysu am rywbeth? Mae gennym lawer o wybodaeth ddibynadwy ar bob math o bynciau, o’r amgylchedd i berthnasoedd. Gallem hefyd dy  helpu i ddod o hyd i wybodaeth o ffynonellau eraill a sicrhau dy fod yn ei deall
  • Mae preifatrwydd yn bwysig: Rydym yn cadw’r hyn ti’n ei ddweud yn gyfrinachol, dienw ac yn ddiogel. Hyd yn oed ar lwyfannau newydd fel WhatsApp, rydym yn sicrhau bod dy fanylion yn aros yn breifat*
  • Sefyll ar dy ran: Os wyt ti’n profi trais, camdriniaeth, esgeulustod, neu rywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn, rydym yn trin hyn o ddifrif ac yn dy gefnogi i gael cymorth

Cofia, mae bod yn ymwybodol o dy hawliau yn hawl!

Rydym yma i ti pob cam o’r ffordd. Os oes gen ti gwestiwn, angen cyngor, neu eisiau sgwrsio, cysyllta. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.

*Os ydym yn poeni am dy ddiogelwch, neu ddiogelwch rhywun arall, yna mae gennym ddyletswydd i ddweud wrth rywun ac mae’n rhaid i ni dorri cyfrinachedd. Darganfod mwy am hynny yma.