x
Cuddio'r dudalen

Beth Sy’n Digwydd Pan Dwi’n Cysylltu â Meic?

Wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc yng Nghymru sydd eisiau help efo rhywbeth sydd yn digwydd yn dy fywyd? Wyt ti wedi ystyried cysylltu â’r llinell gymorth Meic ond yn nerfus am beth fydd yn digwydd? Dyma eglurhad o’r hyn sy’n digwydd pan fyddi di’n codi’r ffôn i siarad, gyrru neges testun neu IM.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)


Sut i gysylltu

Mae gen ti sawl opsiwn i gysylltu gyda ni yma ym Meic. Os bydda ti’n hoffi siarad gyda rhywun yna gallet ti ffonio ar 080880 23456. Nid yw siarad ar y ffôn yn apelio i bawb, weithiau mae rhywun yn rhy nerfus i siarad am eu problemau. Felly beth am gysylltu drwy neges testun neu ddefnyddio’r gwasanaeth negeseuo sydyn ar ein gwefan?

Mae posib cysylltu yng Nghymraeg neu Saesneg gan fod Meic yn wasanaeth dwyieithog. Ein prif nod yw helpu plant a phobl ifanc fel ti. Mae’r llinell gymorth yn wasanaeth am ddim sydd yn ddienw. Ni fydd y cynghorydd yn gweld dy rif ac nid oes rhaid i ti ddweud pwy wyt ti.

hysbyseb newydd Meic erthygl cysylltu

Beth sy’n digwydd pan fyddi di’n siarad â ni

Mae’r bobl sydd yn gweithio ar y llinell gymorth yn cael eu galw’n eiriolwyr gynghorwyr. Enw ffansi ond mae’n golygu eu bod wedi’u hyfforddi i dy helpu. Pan fyddi di’n cysylltu â Meic, byddant yn siarad drwy’r mater gyda thi, yn cynnig cyngor a darganfod ffordd o helpu. Beth bynnag yw dy broblem, bydd y cynghorydd eisiau darganfod yr hyn rwyt ti’n gobeithio’i gael o gysylltu â’r llinell gymorth ac os wyt ti eisiau stopio, cychwyn neu newid rhywbeth yn dy fywyd. Byddant yn helpu ti i adnabod dy ddewisiadau a chreu cynllun i wneud newidiadau. Byddant yn darganfod pwy yw’r bobl/gwasanaethau gorau fydd yn gallu helpu a dy roi mewn cysylltiad â nhw.

Gallant helpu ti i gysylltu â’r bobl/gwasanaethau yma hefyd. Gallant gysylltu â nhw ar dy ran os nad wyt ti’n teimlo y gallet ti, ac maent yn gallu trefnu galwad tair ffordd os wyt ti’n dymuno. Golygai hyn bod posib iddynt ffonio’r gwasanaeth gyda thi ar y llinell hefyd, a helpu ti i egluro’r sefyllfa. Ni fyddi di’n teimlo dy fod di’n gorfod ail-adrodd pethau i wahanol bobl (mae’r holl bethau yma yn cael ei alw’n bod yn ‘eiriolwr’ i ti).

Os wyt ti eisiau cysylltu drwy neges ar-lein (IM) ac eisiau cysylltu â Meic eto yn y dyfodol, byddi di’n derbyn cod gellir ei ddefnyddio i barhau’r sgwrs. Fel hyn, nid oes rhaid i ti orfod ailadrodd y sefyllfa. Mae posib i ti barhau o’r pwynt cafodd ei adael, hyd yn oed os yw’r cynghorydd yn berson gwahanol.

manylion cyswllt yn cael eu rhannu

Darganfod mwy amdanom ni

Edrycha ar ein Cyfweliad Gyda Chynghorydd i ddarganfod mwy am un o’n cynghorwyr a’r hyn maen nhw’n ei wneud. Os hoffet ti wybod beth mae pobl ifanc eraill sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth eisoes yn ei feddwl, yna darllena ein herthygl adborth Beth Yw Gwir Farn Pobl Ifanc O Meic.