Gyrra WhatsApp! Ffordd Newydd i Gysylltu â Meic

Mae ffordd newydd i ti ymestyn allan a chysylltu â Meic. Gallet ti bellach yrru neges WhatsApp yn ogystal â ffôn, neges testun, a sgwrs ar-lein.
Meic yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
Gyrra neges WhatsApp neu ffonia ar 080 880 23456 neu sgwrsia gyda ni yma ar ein gwefan.
Beth sy’n digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Meic?
Weithiau mae’n anodd siarad am y pethau sy’n dy boeni di ac efallai bod y syniad o bobl yn dod i wybod yn achosi pryder i ti. Ti ddim ar ben dy hun! Mae Meic yma i ti, yn cynnig cymorth cyfrinachol ar y ffôn, neges testun, sgwrs ar-lein, a nawr, WhatsApp! Ffordd arall i gael y cymorth rwyt ti ei angen, pan fyddi di ei angen.
Pa bynnag ffordd yr wyt ti’n dewis cysylltu â Meic, mae un o’n cynghorwyr cyfeillgar bob tro’n barod i wrando. Gallem gynnig gwybodaeth a chyngor, edrych ar dy opsiynau gyda thi, a helpu ti i ymestyn allan at eraill.
Mae cysylltu â Meic yn gyfrinachol – dim ond pan fyddem yn poeni am dy ddiogelwch, neu ddiogelwch rhywun arall, byddem yn dweud wrth rywun. Darganfod mwy am gyfrinachedd Meic yma.
Pam WhatsApp?
Mae WhatsApp wedi ei lawrlwytho i ffôn llawer o bobl yn barod. Gallet ti ymestyn allan yn gynnil am gymorth mewn ffordd gyfarwydd.
Mae WhatsApp yn:
- Ddiogel – Mae negeseuon yn cael eu hamgryptio yn awtomatig. Dim ond ti a’r cynghorwyr Meic sydd yn gallu darllen eich negeseuon. Nid yw WhatsApp ei hun yn gallu gweld cynnwys y sgwrs hyd yn oed
- Cyfrinachol – Mae dy rif ffôn, enw a llun proffil yn cael ei guddio o’n cynghorwyr, gan roi haen ychwanegol o breifatrwydd wrth i ti ymestyn allan. Mae ein sgyrsiau yn gyfrinachol*, felly gallet ti siarad am unrhyw beth heb boeni y bydd rhywun arall yn dod i wybod
- Cyfleus – Sgwrsia gyda Meic o dy ffôn ble bynnag a phryd bynnag yr wyt ti angen
Gallet ti yrru neges trwy WhatsApp, ond ni allem dderbyn na yrru GIFs, lluniau, fideos, nodau llais, sticeri, ffeiliau, pôl, neu leoliadau. Nid yw’n bosib gwneud galwadau sain na fideo i ni trwy WhatsApp chwaith. Os yw’n well gen ti siarad, ffonia Meic ar 080 880 23456.
Arbed ein rhif a dechrau sgwrsio
I gysylltu gyda chynghorwr Meic yn defnyddio WhatsApp:
Arbed ein rhif
Arbed rhif Meic 080 880 23456 i dy ffôn
Dewis ein henw
Nid oes rhaid i ti ein harbed fel ‘Meic’ i’r ffôn. Gallet ti ddewis unrhyw enw os yw’n well gen ti fod yn fwy cynnil. Dewis enw y byddi di’n cofio fel dy fod di’n gallu darganfod ein rhif y tro nesaf.
Dechrau sgwrsio
Agor WhatsApp ar dy ffôn a dewis y tab ‘Chats’. Tapia’r eicon ‘New Chat’ a dewis ‘Meic’ (neu’r enw rwyt ti wedi dewis) o dy restr cysylltiadau. Bydd ffenest sgwrsio newydd yn agor. Teipia dy neges a’i yrru!
Mae ein cynghorwyr gwych yma i ti bob dydd o 8yb tan hanner nos, am ddim, cyfrinachol, dienw, a heb farnu. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.
*Os ydym yn poeni am dy ddiogelwch, neu ddiogelwch rhywun arall, yna mae gennym ddyletswydd i ddweud wrth rywun ac mae’n rhaid i ni dorri cyfrinachedd. Darganfod mwy am hynny yma.
