x
Cuddio'r dudalen

6 Cam i Gael Noson Well o Gwsg 

Wyt ti’n methu cysgu yn y nos? Efallai dy fod di wedi dechrau arfer drwg o nosweithiau hwyr ac angen cael yn ôl i drefn reolaidd a chael digon o gwsg. Dyma ein gair o gyngor i gael gwell cwsg.

To read this article in English, click here

Cloc a channwyll ar gyfer erthygl 6 Cam i Gwsg Gwell

1. Cadwa at amser cysgu rheolaidd

Ceisia osod trefn ddyddiol o godi a mynd i’r gwely am yr un amser bob dydd. Bydd dy gorff yn dod i’r arfer â hyn a bydd yn haws i ti fynd i gysgu ar amser rhesymol rwyt ti’n gosod i ti dy hun.

Dau wydriad o Coke

2. Torri lawr ar y caffein

Yfed llai o ddiodydd egni, coke, te a choffi, yn enwedig yn y nos. Mae caffein yn cyffroi’r meddwl sydd yn gwneud i ti deimlo’n llai blinedig – ddim yn beth da os wyt ti’n ceisio cysgu! Ceisia beidio yfed caffein tua phedwar i chwe awr cyn bod angen cysgu.

Clymu criau

3. Ymarfer corff

Bydd ymarfer corff yn ystod y dydd yn llosgi ynni a byddi di’n teimlo’n fwy blinedig erbyn amser gwely. Os wyt ti’n ymarfer corff yn y nos paid â gwneud gormod a chadw draw o sesiynau cardio trwm. Mae ymarfer corff yn gallu rhyddhau endorffinau i mewn i’r corff sydd yn gallu cadw ti’n effro.

Merch yn gwrando ar gerddoriaeth gyda chlustffonau ar gyfer erthygl 6 Cam i Gwsg Gwell

4. Ymlacio

Darganfod ffordd i ymlacio cyn amser gwely. Gallet ti ymlacio yn y bath gydag olew neu swigod moethus, goleuo canhwyllau, myfyrio (meditate), gwrando ar gerddoriaeth ymlaciol, darllen llyfr. Mae anadlu’n ddofn ac ymlacio’r cyhyrau yn ffordd dda i ymlacio cyn amser gwely. Mae hefyd yn gallu helpu i gael gwared â’r holl bethau yn dy feddwl gallai fod yn cadw ti’n effro. Gwylia’r fideo dosbarth ‘beditation’ yma sydd yn cael ei rannu gan y GIG.

Gwely a lamp ar gyfer erthygl 6 cam i gwsg gwell

5. Paid gorgyffroi’r ymennydd

Nid yw syllu ar sgrin cyn amser gwely yn beth da i ymlacio’r meddwl yn barod ar gyfer cwsg. Mae’n gorgyffroi’r meddwl. Diffodd y sgrin am tuag awr cyn i ti fod eisiau cysgu. Yn ddelfrydol ni ddylid cadw’r ffôn yn dy ystafell ychwaith, bydd ffôn yn tincian negeseuon yn tarfu ar dy gwsg. Oes oes rhaid cael y ffôn yn yr ystafell, gallet ti fynd i osodiadau’r ffôn a gosod ‘do not disturb’ yn awtomatig am yr un amser bob nos. Mae posib gosod eithriadau i gael negeseuon gan bobl penodol – fel teulu mewn argyfwng er esiampl.

Paratoi dy hun i gysgu wrth roi’r golau a’r sŵn i lawr (golau lamp yn lle golau mawr a pheidio cael rêf yn yr ystafell wely!)

Llaw yn dal beiro yn ysgrifennu mewn nodiadur

6. Gwagio’r meddwl

Pan fyddi di’n gorwedd yn y gwely yn ceisio cysgu mae’r holl bethau yna rwyt ti’n poeni amdanynt, neu rwyt ti angen cofio gwneud, yn llifo’n ôl i’r meddwl ac yn atal ti rhag cysgu. Gallet ti ysgrifennu’r pethau sydd yn dy boeni mewn dyddiadur, neu siarad gyda rhywun am y peth cyn i ti fynd i’r gwely. Neu beth am greu rhestr gwneud (to do) o’r holl bethau sydd angen gwneud. Ni fydd hyn yn llenwi dy feddwl wedyn.

Wyt ti wedi clywed y dywediad “hanner y baich yw ei rannu” (a problem shared is a problem halved)? Os oes unrhyw beth yn dy boeni, yna gall siarad â rhywun helpu. Os nad oes gen ti neb fedri di siarad â nhw yna gall llinell gymorth Meic helpu. Mae’r cynghorwyr cyfeillgar ar gael i ti rhwng 8yb a hanner nos bob dydd gyda chyngor a gwybodaeth gyfrinachol ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.