x
Cuddio'r dudalen

5 Rheswm Pam Bod Natur Yn Dda i’r Iechyd Meddwl

Wedi cael digon o glywed “cer allan i’r awyr agored, mae’n dda i ti”? Ond mae hyn yn wir! Mae cael allan i natur yn dda i dy gorff a dy feddwl a dyma pam mai natur ydy thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni.

To read this article in English, click here

Felly beth sydd gan natur i’w gynnig ar gyfer ein hiechyd meddwl? Dyma 5 rheswm i fynd allan ac anadlu’r awyr iach yna.

Haul a cymylau ar gyfer blog natur a iechyd meddwl

1. Fitamin D o’r haul

Mae Fitamin D yn bwysig iawn i gadw esgyrn, dannedd a chyhyrau yn iach, ond mae’n gallu cael effaith mawr ar dy dymer di hefyd. Haul ydy’r ffordd orau i gael Fitamin D a gall diffyg haul achosi i ti deimlo’n isel iawn.

Mae posib cael digon o Fitamin D gan yr haul yn y Gwanwyn a’r Haf ond efallai bydd rhaid cymryd fitaminau atodol (supplements) yn yr Hydref a’r Gaeaf. Mae rhai pobl yn dioddef o anhwylder SAD sydd yn achosi iselder yn y Gaeaf. Mae’r GIG yn dweud mai’r driniaeth orau ydy cael cymaint o haul naturiol â phosib, ymarfer corff yn rheolaidd a rheoli dy lefelau straen.

Cofia bod angen rhoi digon o eli haul ymlaen os yw’n heulog.

Merch gyda llygaid wedi cau yn anadlu drwy'r trwyn gyda gwen ar ei gwyneb.

2. Mwy o Ocsigen

Mae’r mwyafrif ohonom yn deall bod angen ocsigen i anadlu. Mae cael awyr iach yn cynyddu’r llif ocsigen yn ein gwaed, ac mae hyn yn dda i’r ysgyfaint a’r ymennydd.

Mae ocsigen yn rhyddhau serotonin sef cemegyn hormon. Os oes gen ti lefelau serotonin isel yna mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n bryderus ac yn isel. Bydd cael mwy o ocsigen yn y corff yn cynyddu’r serotonin ac yn helpu i wella tymer a llesiant. Gall hefyd helpu i gael gwell cwsg a gwella treuliant bwyd.

Merch ifanc gyda chlusffonau yn ymestyn ar gyfer blog natur a iechyd meddwl

3. Cadw’n heini i deimlo’n dda

Wrth gadw’n heini mae’r system nerfol yn cynhyrchu endorffinau, cemegyn naturiol yn dy gorff. Mae endorffinau yn gemegyn sydd yn gwneud i rywun deimlo’n dda, yn gwella dy dymer ac yn helpu i leihau iselder.

Nid oes rhaid i ffitrwydd fod yn obsesiwn er mwyn i ti gael ychydig o ymarfer corff ac awyr iach. Cer i redeg os wyt ti eisiau, ond gallet ti fynd am dro (a phacio picnic hefyd), cicio pêl, reidio beic/sgwter/sgrialfwrdd (neu unrhyw olwynion eraill!), ymarfer ychydig o yoga, chwarae yn y parc. Mae yna ddigon o ffyrdd i gadw’n heini sydd ddim yn gorfod teimlo fel tasg ddiflas.

Dyn ifanc gyda pen ar glustog yn cysgu ar gyfer blog natur a iechyd meddwl

4. Cysgu’n well

Mae ymarfer corff ac awyr iach yn gallu helpu ti i gysgu’n well a gall hynny fod yn bwysig i’r tymer. Heb ddigon o gwsg byddi di’n teimlo’n ddiog a gall hyn wneud ti’n flin a theimlo’n isel. Wrth gysgu mae’r corff yn trwsio ei hun, felly os wyt ti’n cysgu’n well byddi di’n cael mwy o deimlad o adfywiad.

Dail a gwair gwyrdd a phili-pala gyda'r haul yn sbecian ar gyfer blog natur a iechyd meddwl

5. Gwyrdd yn tawelu’r meddwl

Mae rhai pobl yn credu bod lliwiau yn gallu cael effaith ar dymer pobl, sydd yn cael ei alw’n seicoleg lliw. Mae gwyrdd yn lliw sydd yn gallu tawelu’r meddwl ac yn ymlacio.

Pan fyddi di’n meddwl am natur a’r amgylchedd rwyt ti’n meddwl am y lliw gwyrdd – gwair gwyrdd a choed gwyrdd o gwmpas. Ond hyd yn oed os nad wyt ti’n credu bod lliwiau yn gysylltiedig â thymer, mae bod allan mewn natur a’r holl fuddiannau o’r pedwar pwynt uchod yn dda i ti a dy iechyd meddwl.

Cymorth a gwybodaeth iechyd meddwl

  • Clicia yma am wybodaeth ar Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyda chyngor, blogiau, fideos ac ymchwil.
  • Sefydliad Iechyd Meddwl – Helpu pobl i ddeall, amddiffyn a chynnal iechyd meddwl. Yn cynnal Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
  • Mind Cymru – Yn darparu cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd yn profi problem iechyd meddwl. Mae yna restr o syniadau da i gael allan i natur fel  codi sbwriel ar y traeth, gwylio’r sêr, geocaching a mwy. Cer i weld yma.
  • Meddwl.org – Cefnogaeth a gwybodaeth iechyd meddwl yn yr iaith Gymraeg, a lle i ddarllen am brofiadau pobl eraill.
  • Papyrus – Elusen genedlaethol i geisio atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc. HopelineUK ydy’r llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer plant a phobl ifanc dan 35 sydd yn cael syniadau hunanladdol, neu os wyt ti’n poeni am rywun arall.
  • Meic – Mae Meic yma i ti siarad yn gyfrinachol bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Gallem helpu ti i gael y cymorth rwyt ti angen. Galwa am ddim: 080880 23456  Tecstia: 84001 neu sgwrsia ar-lein.