x
Cuddio'r dudalen

Angen Cefnogaeth Dros Y Nadolig? Cysyllta â Meic

Mae’r Nadolig yn gyfnod o lawenydd a hwyl i fod. Felly pam y teimladau negyddol yma? Pam wyt ti’n drist / pryderu / gofidio / dryslyd? Nid wyt ti’n cael teimlo fel hyn adeg ‘Dolig, wyt ti?

This article is also available in English – click here

Mae pethau ychydig yn fwy cymhleth nag hynny. Nid yw’r ffaith bod y Nadolig i fod yn llawn hapusrwydd a llawenydd yn golygu bod hyn yn wir i bawb. Nid yw’n hawdd diffodd teimladau am fod cymdeithas yn dweud bod hwn yn gyfnod hapus. Gall pethau deimlo’n waeth ar adeg yma’r flwyddyn. Mae cyfnod y Nadolig yn gallu achosi i bobl deimlo’n fwy isel, blin, gofidus, unig, pryderus ayb.

—–🎄—–

Rhywun ar dy ochr di

Os wyt ti angen siarad yna mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Mae cynghorwyr ein llinell gymorth yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Nid yw’r gefnogaeth yn stopio am ei bod yn ‘Ddolig, mae’r cynghorwyr yno i ti ar ddiwrnod Nadolig hyd yn oed. Bydd y llinell gymorth ar agor 8yb tan hanner nos bob diwrnod.

Gellir cysylltu ar y ffôn (0808 80 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar y we. Mae pob cyswllt yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim.

Mae Meic yn agored 8yb tan hanner nos, os oes angen cymorth y tu allan i’r oriau hyn cysylltwch â GIG 111 Cymru wrth ffonio 111; y Samriaid ar eu llinell gymorth Cymraeg 0808 164 0123 neu Saesneg ar 116 123; neu Childline ar 0800 1111.

—–🎄—–

Erthyglau o ddiddordeb

Edrycha ar ein hadran blogiau – efallai ddoi di o hyd i flog sydd yn berthnasol i ti nawr. Mae yna sawl blog addysgiadol yn ogystal â Coda’r Meic (adran modryb gofidion lle mae pobl wedi cysylltu i ofyn am gyngor ar bob math o bynciau).

Os wyt ti’n chwilio am gyngor Nadoligaidd penodol, dyma gwpl o’n harchif:

I gloi, hoffai’r holl gynghorwyr ddymuno’r gorau i ti dros y Nadolig ac rydym yma i ti drwy’r flwyddyn.

—–🎄—–

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.