x
Cuddio'r dudalen

Ymgyrch Costau Byw Meic

Oeddet ti’n gwybod bod 81% o bobl ifanc yn poeni am arian, gyda 67% yn dweud eu bod yn teimlo pryder amdano*? Dros yr wythnosau nesaf bydd Meic yn edrych ar faterion ariannol i geisio helpu yn ystod yr Argyfwng Costau Byw sydd i’w weld ymhobman.

This article is also available in Englishclick here

(*Data o’r ‘Young Persons’ Money Index 2021-22′)

Dyma fydd yn ein hymgyrch Argyfwng Costau Byw:

Beth ydy’r argyfwng costau byw?

Efallai mai ti sydd yn dioddef oherwydd costau byw uwch, neu efallai dy fod di dal yn byw gartref ac yn poeni am y straen ar dy rieni neu warcheidwaid. Dyma eglurhad sydyn o’r argyfwng costau byw.

Mae’r argyfwng yn golygu bod prisiau eitemau hanfodol fel ynni, tanwydd a bwyd wedi codi, ond nid yw’r arian sy’n dod i mewn (cyflog, budd-daliadau ayb.) yn cynyddu ar yr un raddfa. Felly mae mwy o dy arian yn mynd tuag at dalu am bethau hanfodol.

Mae’r galwad am olew a nwy wedi cynyddu dros y Byd, ac felly nid oes digon i bawb. Mae hyn yn gwthio’r prisiau i fyny. Nid oes digon o ynni gwyrdd yn cael ei gynhyrchu eto, ac felly rydym yn parhau i ddibynnu ar olew a nwy ar gyfer trydan, gwres, tanwydd i gerbydau, ayb. Golygai hyn bod symud cynnyrch o gwmpas y Byd, gwresogi a phweru ffatrïoedd a siopau (gwneud a gwerthu pethau) yn costio mwy. Mae rhywun yn gorfod talu am y cynnydd yma, felly mae’n cael ei basio i’r cwsmer, sydd yn golygu bod pris popeth yn codi.

Mae sawl peth yn gyfrifol am yr argyfwng presennol, gyda’r rhyfel rhwng Rwsia a Wcráin yn rheswm mawr. Ond mae rhesymau eraill hefyd, fel Covid, materion amgylcheddol a chynnydd yn y galwad am ynni dros y byd.

“Wrth i’r galwad am fanciau bwyd gynyddu, a chwyddiant yn gwasgu cyflogau rhieni, nid yw’n syndod bod pobl ifanc yn poeni fwy a mwy am arian.”

Catherine Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Addysg Ariannol ac Allgymorth Cymunedol.

Pa effaith mae’r argyfwng yn ei gael arnat ti?

Efallai dy fod di’n berson ifanc sydd wedi symud allan o gartref yn ddiweddar ac yn ei chael yn anodd cyllidebu. Neu efallai rwyt ti’n dal i fyw gartref ac yn poeni am yr effaith mae hyn yn ei gael ar dy rieni neu warcheidwaid, ac rwyt ti eisiau gwybod os oes rhywbeth gallet ti ei wneud i helpu.

Mae materion ariannol yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os nad wyt ti’n talu biliau dy hun ar hyn o bryd. Nid yw byth yn rhy fuan i ddysgu am y pwnc. Mae’n well deall penderfyniadau ariannol cyn bod rhaid i ti wneud y penderfyniadau yma a bod yn gyfrifol am dy gyllid. Os nad wyt ti’n deall canlyniadau penderfyniadau erbyn hynny, yna’r peryg yw ei bod yn rhy hwyr, ac efallai na fyddi di’n gwneud penderfyniadau gwybodus ac yn cael i drafferthion ariannol. Sicrha dy fod di’n dysgu, yn defnyddio’r offer cywir ac yn deall ble i gael gwybodaeth a chymorth pan fyddi di angen.

Bwriad yr Ymgyrch Costau Byw yma ydy rhoi’r wybodaeth a’r offer i ti i wneud penderfyniadau ariannol dy hun. Byddem yn rhannu cyngor cyllidebu, sut i leihau biliau, chwalu dirgelwch dyled a threth ac edrych ar y budd-daliadau a’r gwasanaethau sydd yn gallu helpu os wyt ti neu dy deulu yn cael trafferth.

Cymorth pellach

▪️Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.

▪️Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic

▪️HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.

▪️Turn2Us– elusen genedlaethol sydd yn cynnig help ymarferol i bobl sydd yn cael trafferthion ariannol.