x
Cuddio'r dudalen

APR Beth? Deall Benthyca

Mae’n gallu bod yn anodd deall benthyca os wyt ti’n newydd iddo. Hyd yn oed os wyt ti wedi bod yn benthyca ers sbel, gall fod yn gymhleth! Mae’r blog yma yn egluro ychydig o ffeithiau benthyca fel rhan o’n hymgyrch Argyfwng Costau Byw.

This article is also available in English click here

Beth yw’r prif bethau i’w hystyried wrth fenthyca?

Mae yna lawer o fenthycwyr fydda’n hapus i fenthyg i ti fel dy fod di’n gallu prynu’r pethau rwyt ti eisiau. Efallai bydd yr argyfwng costau byw presennol yn annog, neu’n gorfodi, mwy o bobl i fenthyg.

Nid yw benthyca am ddim. Mae benthycwyr yn rhoi arian i bobl am eu bod yn gwneud arian ohono. Fel arfer, mae’r hyn rwyt ti’n talu’n ôl yn fwy na’r hyn rwyt ti wedi’i fenthyg gan fod llog (interest) yn cael ei godi arno. Os na fedri di gyflawni’r ad-daliadau bob mis, yna bydd y ddyled yn tyfu a gallet ti golli rheolaeth ohono.

Cofia ystyried beth fydda’n digwydd petai dy amgylchiadau’n newid. Os wyt ti’n colli dy swydd, fyddet ti’n gallu talu’r ad-daliad?

Lythrennau A P R wedi ysgrifennu ar flociau pren ar gyfer blog benthyca

Beth yw APR?

Mae APR yn golygu Cyfradd Canran Flynyddol. Dyma’r canran o arian sydd yn cael ei ychwanegu ar ben y swm rwyt ti’n benthyca- y llog. Mae’r swm yma yn newid yn ddibynnol ar faint sydd yn cael ei fenthyg, pa mor dda yw dy sgôr credyd (gweler isod) a’r gyfradd llog presennol. Golygai hyn y byddi di’n talu mwy o arian nag yr wyt ti wedi benthyg yn y pen draw.

Mae’n rhaid i unrhyw fenthyciwr roi gwybod beth yw’r APR ar y benthyciad. Byddi di’n cytuno i hyn wrth arwyddo cytundeb credyd sydd yn dweud y byddi di’n talu’r arian a’r llog yn ôl.

APR isel yw’r APR gorau. Mae rhai benthycwyr yn cynnig 0% am gyfnod penodol – ond os yw’r amser yma’n dod i ben a’r benthyciad heb ei dalu’n llawn, yna bydd rhaid talu APR uchel ar yr hyn sydd yn weddill.

Sicrha dy fod di’n deall y gwir APR sydd yn cael ei gynnig. Nid yw pawb yn cael cynnig yr APR sydd yn cael ei hysbysu (yr APR cynrychiadol) ac yn derbyn cyfradd wahanol (APR personol). Sicrha dy fod di’n ymwybodol o hynny cyn arwyddo’r cytundeb credyd.

Dyn gyda'i ben yn ei law a rhestr o eithemau ar bapur yn y llaw arall. Lluniau o bethau ariannol o gwmpas ei ben, fel cadw mi gei gwag a chardiau credyd.

Pam bod ad-dalu ar amser yn bwysig?

Fel arfer rwyt ti’n gwneud taliadau misol, a bydd yr APR yn cael ei ychwanegu fel canran ar ben yr hyn rwyt ti’n talu. Byddi di’n cael gwybod yr isafswm sydd angen talu yn ôl bob mis. Mae’n well, os wyt ti’n gallu, talu mwy na’r isafswm (gwiria i weld nad oes cosb am orffen talu’n fuan). Byddi di’n talu’r benthyciad yn ôl yn gynt, felly ni fydd rhaid talu cymaint o log arno. Os wyt ti’n talu’r cyfanswm ar ddiwedd pob mis, yna ni fydd rhaid talu llog o gwbl.

Mae hyn yn bwysig hefyd pan fydd gen ti fenthyciad 0%. Nid yw 0% yn golygu nad oes rhaid gwneud unrhyw daliadau am gyfnod y cynnig. Mae’n rhaid talu’r isafswm misol yn brydlon. Os nad wyt ti, yna rwyt ti’n torri’r cytundeb credyd. Gallan nhw dynnu’r cynnig 0% yn ôl a dechrau codi APR uwch ar y swm sydd yn weddill.

Os nad wyt ti’n gwneud ad-daliadau ar amser, yna bydd y ddyled yn codi. Gall hyn hefyd gael effaith negyddol ar dy sgôr credyd, ac mae hyn yn gallu cael effaith negyddol ar dy ddyfodol (gweler isod).

Dyn yn gyda graddfa sgôr credyd ar gyfer blog benthyca

Beth yw sgôr credyd?

Mae sgôr credyd yn cael ei benderfynu trwy dy adroddiad credyd. Gwybodaeth sydd yn cael ei gadw am dy hanes benthyca yw hwn. Mae llawer o bethau yn gallu cael effaith ar dy sgôr credyd – sawl cyfrif gwahanol sydd gen ti; pa mor hir rwyt ti wedi cael y cyfrifon yma; os wyt ti’n talu ar amser; faint o’r credyd sydd ar gael wyt ti’n defnyddio. Mae hyn i gyd yn rhoi sgôr credyd i ti, ac mae benthycwyr yn defnyddio hwn i benderfynu’r risg o fenthyg arian i ti.

Os oes gen ti sgôr credyd da, yna rwyt ti’n fwy tebygol o dalu’r benthyciad yn ôl ac felly’n llai o risg. Mae dy sgôr credyd hefyd yn gallu cael effaith ar y swm maent yn fodlon benthyca, a faint o log fydd yn cael ei godi ar y benthyciad.

Rwyt ti angen benthyca arian i fedru adeiladu sgôr credyd. Os nad wyt ti wedi benthyca, yna mae’n anodd iddynt amcangyfrif faint o risg wyt ti. Weithiau mae’n dda cael cerdyn credyd i ddechrau adeiladu dy sgôr credyd, hyd yn oed os nad wyt ti angen un. Sicrha dy fod di’n talu popeth yn ôl ar ddiwedd y mis fel nad oes rhaid talu llog.

Mae talu dy ddyledion yn bwysig iawn. Gall sgôr credyd drwg nawr gael effaith ar dy fenthyca yn y dyfodol pan fyddi di angen prynu rhywbeth pwysig fel car neu i gael morgais.

Mae gan HelpwrArian gyngor yma i wirio dy sgôr credyd a’r beth fedri di ei wneud i wella’r sgôr yma.

Cardiau credyd neu debyg agos ar gyfer blog benthyca

Pa fath o fenthyg sydd ar gael?

Nid yw pob dyled yn ddrwg – mae yna ddyled dda a dyled ddrwg. Gall dyled dda helpu ti i ddatblygu ac ennill mwy o arian – fel cyllid myfyriwr, prynu car, cael morgais neu fuddsoddi mewn busnes. Nid yw dyled ddrwg yn debygol o helpu ti i ddatblygu na chynyddu’r cyfle i ennill mwy o arian. Manylion pellach yn ein blog Dyled Da, Dyled Drwg a Chael Help.

Isod mae rhestr o opsiynau benthyca. Clicia pob un i ddarganfod mwy amdanynt ar wefannau HelpwrArian a Chyngor ar Bopeth.

Mae gan HelpwrArian Gyfrifiannell Cardiau Credyd a Chyfrifiannell Benthyciad ar eu gwefan. Mae posib defnyddio’r rhain i weld gwir gost dy fenthyca neu pa mor sydyn gallet ti orffen talu popeth.

Baner Argyfwng costau byw meic

Cymorth pellach

Os wyt ti’n cael trafferth gyda dyled neu eisiau gwybodaeth bellach, efallai bydd un o’r sefydliadau isod yn gallu helpu. Cer draw i’n hymgyrch Argyfwng Costau Byw am fwy o gyngor a gwybodaeth ariannol.

▪️StepChange – Elusen ddyled yn cynnig cyngor dyled, yn helpu pobl i adennill rheolaeth o’u harian a’u bywydau. Mae posib dechrau sesiwn cyngor dyled StepChange ar-lein neu ffonia 0800 138 1111.

▪️Llinell Ddyled Genedlaethol – National Debtline – Elusen yn cynnig cyngor dyled am ddim i bobl yn y DU. Mae ganddynt hwb costau byw sydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael.

▪️Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.

▪️Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic

▪️HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.

Baner manylion cyswllt Meic