x
Cuddio'r dudalen

Blog Gwadd: Cyngor gan Wasanaeth Arian a Phensiynau

Gofynnom i’r bobl o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau os hoffent ysgrifennu blog gwadd i Meic fel rhan o’n Hymgyrch Argyfwng Costau Byw. Derbyniwyd, ac maent wedi rhannu llwyth o wybodaeth a cyngor defnyddiol.

This article is also available in English click here

Mae gan Sarah Horscroft a Lee Phillips o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau gyngor a syniadau i rannu gyda thi am sut i gael mynediad at gefnogaeth os wyt ti’n berson ifanc sydd yn poeni am gostau byw. Mae ganddynt hefyd gyngor ar sut i reoli dy arian, boed dy fod yn dechrau byw yn annibynnol neu am gefnogi teulu mewn amser heriol.

Mae poeni am arian yn normal

Mae arian yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ddelio ag ef yn ddyddiol ac mae cynnydd yng nghostau byw yn rhywbeth rydym yn gweld yn gyson ar y teledu, gyda phobl yn siarad am gostau bwyd a gwresogi ein cartrefi. Mae’n ddealladwy bod nifer yn teimlo’n bryderus.

Mae’n profi pryderon ariannol yn beth arferol, ond mae’n well eu hwynebu yn hytrach nag anwybyddu bob tro. Boed dy fod yn symud allan o’r cartref, newydd raddio, neu wedi dechrau dy swydd gyntaf, os gallet ti ddatrys pethau sylfaenol gyda dy arian nawr, byddi di’n ei chael yn haws cyrraedd targedau arian mawr yn y dyfodol.

No idea, has questions, answers, search engines, internet, has answers, everything, confused, computers, laptops, people, career, occupation, happy, leisure, lifestyle, character, person, woman, female, pose, acting, posture, gesture, vector, illustration, flat, design, cartoon, clipart, drawin

Pan rwyt ti’n dechrau cefnogi dy hun yn ariannol, mae nifer o bethau i’w hystyried: dechreua gan feddwl am dy berthynas ag arian, efallai bod pethau’n well nag oeddet ti’n ei ddisgwyl.

Mae’r cwestiynau isod yn le da i gychwyn:

  • Oes well gen ti fyw am heddiw neu gynllunio am yfory? A pham fod hyn?
  • Wyt ti’n hyderus yn rheoli arian? A pham fod hyn?
  • Wyt ti’n meddwl ei fod yn bwysig cadw cofnod o’r arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan? Pam/pam ddim?
  • Wyt ti’n hoffi siopa o gwmpas fel bod arian mynd ymhellach neu wyt ti’n prynu ar awydd?
  • Wyt ti’n siarad am arian?
  • Beth yw dy agwedd tuag at wario, cynilo a benthyg arian?
  • Sut oedd  dy deulu yn rheoli arian wrth i ti dyfu?

Ble ydw i’n cychwyn?

Er gall cefnogi dy hunan yn ariannol deimlo’n ormod ar y cychwyn, mae ein gwefan HelpwrArian yn rhestru’r pethau pwysicaf i’w hystyried os wyt ti rhwng 16 a 24. Gallet ti hefyd ddefnyddio ein canllawiau i gadw ar y trywydd  cywir gyda dy arian.

“Dwi’n anobeithiol gydag arian, mae pawb yn gwybod hynny”

Nid yw’r ffordd rwyt ti wedi delio ag arian yn y gorffennol yn meddwl mai dyma sut fyddi di yn y dyfodol. Wrth i ti dyfu fel person, mae dy flaenoriaethau yn newid a bydd y bobl sydd o’th gwmpas yn deall hynny.

Y cam cyntaf i fod yn arbenigwr arian sy’n gwybod yn union beth maen nhw’n siarad amdano yw trefnu dy gyllideb. Bydd angen rhoi ymdrech i mewn, ond mae’n ffordd wych i gael cipolwg o’r arian sydd yn dod i mewn ac allan. Mae creu cyllideb yn meddwl dy fod:

  • Yn llai tebygol o fynd i ddyled
  • Yn llai tebygol o gael dy ddal allan gyda chostau annisgwyl
  • Yn fwy tebygol o gael statws credyd da
  • Mewn sefyllfa well i gynilo am wyliau, car, neu trît arall

I ddechrau gallet ti ddefnyddio Cynlluniwr Cyllideb HelpwrArian sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac am ddim.

Illustration of a piggybank

Awgrymiadau ac adnoddau arbed arian

Yn y Brifysgol? Edrycha ar ein hawgrymiadau a chanllawiau i fyfyrwyr prifysgol

Defnyddio’r bws neu drên? Os wyt ti’n defnyddio trenau’n aml, sicrha dy fod yn cael Cerdyn Rheilffordd 16-25 gan ei fod yn arbed traean ar brisiau trên. Os wyt ti rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, gallet ti wneud cais am FyNgherdynTeithio. Gallet ti gael gostyngiad o un rhan o dair wrth deithio ar fysiau. 

Mae byw yng Nghymru yn golygu y gallet ti gael mynediad at gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru

Blaenoriaethu

Os wyt ti neu dy deulu’n cael trafferth, gall cynlluniwr cyllideb gyflym, hawdd i’w ddefnyddio HelpwrArian dy helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i gychwyn â nhw a sut i osgoi methu unrhyw daliadau.

Os wyt ti wedi methu taliad, paid poeni ar ben dy hun. Gall helpu i siarad â chynghorydd dyled hyfforddedig a phrofiadol am dy sefyllfa i benderfynu beth yw’r ateb gorau i ti. Defnyddia declyn lleoli cyngor dyled HelpwrArian i ddarganfod cefnogaeth gyfagos, naill ai ar-lein, dros y ffôn, neu’n wyneb yn wyneb.

Yn aml, mae cysylltiad rhwng trafferthion ariannol a lles meddyliol gwael. Gall teimlo’n isel ei wneud yn anodd rheoli arian – a gall poeni amdano wneud i ti deimlo’n waeth byth. Dysga fwy am broblemau arian a lles meddyliol gwael.

Newyddion da efallai nad wyt ti’n ymwybodol ohono…

Os wyt ti wedi cael dy  eni yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n debyg y bydd gen ti gronfa ymddiriedolaeth plant – math o gyfrif cynilo – boed dy rieni/gwarchodwyr wedi agor cyfrif i ti neu beidio.

Rhoddodd Llywodraeth y DU gyfraniad o £250 neu £500 i bob plentyn ganwyd i agor cyfrif. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu at rai o’r cyfrifon. Hyd yn oed os na chafodd arian ychwanegol ei ychwanegu at y cyfrif, dylai fod rhywbeth yno i ti o hyd – gall hyn fod yn rhywbeth o rai cannoedd i dros £1000. Os wyt ti’n 16 neu’n 17 oed rwyt ti bellach yn cael rheoli’r cyfrif yma dy hun  ond nid wyt ti’n cael mynediad i’r arian nes byddi di’n 18 oed. Mae’r fideo yma yn esbonio’r cyfan.

Beth bynnag dy sefyllfa, cofia fod cymorth ar gael. Cysyllta â HelpwrArian am gyngor am ddim gallet ti ymddiried ynddo.

Eisiau siarad?

Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny’n ymwneud ag arian neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.

Cer i weld ein hymgyrch Argyfwng Costau Byw am flogiau eraill. Mae yna lawer o wasanaethau a sefydliadau gwych o gwmpas fydd yn gallu helpu.

▪️Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic