x
Cuddio'r dudalen

Dyled Dda, Dyled Ddrwg a Chael Help

Fel rhan o’n Hymgyrch Argyfwng Costau Byw rydym yn edrych ar ddyled – beth yw e, i bwy mae’n digwydd, beth yw dyled dda a drwg, sut i fenthyg yn ddiogel a beth i wneud os wyt ti’n colli rheolaeth o dy ddyled. Dyma ein canllaw i holl bethau yn ymwneud â dyled.

To read this article in English, click here

Dyled yw rhywbeth (arian fel arfer) sydd yn gorfod cael ei dalu’n ôl i’r person neu’r sefydliad sydd wedi benthyg yr arian i ti. Fel arfer bydd angen talu costau ychwanegol ar ben y swm benthycwyd am y fraint o gael benthyg yr arian i gychwyn.

Er esiampl, efallai bod dy frawd yn benthyg £10 i ti am fis. Ar ddiwedd y mis mae’n gofyn am £12 yn ôl – diolch bach am roi benthyg yr arian! Efallai bod dy frawd ychydig yn grintachlyd yn gwneud hynny, ond mae hyn yn digwydd bron bob tro pan ddaw at sefydliadau. Bydd angen talu swm ychwanegol yn ôl iddynt fel arfer, ac yn aml bydd hyn yn llawer mwy nag cwpl o bunnoedd.

Pwy sydd efo dyled?

Gall unrhyw un fod mewn dyled. Nid oes math penodol o berson sydd yn cael i ddyled. Ychydig iawn o bobl fydd yn byw eu bywyd heb fod angen benthyg arian.

Wyddost ti’r bobl enwog iawn yna rwyt ti’n edmygu, y rhai sydd â digonedd o arian? Mae’n debyg bod ganddyn nhw ddyled hefyd. Gallant fforddio mynd i siopa dillad neu brynu car newydd heb fynd i ddyled, ond efallai nad oes ganddynt $30 miliwn yn y banc i brynu plasty mawr yn L.A. Mae’n debyg byddant angen benthyg arian gan y banc (morgais) hefyd.

Beth yw dyled dda a dyled ddrwg?

Mae dyled yn gallu cael ei rannu yn ddau fath, dyled dda a dyled ddrwg. Mae’n bwysig deall p’run yw p’run!

Dyled dda

Nid yw pob dyled yn ddyled ddrwg. Mae dyled dda yn gallu helpu ti i ddatblygu ac ennill mwy o arian, ac felly’n gallu talu’r ddyled yn ôl. Ni fyddai’r mwyafrif o bobl yn gallu fforddio talu am y ‘dyledion da’ canlynol yn syth. Bydd angen benthyg arian i fedru symud ymlaen a gwella’u bywydau a’u rhagolygon.

  • Cyllid myfyrwyr – mae posib hawlio cyllid myfyrwyr pan fyddi di’n mynd i’r brifysgol. Gall hyn helpu i gael cymwysterau da gall arwain at swydd dda. Bydd hyn yn help wrth ad-dalu’r benthyciad
  • Prynu car – Gall hyn dy helpu i gael gwaith. Efallai bod swydd yn nodi bod cael car dy hun yn hanfodol. Mae hyn yn golygu ennill cyflog fydd yn gallu cael ei ddefnyddio i dalu’r benthyciad yn ôl
  • Cael morgais – benthyg arian gan y banc i brynu tŷ. Mae prisiau tai yn tueddu codi dros gyfnod, felly mae posib y gall tŷ sydd wedi’i brynu am £100,000 godi i £120,000 o fewn 10 mlynedd. Mae’r banc yn eithaf hyderus i roi benthyg arian i brynu tŷ (os wyt ti’n gallu fforddio’r ad-daliadau); os nad wyt ti’n gallu talu’r morgais yn ôl yna mae’r tŷ ganddynt o hyd.
  • Buddsoddi i dyfu busnes – mae’r math yma o fenthyg yn gallu arwain at dyfiant busnes. Gall hyn gynyddu dy incwm yn y tymor byr, a chynyddu gwerth dy fusnes yn yr hir dymor.

Dyled ddrwg

Nid yw’r fath yma o ddyled yn helpu rhywun i ddatblygu nac yn cynyddu cyfle i ennill mwy o arian. Gall pethau fynd allan o reolaeth a’i gwneud yn anodd i ti dalu’r benthyciad yn ôl. Mae hyn yn gallu cael effaith negyddol ar dy fywyd a dy iechyd. Dyma rai esiamplau a beth gall ddigwydd os yw pethau’n mynd o’i le.

  • Talu am wyliau drud ar gerdyn credyd gyda llog (interest) uchel – mae’r llog ar ben yr hyn rwyt ti’n ei fenthyg yn gallu ei gwneud yn anodd talu’r swm benthycwyd yn ôl. Gall methiant i ad-dalu cerdyn credyd roi marc du yn erbyn dy enw pan fyddi di’n ceisio benthyg eto yn y dyfodol. Gelwir hyn yn gredyd drwg. Efallai bydd hyn yn dy atal rhag prynu rhywbeth hanfodol yn hwyrach ymlaen, fel angen car ar gyfer swydd.
  • Prynu car newydd sbon am ei fod yn edrych yn neis, nid oherwydd angen – sicrha dy fod di’n gallu fforddio talu’r ad-daliadau a dy fod di’n ystyried yr hyn gall ddigwydd os bydda dy sefyllfa’n newid (fel colli gwaith). Gan fod ceir newydd yn gostwng yn eu gwerth yr eiliad maent yn gadael y garej, os bydda ti angen gwerthu’r car i geisio cael arian yn ôl i dalu benthyciad, yna ni fyddi di’n cael y swm cyfan byddi di angen.
  • Cymryd Benthyciad Diwrnod Talu i helpu gyda biliau o ddydd i ddydd – mae’n arwydd drwg iawn os wyt ti’n cymryd benthyciad o’r fath (payday loan) i dalu am nwy, trydan, rhent, bwyd ayb ac yn gallu arwain at ddyled bellach. Mae gan y fath yma o fenthyciad cyfradd llog uchel iawn fel arfer, sydd yn golygu bod angen talu llawer mwy yn ôl. Gall fod yn arwydd dy fod di’n fenthyciwr anghyfrifol hefyd, gan arwain at fethu cael benthyciad gan y banc yn y dyfodol. Os wyt ti’n ei chael yn anodd talu am filiau, siarada gyda rhywun fydd yn gallu helpu gyda’r sefyllfa a darganfod ffordd ymlaen. Mae sefydliadau fel y CAB yn gallu helpu os yw’n anodd i ti dalu biliau. Mae posib creu cynllun talu fforddiadwy gyda chyflenwyr ynni a gweld os wyt ti’n gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau.

Sut ydw i’n gallu benthyg arian yn ddiogel?

Bydd y mwyafrif o bobl angen benthyg arian yn ystod eu bywyd. Mae’n rhywbeth eithaf arferol. Ond, mae’n RHAID i gredyd (yr arian rwyt ti’n cael benthyg) weithio i ti, ac nid yn dy erbyn.

Dilyna’r cyngor yma er mwyn cadw rheolaeth ar dy ddyled yn hytrach na’r ddyled yn rheoli ti!

1. Chwilia am y fargen orau wrth brynu rhywbeth

2. Benthyg arian mor rhad â phosib. Rwyt ti’n chwilio am yr APR (cyfradd canran flynyddol) gyda’r ffigwr isaf. Weithiau mae posib cael APR sydd yn 0% ac mae hyn yn golygu nad oes rhaid talu unrhyw log (interest) yn ychwanegol i’r hyn benthycwyd am y cyfnod amser penodol.

3. Meddylia sut y byddi di’n talu os byddai’r gyfradd llog yn codi yn y dyfodol

4. Ystyried os byddai benthyg yr arian yn gwella dy sefyllfa ariannol yn yr hir dymor. Fel prynu car i gael swydd sydd yn talu’n well.

5. Deall y peryglon – beth fydd yn digwydd os bydd pethau yn mynd o’i le (fel colli swydd)?

6. Deall telerau ac amodau benthyg yr arian – weithiau mae posib benthyg arian heb dalu llog, ond bydd amodau ynghlwm â hyn. Os wyt ti’n torri’r amodau yma yna gallet ti golli’r budd o beidio talu llog.

7. Cael cynllun/cyllido – yn anffodus nid oes gan neb goeden arian yn tyfu yn yr ardd. Mae’n hanfodol deall beth sy’n rhaid talu a phryd. Mae peidio cadw at y cytundeb sydd wedi’i gytuno yn gallu arwain at drafferthion a gall hyn gael effaith difrodus arnat ti wrth symud ymlaen.

Beth ydw i’n gallu gwneud os yw dyled yn dod yn ormod?

Gall dyled fod yn bod yn boen mawr ar rywun. Mae’n gallu cael effaith difrodus ar iechyd meddyliol a chorfforol. Gall achosi iselder, pryder ac weithiau mae’n gallu gwneud i rywun deimlo’n hunanddinistriol, a gall hynny arwain at yfed, cyffuriau, ymddygiad peryglus a pheidio cymryd gofal ohonot ti dy hun, sydd yn gallu achosi salwch mwy hir dymor.

Os yw dyled yn cael effaith ar dy iechyd meddyliol neu gorfforol, yna siarada gyda dy feddyg teulu. Gallant gynnig cefnogaeth a darganfod yr help sydd ei angen arnat.

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi dangos pa mor sydyn gall pethau newid. Gall pobl golli swyddi ac incwm, bod yn wael ac, yn anffodus iawn, marw, sydd yn gallu rhoi’r bobl agos atynt mewn trafferthion ariannol.

Os yw dy ddyled di yn golygu nad wyt ti’n gallu cysgu yn y nos, yna mae’n arwydd da dy fod di angen help. Nid yw’n rhywbeth i deimlo cywilydd ohono, a gorau oll yw cael y cymorth yma yn sydyn. Annhebyg iawn yw y bydd hyn yn cael ei ddatrys heb unrhyw gymorth.

Ble i gael help

Mae yna lawer o sefydliadau dyled arbenigol AM DDIM gall gynnig cefnogaeth. Os ydynt yn gofyn i ti dalu am eu gwasanaethau yna PAID – nid oes rhaid i ti dalu. Bydd y gwasanaethau am ddim yn darparu’r holl gefnogaeth yr wyt ti ei angen i gael trefn ar bethau eto.

  • HelpwrArian – gwasanaeth diduedd am ddim. Maent yn cynnig cyngor a chanllawiau ar eu gwefan ac ar y ffôn. Mae yna declynnau a chyfrifianellau ar-lein gwych i gadw trac ar wariant. Mae ganddynt fanylion cyswllt amrywiaeth o wasanaethau cyngor dyled am ddim ar-lein, ar y ffôn ac wyneb i wyneb. Clicia yma i ddarganfod rhai o’r gwasanaethau sydd yn cael eu hargymell.
  • Step Change – elusen ddyled gyda llawer o gyngor a gwybodaeth ddyled am ddim ar eu gwefan. Mae help ar gael ar-lein a byddant yn awgrymu’r datrysiadau a’r gwasanaethau gorau ar gyfer dy sefyllfa ac yn cynnig cefnogaeth i ti am ba bynnag hyd yr wyt ti ei angen.
  • Meic – llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed  yng Nghymru. Os wyt ti’n poeni ac angen siarad am hyn ymhellach, bydd un o’n cynghorwyr yn gallu siarad gyda thi am yr hyn sydd angen ei wneud ac yn gallu helpu ti i gysylltu gyda’r gwasanaethau gall helpu. Cysyllta yn gyfrinachol, ac am ddim, unrhyw amser rhwng 8yb a hanner nos bob dydd, ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.
  • Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic