Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw
Mae digonedd o apiau ffasiynol ar y farchnad yn honni eu bod yn gallu arbed pres i ti, ond ydi hyn yn wir? Fel rhan o’n Hymgyrch Argyfwng Costau Byw, rydym yn edrych ar ambell i app a gwefannau i helpu ti. Nid yw’n rhestr o’r holl apiau sydd ar gael (mae yna lawer) ond dewisiad bach ohonynt.
This article is also available in English – click here
Clicia ar unrhyw un o’r opsiynau isod i fynd yn syth i’r adran yna:
Apiau cyllidebu
Gall apiau cyllidebu fod yn ffordd hawdd o gynllunio dy gyllideb a gweld faint rwyt ti’n gwario bob mis. Efallai dy fod yn gwario mwy nag oeddet ti’n meddwl ar rai pethau, a llai ar bethau eraill. Gall rhai hysbysu am danysgrifiadau ti ddim yn defnyddio! Gellir rhoi arian dros ben ar ddiwedd y mis ei roi mewn cyfrif cynilo yn awtomatig. Mae’r apiau hyn yn gweithio drwy fancio agored, sy’n golygu fod angen i ti roi caniatâd i dy fanc i rannu dy fanylion efo’r apiau gan ddefnyddio API. Dyma ambell i enghraifft:
- Plum – ‘Pocedi’ i gynilo arian sy’n cael ei gadw ar wahân i wario a chynilo fel arall. Rowndio bob pryniant i fyny a chynilo’r gwahaniaeth. Gwneud un taliad awtomatig i gyfrif cynilo ar ddiwrnod cyflog. Gwybod os wyt ti’n talu gormod ar dy filiau a darganfod cynigion.
- Emma– cysylltu dy gyfrifon i gyd mewn un lle. Rhagweld gwariant am y mis. Categoreiddio a gosod cyllideb. Cadw llygad ar daliadau rheolaidd a chael gwared ar danysgrifiadau diangen.
- HyperJar – cerdyn rhagdaledig digidol neu faterol. Rhannu arian i wahanol ‘jar’. Cysylltu siopau i jar benodol (e.e. os wyt ti’n siopa yn Aldi, cysyllta ef i jar ‘bwyd’). Ennill llog os wyt ti’n gwario gyda chwmnïau penodol. Creu jariau rhannu gwario gyda theulu, partner, neu rywun sy’n byw gyda thi.
Am wybodaeth bellach ar apiau cyllidebu, cymer olwg ar flog Which?, cwmni dielw annibynnol sy’n helpu cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus.
Sicrha bod dy arian yn saff ar apiau cyllidebu wrth chwilio drwy’r gofrestr gofrestr FCA ac Open Banking. Bydd yn ymwybodol os wyt ti’n rhoi arian yn un o’r apiau yma, mae’n bosib na fydd dy arian yn cael ei warchod dan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Adnoddau Cyllidebu ar apiau bancio
Manteisia o’r adnoddau cyllido sydd ar gael ar dy app bancio yn barod. Mae gan fanciau digidol fel Monzo a Revolut adnoddau cyllidebu gwych, ac mae banciau stryd fawr yn dal i fyny gyda nhw.
- Monzo – rhanna dy arian i mewn i ‘botiau’ gwahanol i gadw dy gynilion ar wahân i’r gwario dydd-i-ddydd. Yn categoreiddio dy wariant yn awtomatig i wahanol gategorïau fel bwyd, biliau, ayyb. Adroddiad gwario ar ddiwedd y mis.
- Natwest – mewnwelediadau gwario, gosod cyllideb ar gyfer gwahanol gategorïau, gwirio sgôr credyd ayyb.
- Santander – cadw trac ar filiau, cadw llygaid ar wariant misol, a gweld pryd fydd arian yn dod i mewn.
- Lloyds Bank – gosod cyfyngiadau misol ar wariant mewn gwahanol gategorïau, creu cynllun a chadw llygad ar dy gynnydd.
- Revolut – defnyddio Bancio Agored i weld dy holl gyfrifon, gosod cyfyngiadau i gadw o fewn cyllideb, mewnwelediadau wythnosol a dadansoddeg clyfar.
Cwponau /Bargeinion
- Snoop – cadw trac o ble ti’n siopa a rhannu codau gostyngiadau. Darganfod prisiau gwell ar gyfer ynni, ffonau symudol a band-eang. Cael dy atgoffa pan fydd angen adnewyddu a chanfod y bargeinion orau.
- Honey – estyniad porwr am ddim sy’n helpu i gael y bargeinion gorau wrth siopa ar-lein. Chwilio am godau ac yn eu defnyddio’n awtomatig.
- Voucher Cloud – arbedion a gostyngiadau gwych i siopau a brandiau’r stryd fawr.
- Keepa – tracio prisiau i gadw llygad ar newidiadau prisiau Amazon. Gosod hysbysiad pris am eitemau ar dy restr.
- CamelCamelCamel – tracio prisiau sy’n gadael i ti wybod pan fydd prisiau yn dod i lawr ar Amazon. Dangos hanes pris popeth sydd ar werth ar Amazon.
- Idealo – cymharu prisiau ar amrywiaeth o eitemau o wahanol siopau ar-lein i ganfod y lle gorau i brynu.
Gwefannau cymharu
Mae yna wefannau cymharu arbennig os wyt ti eisiau chwilio am y fargen orau.
Os wyt ti’n chwilio am y prisiau rhataf am bethau fel biliau ynni, yswiriant (car, bywyd, tŷ, cartref ayyb.) a chardiau credyd, yna rhai o’r gwefannau mwyaf adnabyddus yw Compare The Market, Confused.com, Go Compare, a MoneySuperMarket. Rwyt ti’n rhoi dy fanylion i mewn ac yna byddi di’n cael y bargeinion gorau sydd yn agored i ti o restr eang o ddarparwyr (er nid yw pob darparwr yn gwneud cynnig drwy’r gwefannau yma).
Os wyt ti’n chwilio am gynnyrch penodol, defnyddia wefannau cymharu fel PriceGrabber; PriceRunner; Google Shopping, Kelkoo, Idealo ayb. Y gobaith yw y byddi di’n darganfod y pris rhataf am rywbeth.
Tanysgrifiadau
Os wyt ti’n defnyddio Netflix, Disney+ neu Spotify ayyb., fedri di leihau dy gostau drwy rannu cyfrif deuol neu deulu gyda phobl eraill yn y tŷ? Cadwa lygad ar dy danysgrifiadau. Chwilia i weld os oes bargen ar gael fel rhan o gontract ffôn er enghraifft. Os nad wyt ti’n defnyddio’r gwasanaeth premiwm, yna israddia!
Mae hopio tanysgrifiadau yn opsiwn arall i’w ystyried. Yn hytrach na chael sawl gwasanaeth ffrydio gwahanol, gallet ti danysgrifio i un. Gwylia neu wrando ar yr hyn rwyt ti eisiau, yna cansla’r tanysgrifiad cyn tanysgrifio i rywun arall am gyfnod. Chwilia am fargeinion i gwsmeriaid newydd gyda gwasanaethau tanysgrifio eraill.
Bwyd
- Olio – darganfod pobl yn dy ardal di sy’n rhannu bwyd am ddim i osgoi gwastraff.
- Approved food – gwerthu bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad ‘best before’ (ond nid dyddiad ‘use-by’) am brisiau is.
- Too Good To Go – mae caffis, bwytai, bwydydd cyflym ac archfarchnadoedd yn defnyddio hwn i gael gwared ar fwyd fydda’n cael ei wastraffu fel arall. Maent yn gwerthu ‘bagiau hud’ am bris rhad iawn.
- Kitche – helpu i gadw trac o siopa bwyd. Hysbysu pan fydd dyddiad difetha’r bwyd yn agosáu ac yn awgrymu ryseitiau.
- Apiau arian yn ôl archfarchnafoedd – weithiau mae posib cael 100% o arian yn ôl (cashback) ar fwyd a diod, sy’n golygu eu bod nhw am ddim, mwy neu lai.
Os wyt ti angen defnyddio banc bwyd, cymer olwg ar flog Save the Student, edrycha ar wefan y Trussell Trust, neu ar wefan dy awdurdod lleol i ddarganfod un agos i ti.
Dillad
- Vinted a DePop – ffasiwn ail law a ‘vintage’. Bargeinion ar ddillad am ffracsiwn o’r pris gwreiddiol –weithiau mae’r dillad yn newydd sbon, gyda thagiau!
- ReGAIN app – cyfnewid hwn ddillad am daleb tuag at ddillad newydd.
- Gwefannau ail law – defnyddia wefannau fel Oxfam, eBay a Asos Vintage i ddarganfod dillad. Dillad cwmnïau drud am brisiau isel yn aml. Byddi di hefyd yn helpu’r amgylchedd.
Teithio
- SplitSave – wrth brynu tocynnau trên ar app Trainline, defnyddia ‘SlpitSave’ i arbed arian wrth rannu dy siwrne. Mae Trainline yn codi ffi i brynu tocynnau, felly pryna gyda’r cwmni trên yn uniongyrchol i arbed ar y ffioedd. Dysga fwy am gardiau rheilffordd, mae posib arbed llawer iawn os wyt ti’n teithio’r trenau yn aml.
- Omio – app cynllunio taith. Chwilia am y siwrne trên neu fws rhataf a fwyaf sydyn.
- Apiau rhannu siwrne â– os wyt ti’n byw mewn dinas, chwilia am apiau rhannu siwrne fel Blablacar. Galli di hyd yn oed gynnig lifft i rywun arall os wyt ti eisiau rhannu costau petrol!
- Parkopedia – darganfod llefydd am ddim i barcio yn y ddinas.
Mwy o ffyrdd i arbed arian
- BorrowBox – amrywiaeth eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar i lawrlwytho.
- Splitwise – os wyt ti angen rhannu costau gyda theulu neu ffrindiau, mae posib defnyddio hwn i gadw llygad ar bwy sydd wedi talu am be, a pwy sydd angen rhoi arian i bwy.
- IFTTT via Monzo – os oes gen ti gyfrif Monzo, mae IFTTT (‘if this, then that’) yn cysylltu i wasanaethau fel Calendr Google, Twitter a Dropbox, yn rhoi cyfarwyddiadau i yrru pres i botiau cynilo. Er enghraifft, mae defnyddwyr yn gallu creu cysylltiad rhwng Google a Monzo, felly pan fyddi di’n gofyn i Google Assistant o ‘gynilo £5’, bydd y swm yn cael ei symud i bot cynilo yn syth.
Cymorth pellach
Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.
HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.
Turn2Us– elusen genedlaethol sydd yn cynnig help ymarferol i bobl sydd yn cael trafferthion ariannol.
Llywodraeth Cymru – Cael help gyda chostau byw – darganfod pa gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael i dy helpu, o filiau dŵr, trydan a nwy, i dai a budd-daliadau, i ysgol ac addysg uwch.
Llinell Ddyled Genedlaethol – National Debtline – Elusen yn cynnig cyngor dyled am ddim i bobl yn y DU. Mae ganddynt hwb costau byw sydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael.