x
Cuddio'r dudalen

Fy Siwrne Gamblo: O Hwyl i Ddibyniaeth i Adferiad

Dyma flog gwadd gan Matt, sydd yn rhannu ei stori gamblo. Rhannodd ei brofiad am y cyfnod pan newidiodd o fod yn hwyl i frwydro dibyniaeth gyfrinachol. Rhannodd ei deimladau tywyll pan gyrhaeddodd y pen, ei adferiad, a’r help sydd ar gael. Dyma stori Matt.

Hwyl ddiniwed?

Ras geffylau’r Grand National yw fy atgof gamblo cynharaf, ar y teledu unwaith y flwyddyn. Byddai fy chwaer a finnau yn chwarae i ennill da-da. Mor syml ar yr adeg – gêm o hap i weld pwy fydda’n ennill rhywbeth melys – a ffordd gyffrous i gael hwyl fel plant.

Wrth i mi dyfu, roedd gamblo ychydig yn wahanol. Roedd pethau’n gystadleuol ac yn hwyl wrth chwarae gêm o daflu yn erbyn y wal ar iard yr ysgol. Nid gêm ar hap oedd hwn; roedd angen sgil ac ychydig o lwc i gael i frig y bwrdd sgorio.

Ar ôl cyrraedd fy arddegau, cefais fy nghyflwyno i fyd y peiriannau ffrwythau trwy’r neuadd snwcer lleol. Roedd gamblo yn fy arddegau yn rhywbeth hwyl gyda ffrindiau, nid yn rhywbeth roeddwn i’n ystyried fel ymddygiad niweidiol, dim ond hwyl!

Gamblo ym myd yr oedolion

Ar ôl gadael yr ysgol, ymunais â’r Llynges Frenhinol a chael ymweld â nifer o wledydd gwahanol dros y byd, a chael fy nhalu hefyd! Gweithiais yn galed iawn a chael dyrchafiad. Roeddwn yn gwneud bywoliaeth dda, ac yn caru fy ngwaith.

Arhosais mewn llawer o westai dros y byd gyda’m ngwaith, ac roedd casino mewn sawl un. Dyma fy nghyflwyniad cyntaf gamblo ym myd yr oedolion. Yn y cyfnod yma roeddwn yn gamblo gyda ffrindiau ac yn cadw at gyllid, yn deall pryd i roi’r gorau iddi a byth yn mynd ar ôl fy ngholledion.

Ychydig flynyddoedd i mewn i’m ngyrfa yn y Llynges, dechreuais deimlo’n wael yn gorfforol. Ar ôl llawer o brofion, cefais ddiagnosis o afiechyd hunan imiwn. Cefais y newyddion ar y diwrnod yr oeddwn i fod i hwylio i’r Arctig, rhywle na fues i erioed. Aeth y llong hebdda i, a chefais fy israddio’n feddygol yn anaddas i fynd allan i’r môr. Roedd hyn yn newid bywyd. Roeddwn i fod i gael fy nghyflwyno i banel meddygol o ddoctoriaid fydda’n penderfynu os gallwn i barhau i wasanaethu’r Llynges. Ni allwn dderbyn hyn. Tarodd yr iselder a dechreuais yfed i ddianc rhag y realiti.

Dyn ifanc yn gwenu ar y camera mewn gwisg y Llynges Frenhinol yn cario gwn awtomatig
Matt yn 18 oed ar ei daith filwrol dramor cyntaf i’r UDA ar HMS Scott

Dod yn ddibynnol

Pan roedd y bariau, tafarndai a’r clybiau yn cau, nid oedd posib yfed mwy. Sylweddolais fod y casinos yn agored yn hwyrach, felly byddwn yn mynd yno i yfed ond hefyd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau oedd yno. Byddwn yn chwarae pocer, blackjack, roulette, a’r peiriannau slot.

Roedd gamblo yn ffordd i ymdopi gyda pheidio cael teithio yn y Llynges. Newidiodd o fod yn rhywbeth achlysurol i fod yn rhywbeth i’m helpu dianc o’r realiti. Stopiais yfed yn y diwedd, ond nid y gamblo, am dros 12 awr y dydd weithiau. Aeth hyn ymlaen am flwyddyn wrth i mi ddisgwyl i gael fy rhyddhau o’r Llynges.

Cyrraedd y gwaelod

Ar ôl 5 mlynedd yn gamblo’n gyfrinachol, cyrhaeddais y pen. Ni allwn fenthyg na dwyn rhagor. Roedd gen i gywilydd o’m nibyniaeth gamblo, ac roedd cwmwl mawr ddu dros fy nyfodol. Roeddwn yn meddwl am ladd fy hun, gadael fy ngwraig a’m nheulu gyda cholled enfawr a llawer o gwestiynau heb eu hateb.

Penderfynais chwilio am help a chysylltu â’r Rhwydwaith Cymorth Gamblo Cenedlaethol. Dechreuais gael therapi grŵp ac ymyriadau ymddygiad gwybyddol. Roedd gen i rwydwaith cymorth a roddodd obaith i mi y byddai pethau’n gwella, ac yn fy helpu allan o’r tywyllwch oedd wedi fy llyncu am mor hir. Mater o gymryd pethau un cam ar y tro, yn gwrthsefyll yr ysfa gamblo, ac yn araf bach, llaciodd y ddibyniaeth ei afael arna i.

Fe ddois yn dad 10 mis i mewn i’r adferiad. Ni feddyliais i erioed y byddwn i’n cyflawni rhywbeth mor anhygoel. Roedd cael bod yn ffigwr tadol yn rhoi pwrpas i mi. Mae’n gwneud i mi sylweddoli bod yr adferiad yn beth da. Nid wyf wedi gamblo ers 6 mlynedd bellach, a dwi’n parhau i gysylltu gyda’r rhwydweithiau cymorth a helpodd fi i ailadeiladu fy mywyd.

Poeni am y dyfodol

Mae fy mab yn 5 oed bellach ac wedi gofyn am Nintendo Switch yn anrheg Nadolig. Rwy’n ymwybodol o’r tebygrwydd rhwng chwarae gemau ar-lein a gamblo. Yn prynu blychau ‘loot’ sydd yn aml yn cael eu hysbysebu fel ‘gwobrau am ddim’ a phethau eraill gellir eu prynu yn y gêm. Mae’r adrenalin ti’n cael yn gamblo yn debyg iawn i’r adrenalin ti’n teimlo wrth chwarae gemau ar-lein, ac mae hyn yn gallu bod yn gaethiwus iawn, ond gallant golli llawer o arian wrth brynu pethau fel hyn hefyd.

Byddaf yn cadw llygaid craff ar ymddygiad fy mab a’r amser mae’n treulio ar ei gonsol wrth iddo gychwyn ar ei siwrne o chwarae gemau. Fel un oedd yn gaethiwus i amblo, rwy’n adnabod y tebygrwydd sydd i gemau ar-lein.

Cael help

Mae Matt yn gweithio i elusen Ara Recovery 4 All, ble mae’n rhannu ei brofiadau a’i wybodaeth i roi cymorth i eraill. Mae Ara Recovery 4 All yn darparu triniaeth genedlaethol i bobl sydd yn stryglo gyda niweidiau yn ymwneud â gamblo yng Nghymru, gan gynnwys rhai y mae gamblo rhywun yn arall yn cael effaith arnynt.

Os wyt ti’n poeni am dy ymddygiad gamblo neu chwarae gemau ar-lein, neu am rywun sydd yn agos i ti, fedri di gysylltu â Gwasanaeth Gamblo Ara Recovery 4 All yn gyfrinachol i drafod y cymorth sydd ar gael. Ffonia 0330 1340 286 neu e-bostia aragamblingservice@recovery4all.co.uk. Ymwela â’u gwefan www.recovery4all.co.uk i ddarganfod mwy. 

Siarad â Meic

Os wyt ti angen siarad mwy am hyn neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni di, cysyllta gyda ni yma yn Meic. Mae ein cynghorwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ac am ddim bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Rhywun ar dy ochr di.