x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Dathlu Nawr? Poeni Wedyn? Costau cudd cynlluniau Prynu Nawr Talu Wedyn (PNTW)

Pentwr o anrhegion mewn papur lapio coch a brown o flaen coeden Nadolig

Gall cynlluniau Prynu Nawr Talu Wedyn (PNTW) ymddangos fel y datrysiad perffaith er mwyn ymestyn dy gyllideb dros y Nadolig. Ond, gall olygu ymrwymiadau ariannol ymhell i fewn i’r flwyddyn newydd. Dyma gyngor ar sut i ddefnyddio’r cynlluniau yma yn gyfrifol:

Gwna’n siŵr dy fod yn gallu fforddio’r ad-daliadau

Efallai bod y taliadau yn edrych yn hawdd i’w rheoli mewn rhandaliadau, ond paid â gwario mwy nag wyt ti’n gallu fforddio. Cadwa gofnod o faint wyt ti wedi’i wario a phryd mae’r taliadau nesaf. Fedri di fod yn drefnus ac yn ymwybodol o dy ymrwymiadau ariannol a chadw rheolaeth o dy gyllideb.

Bydda’n ymwybodol o ffioedd annisgwyl

Bydd ffioedd yn cael eu hychwanegu am ad-daliadau hwyr; mae’r rhain yn gallu cronni’n sydyn ac o bosib byddant yn cael effaith ar dy sgôr credyd. Gwiria’r amodau a thelerau cyn ymuno a bydda’n ymwybodol o ffioedd ychwanegol.

Person yn lapio anrheg Nadolig ar fwrdd pren glas

Rhoi anrhegion heb y straen ariannol

Gall fod yn hawdd gwario arian er mwyn cael yr anrheg perffaith i rhywun. Bydda’n onest gyda dy deulu a ffrindiau am be ti’n gallu fforddio. Canolbwyntia ar brofiadau ac anrhegion meddylgar sydd o fewn dy gyllideb.

Diffyg sicrwydd i brynwyr

Dwyt ti ddim yn cael dy amddiffyn o dan adran 75 ac nid yw gwasanaethau PNTW yn amddiffyn prynwyr yn yr un ffordd a chardiau credyd traddodiadol. Golygai hyn ei fod yn anoddach i ddadlau yn erbyn costau neu gael ad-daliad. Fodd bynnag, os wyt ti eisiau gwneud cwyn yn erbyn yr adwerthwr, mae’n bosib gwneud hynny.

Merch yn eistedd ar fwrdd y gegin yn defnyddio cyfrifiannell. Blog PRTW

Effaith ar arferion ariannol

Mae PNTW yn ei wneud yn haws i brynu’n fyrbwyll. Paid â theimlo pwysau i wario arian, yn enwedig yn ystod adegau drud o’r flwyddyn fel tymor y Nadolig. Mae aros at gyllideb yn creu arferion ariannol da a chyfrifol.

Cefnogaeth ar gael i ti

Os wyt ti’n poeni am gadw fyny gydag ad-daliadau, mae cymorth ar gael. Os hoffet ti siarad gyda rhywun yn gyfrinachol ac yn ddienw, siarada â Meic am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth. Siarada gyda ni o 8yb i hanner nos bob dydd. Am fwy o wybodaeth am wasanaethau PNTW, edrycha ar yr adnoddau ar HelpwrArian a Cyngor ar Bopeth.