Wyt Ti’n Deall Dy Hawliau?
Oeddet ti’n gwybod bod gan bawb hawliau a bod gwledydd dros y byd, gan gynnwys Cymru, wedi’u hymrwymo i sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu cyflawni? I nodi Diwrnod Hawliau Dynol ar 10fed Rhagfyr, rydym am edrych ar beth mae hyn yn ei olygu i ti.
This article is also available in English – click here
Beth yw hawliau dynol?
Mae’r rhain yn gyfres o hawliau sydd gan bob person. Mae gen ti’r rhain beth bynnag dy hil, rhyw/rhywedd (gender), cenedligrwydd, lliw croen, crefydd, rhywioldeb, anabledd neu iaith. Mae 30 hawl a rhyddid (gelwir yn erthyglau) yn y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (DCHD). Cytunodd y gwledydd sydd yn rhan o’r Cenhedloedd Unedig iddynt ar 10fed Rhagfyr 1948. Yn ymrwymo eu hunain i sicrhau bod pob person yn eu cael.
Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- hawl i fywyd
- rhyddid o boenydio (torture)
- rhyddid o gaethwasiaeth (slavery)
- hawl i addysg
- rhyddid i farn, cred a chrefydd
- hawl i wrandawiad teg (fair trial)
- hawl i gymryd rhan mewn etholiadau rhydd
I weld rhestr lawn, clicia yma.
Ydw i’n cael y rhain fel plentyn neu berson ifanc?
Mae’r DCHD ar gyfer pob oedran, ond fel plentyn neu berson ifanc, mae gen ti gyfres arbennig o dy hun hefyd, gelwir yn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, neu’r CCUHP, sydd yn benodol i ti.
Mae yna 54 o erthyglau (cyfres o hawliau) yn y CCUHP. Nid ydym am restru’r cwbl yma, ond maent yn cynnwys yr hawl i:
- dyfu i fod yn iach
- ddweud beth rwyt ti’n meddwl dylai ddigwydd ac i bobl wrando arnat ti
- wybodaeth
- beidio cael dy anafu
- ddysgu a mynd i’r ysgol
- ymlacio a chwarae
- help arbennig os wyt ti wedi cael dy gam-drin
I weld rhestr lawn, cer draw i wefan Comisiynydd Plant Cymru. Mae’r Comisiynydd Plant yn gweithio’n galed i sicrhau bod pobl yn deall pwysigrwydd hawliau plant. Mae’r comisiynydd yn gwrando arnat ti ac yn dylanwadu’r llywodraeth a sefydliadau i sicrhau eu bod nhw’n dy gofio di wrth wneud penderfyniadau.
Beth ydy Diwrnod Hawliau Dynol?
Mae Diwrnod Hawliau Dynol yn atgoffa pawb i barchu hawliau dynol ac urddas pobl. Ond, os yw gwledydd dros y byd wedi cytuno iddynt, ac wedi creu cyfreithiau i sicrhau hynny, yna pam bod angen diwrnod arbennig?
Er bod gwledydd wedi’u hymrwymo i’r hawliau yma, mae yna esiamplau o hyd o bobl ddim yn derbyn eu hawliau, ac mae anghydraddoldeb yn parhau i fodoli. Er esiampl, mewn rhai gwledydd mae plant ifanc yn cael eu gorfodi i mewn i waith llafur caled, a ddim yn derbyn addysg. Mae’r pethau yma yn mynd yn groes i’r CCUHP; Erthygl 28 – yr hawl i addysg; ac Erthygl 32 – llafur plant, yr hawl i amddiffyniad rhag ecsploetiaeth economaidd ac amgylchedd gwaith peryglus.
Mae ymrwymiad cryf gan lywodraeth Cymru a’r DU i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cyrraedd. Ond, mae plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu gwahaniaethu neu anghydraddoldebau weithiau oherwydd hil, crefydd, rhyw/rhywioldeb, anabledd, ayb. Mae hyn yn groes i Erthygl 2 – ni ddylid gwahaniaethu.
Angen help?
Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc Cymru, a rhan o’n gwaith ydy sicrhau dy hawliau. Mae’r CCUHP yn bwysig iawn i ni yma yn Meic. Sefydlwyd y llinell gymorth yn 2010 i sicrhau bod plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru yn cael mynediad i wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth. Gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein gan ddefnyddio’r manylion isod.
Mae gan UNICEF app hwyl sydd yn dysgu am hawliau. Mae posib lawr lwytho Right Runner am ddim ar Google Play neu’r App Store.