Dweud dy Ddweud: Y Flwyddyn Ysgol Yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar newidiadau posib i strwythur y flwyddyn ysgol yng Nghymru. Maent yn awyddus i glywed barn pobl ifanc.
This article is also available in English – click here
Ychydig iawn sydd wedi newid i strwythur y flwyddyn ysgol dros y ganrif ddiwethaf, er bod llawer o bethau eraill yn ein bywydau wedi newid lot. Mae Llywodraeth Cymru yn meddwl ei bod yn hen bryd i ni gael sgwrs am y flwyddyn ysgol i benderfynu os yw’n gweithio neu ddim i bobl ifanc Cymru.
Sicrha dy fod di’n cael dy glywed
Wyt ti’n credu bod strwythur y flwyddyn ysgol yn dy helpu di i ddysgu a pherfformio i dy allu gorau?
Beth am y gwyliau? Wyt ti’n meddwl bod y rhain yn effeithiol nawr gyda gwyliau haf hir a gwyliau byrrach yn y gaeaf? Neu wyt ti’n meddwl byddai’n well cael gwyliau mwy cyfartal dros y flwyddyn?
Os wyt ti rhwng 7 a 18 oed ac mae gen ti farn am hyn, yna sicrha bod dy lais di yn cael ei glywed wrth lenwi arolwg byr ar-lein. Gallet ti fod yn rhan o siapio dyfodol addysg yng Nghymru.
Cysyllta â Meic
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.