Cael Llais ar Faterion Newid Hinsawdd yn COP26
Wyt ti eisiau i’r bobl sydd â phŵer glywed dy farn di ar newid hinsawdd? Mae Cimate Cymru yn casglu lleisiau pobl ledled Cymru i ddanfon i COP26 a sicrhau eu bod yn clywed yr hyn sydd gen ti i ddweud.
This article is also available in English – to read this content in English – click here
Beth yw newid hinsawdd?
Newid hinsawdd, neu gynhesu byd-eang, ydy pan fydd tymheredd a phatrymau tywydd nodweddiadol yn newid ar ein planed. Golygai hyn bod y byd yn cynhesu. Mae pethau fel llosgi tanwydd ffosiledig, ffermio a datgoedwigo yn newid ein hinsawdd ar gyflymder llawer mwy sydyn nag y gall pobl ac anifeiliaid ymdopi ag ef. Y canlyniad yw pethau fel patrymau tywydd newidiol a lefelau môr yn codi. Ond, wrth weithredu nawr, gallem ddatrys hyn.
I ddysgu mwy am newid hinsawdd mae yna wybodaeth a fideos grêt ar wefan Newsround.
Beth yw COP26?
COP26 yw’r 26ain cyfarfod o gynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn 2021. Ers dros 26 mlynedd mae gwledydd ar draws y byd wedi dod at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd y Pleidiau (COP) i drafod materion newid hinsawdd. Mae COP eleni yn cael ei gynnal yn y DU, yng Nglasgow rhwng 31 Hydref a 12 Tachwedd.
Mae COP eleni yn un pwysig gan y bydd gwledydd gwahanol yn datgelu’r hyn byddant yn ei wneud i atal newid hinsawdd. Yn COP21 ym Mharis roedd 196 o wledydd wedi arwyddo’r Cytundeb Paris. Roeddent yn cytuno i weithio â’i gilydd i ostwng cynhesu’r byd-eang yn is nag 2 gradd Celsius (gyda tharged o 1.5 gradd), wrth leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Eleni byddant yn rhannu’r cynlluniau i ostwng yr allyriadau yma.
Os oes gen ti ddiddordeb yn dysgu mwy am COP26 yna mae llawer o wybodaeth yn y canllaw Esbonio COP26.
Beth yw Climate Cymru?
Nod Climate Cymru ydy i gasglu lleisiau pobl yng Nghymru i fynd â nhw i COP26.
“Rydym eisiau i Gymru fod â phresenoldeb yn COP26. Mae yna waith anhygoel yn digwydd yng Nghymru eisoes ac rydym eisiau dangos bod pobl Cymru wir yn poeni am faterion newid hinsawdd ac rydym eisiau iddynt gael llais,” meddai Susie Ventris-Field, Cydlynydd Ymgyrch Climate Cymru.
Yn ogystal â danfon eich lleisiau i COP26 bydd Climate Cymru yn eu rhannu gyda Llywodraeth y DU a Chymru i sicrhau eu bod yn clywed yr hyn sydd gen ti i ddweud ac yn gweithredu wrth ddylanwadu ar bolisi. Rho wybod pa weithredu hoffet ti ei weld a pam bod hyn yn bwysig i ti.
Mae posib dewis o restr o negeseuon wedi eu hysgrifennu yn barod, neu gallet ti ychwanegu un dy hun wrth gofrestru yma. Gallet ti ychwanegu dy lais fel ysgol neu grŵp cymunedol os bydda’n well gen ti.
Mae gan Climate Cymru gyfleoedd i bobl ifanc ddod yn llysgenhadon ifanc hefyd. Darganfod mwy.
Angen siarad?
Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth o gwbl, gallet ti gysylltu â Meic i geisio datrys pethau. Gall ein cynghorwyr cyfeillgar helpu. Galwa (080880 2346) tecstia (84001) neu sgwrsia gyda ni ar-lein.