x
Cuddio'r dudalen

Hawl i Eiriolaeth! Beth yw Hynny?

Wyt ti erioed wedi clywed y gair eiriolaeth? Ti ddim yn clywed y gair yn aml iawn mewn bywyd o ddydd i ddydd, ond bwysig i bob plentyn a pherson ifanc. Mae ‘eiriolaeth’ yn rhywbeth sydd yno i  helpu pan fyddi di angen.

To read this article in English, click here

Felly, i ddeall beth yw eiriolaeth yn iawn, mae angen i ti ddeall dy hawliau. Oeddet ti’n gwybod bod gen ti hawliau fel plentyn neu berson ifanc yng Nghymru? Wel, mae gen ti! I ddweud y gwir, mae gen ti lot ohonynt.

Llun o fideo Eiriolaeth TGP - Wyt ti erioed wedi teimlo nad oes neb yn gwrando arnat?

Defnyddia dy hawliau

Mae Cymru wedi cofrestru i rywbeth sydd yn cael ei alw’n Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (neu’r CCUHP). Mae bron pob gwlad yn y byd wedi cofrestru i’r CCUHP. 54 o erthyglau sydd yn gosod dy hawliau a sut dylai’r llywodraeth weithio i sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu cyrraedd. Mae cofrestru i’r CCUHP yn golygu bod eich llywodraeth wedi cytuno bod eich gwlad yn gymwys yn gyfreithiol i sicrhau bod gan bob plentyn yr hawliau yma beth bynnag eu cefndir neu amgylchiadau.

Fel rhan o’r CCUHP mae gen ti’r hawl i gael gwybodaeth. Mae gen ti hawl i ddweud beth rwyt ti’n meddwl dylai ddigwydd hefyd, ac i bobl wrando arnat ti. I ddarganfod mwy am dy holl hawliau yna edrycha ar dudalen CCUHP ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.

Llun o fideo Eiriolaeth TGP - Dwi wedi dod o hyd i fy llais gyda chymorth eiriolwr

Ond beth yn union ydy eiriolaeth?

I’w roi’n syml, mae eiriolaeth yn sicrhau bod gen ti lais a bod pobl yn clywed yr hyn sydd gen ti i ddweud. Mae’n ffordd o sicrhau dy fod di’n deall dy hawliau a dy fod di’n rhan o unrhyw benderfyniad sydd yn cael ei wneud amdanat ti. Mae’r bobl sydd yn helpu gyda hyn yn cael eu galw’n eiriolwyr.

Gwylia’r fideo ‘Oes unrhyw un yn gwrando’ isod. Cafodd ei ysgrifennu a’i recordio gan bobl ifanc sydd â phrofiad o wasanaethau eiriolaeth. Mae’n egluro beth yw eiriolaeth a pwy i gysylltu â nhw.

Fel y gweli di yn y fideo uchod, mae yna dri gwasanaeth gwahanol yng Nghymru sydd yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Os oes gen ti weithiwr cymdeithasol yna gallet ti gysylltu â TGP Cymru neu NYAS Cymru.

Logos TGP a NYAS

Cysyllta â Meic

Os wyt ti’n ansicr pwy i gysylltu â nhw, neu os nad oes gen ti weithiwr cymdeithasol, yna mae posib cael eiriolwr drwy’r llinell gymorth Meic. Mae Meic yn gallu helpu drwy neges testun, sgwrs ar-lein neu ar y ffôn. Gallem helpu ti i siarad gyda’r bobl rwyt ti angen siarad â nhw. Os wyt ti’n dymuno, gallem siarad gyda phobl ar dy ran, gan ddefnyddio dy eiriau di, i sicrhau bod dy safbwynt yn cael ei glywed. Mae Meic yn llinell gymorth i holl blant a phobl ifanc Cymru hyd at 25 oed. Mae eiriolaeth yn un o’r gwasanaethau rydym yn ei gynnig, gallem hefyd gynnig cyngor neu gymorth gydag unrhyw beth sy’n achosi i ti boeni neu sy’n dy ddrysu.

I ddarganfod mwy am eiriolaeth, a pwy yw’r cyswllt yn dy ardal di, edrycha ar wefan whatisadvocacy.cymru.