x
Cuddio'r dudalen

Defnyddia Dy Lais: Cofrestru i Bleidleisio

Mae pleidleisio yn yr etholiadau awdurdod lleol yn ffordd bwysig a phwerus i gael pobl i wrando arnat ti ar bethau sydd yn cael effaith arnat ti a dy gymuned. Os wyt ti dros 16 oed ar 5ed Mai 2022, rwyt ti’n cael pleidleisio yn yr etholiadau yma.

This article is also available in English – click here

Beth ydy etholiadau lleol?

Mae’r etholiadau lleol nesaf yn cael eu cynnal ar Fai 5ed 2022. Y tro olaf i’r etholiadau yma gael eu cynnal oedd yn 2017.

Mae’r etholiadau lleol yn gyfle i ti bleidleisio am dy gynghorwyr lleol. Dyma’r bobl fydd yn cynrychioli ti ac yn gwneud penderfyniadau ar ran dy gymuned am y pedair blynedd nesaf.

Bydd cynghorwyr newydd yn cael eu dewis i bob un o’r 22 awdurdod lleol ar draws Cymru. Mae’r awdurdod lleol hefyd yn cael ei adnabod fel dy lywodraeth neu gyngor lleol. Gallet ti ddarganfod pa gyngor sydd yn cynrychioli dy ardal leol yma.

Mae pob awdurdod lleol yn cael ei rhannu yn ardaloedd llai sydd yn cael eu galw’n ward. Byddi di’n pleidleisio am y cynghorydd hoffet ti weld yn cynrychioli dy ward di yn yr etholiad lleol.

Cartŵn merch gyda megaffôn a phapur gyda tic arno ar gyfer blog cofrestru i bleidleisio

Pam dylwn i bleidleisio yn yr etholiad lleol?

Mae cynghorwyr lleol yn gwneud penderfyniadau am y pethau sydd yn cael effaith arnom yn ddyddiol, fel pa mor aml mae’r sbwriel yn cael ei gasglu ac os oes angen gwelliannau yn y parc lleol. Mae’r cyngor lleol hefyd yn gyfrifol am:

  • Gwasanaethau addysg
  • Cyfleusterau ieuenctid a hamdden
  • Penderfyniadau cynllunio, er esiampl, os yw dy gymydog eisiau adeiladau estyniad
  • Tai cymdeithasol
  • Rheoli parciau a gofodau cyhoeddus eraill
  • Gwasanaethau cymdeithasol fel gofal maethu, cymorth i bobl gydag anableddau, neu ofal i’r henoed
  • Ffyrdd a llwybrau cerdded lleol
  • Sbwriel ac ailgylchu
  • Llyfrgelloedd
  • Cefnogi busnesau lleol
  • Cofrestru pleidleiswyr a chynnal etholiadau

Wrth bleidleisio gallet ti helpu penderfynu ar bwy fydd yn cynrychioli ti a pa faterion mae dy gyngor lleol yn ei drafod. Gallet ti gysylltu â dy gynghorydd lleol i ofyn cwestiynau am yr hyn sydd yn digwydd yn dy ardal neu i rannu pryderon am rywbeth sydd yn digwydd yn gyfagos.

I ddarganfod mwy am dy bleidlais di yn yr etholiadau lleol, gwylia’r fideo byr yma gyda phobl ifanc gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Cofrestru i bleidleisio

Mae pawb sy’n byw yng Nghymru sydd yn 16 neu’n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol a’r Senedd. Os hoffet ti bleidleisio yn yr etholiadau lleol sydd i ddod, bydd angen cofrestru i bleidleisio. Heb gofrestru, ni fyddi di’n cael pleidlais.

Mae cofrestru i bleidleisio yn sydyn ac yn hawdd. Mae unrhyw un 14 neu hŷn yng Nghymru yn gallu gwneud ar-lein. Os wyt ti wedi cofrestru o’r blaen, nid oes angen gwneud eto oni bai dy fod di wedi newid cyfeiriad neu enw. Os yw’r rhain yn newid bydd angen diweddaru gan ddefnyddio’r gwasanaeth Cofrestru i Bleidleisio

Ddim yn siŵr os wyt ti wedi cofrestru i bleidleisio yn barod? Cysyllta â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol.

Ddim am fod o gwmpas ar ddiwrnod yr etholiad, neu ddim eisiau mynd i’r orsaf pleidleisio? Paid poeni! Mae posib cofrestru i bleidleisio trwy’r post neu trwy ddirprwy (rhywun arall yn pleidleisio ar dy ran). Llenwa ffurflen gais gan dy gyngor lleol. Y dyddiad cau i gofrestru am dy bleidlais ydy 11:59 ar ddydd Iau 14 Ebrill 2022.

pensel yn rhoi croes mewn blwch  ar gyfer blog cofrestru i bleidleisio

Pwy ddylwn i bleidleisio amdanynt?

Unwaith i ti gofrestru am dy bleidlais, bydd angen i ti feddwl am bwy i bleidleisio amdanynt. Cofia mai dy ddewis di yw hwn. Ni ddylai neb roi pwysau arnat ti i bleidleisio mewn un ffordd neu’r llall.

Yn y cyfnod cyn yr etholiadau, bydd llawer o ymgeiswyr yn ymgyrchu. Efallai byddi di’n gweld hysbysebion ar y teledu a chyfryngau cymdeithasol. Efallai bydd taflenni yn dod trwy’r blwch post yn annog ti i bleidleisio am rywun. Gall hyn helpu ti i ddeall mwy am yr ymgeiswyr lleol a’r hyn maen nhw’n gobeithio gwneud yn dy ardal. Ond, weithiau gall hyn fod yn unochrog, felly ni ddylid dibynnu ar yr hyn yn unig i wneud dy benderfyniad.

Y ffordd orau i ddewis y person rwyt ti’n credu dylai dy gynrychioli ydy wrth gymryd amser i ymchwilio’r ymgeiswyr yn iawn. Mae gwefannau fel yr un yma yn dangos pwy sydd yn sefyll yn dy ward leol.

Gwybodaeth bellach

Os wyt ti rhwng 14 a 18 oed, cer draw i weld y wybodaeth pleidleisio ddefnyddiol ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Darganfod mwy am bleidleisio yn yr etholiadau lleol gyda’r canllaw defnyddiol yma gan y BBC.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.