Dy Lais – Ysgol a’r Cyfnodau Clo
Gan ein bod bellach yn ôl mewn cyfnod clo gydag ysgolion wedi cau i’r mwyafrif o ddisgyblion, roeddem eisiau rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym am eich teimladau am Covid-19 a dysgu o adref.
To read this article in English, click here
Yn ôl yn fis Hydref 2020 roeddem yn awyddus i wybod sut roedd plant a phobl ifanc fel ti yn teimlo ar ôl setlo yn ôl yn yr ysgol yn dilyn y cyfnod clo cyntaf. Roedd pethau yn wahanol iawn bellach, ac roedd angen dod i’r arfer â threfn newydd yr ysgol. Roeddem yn awyddus i ddysgu am y da a’r drwg i sicrhau ein bod yn darparu’r cyngor a’r arweiniad sydd ei angen arnat ti.
Rhoi llais i chi
Roedd arolwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am wythnos ym mis Hydref. Cafodd ei lenwi gan 321 ohonoch gydag atebion gonest iawn. O’r atebion yma mae Meic wedi creu adroddiad ffansi ‘Dy Lais: Dychwelyd i’r Ysgol’. Rydym yn rhannu’r adroddiad gyda phobl broffesiynol eraill sydd yn gweithio gyda phobl ifanc. Gwnaed hyn i roi dealltwriaeth well iddynt am y ffordd rydych chi’n teimlo. Roeddem yn meddwl y byddet ti’n hoffi clywed sut mae plant a phobl ifanc eraill yng Nghymru yn teimlo hefyd. Clicia yma i fynd yn syth i’r adroddiad.
Os nad wyt ti’n awyddus iawn i ddarllen dogfen hir, yna rydym wedi creu fideo hefyd. Mae’n rhannu rhai o’r uchafbwyntiau o’r adroddiad, yn ogystal â rhai o’r sylwadau.
Profiadau gwahanol
Nid yw pawb yn mynd i rannu’r un farn pan ddaw at Covid-19 ac addysg. Bydd yn cael mwy o effaith ar rai pobl. Gall pethau fel sefyllfa deuluol, mynediad i ddigidol, iechyd meddwl ac ati gael effaith mawr ar dy brofiadau drwy’r cyfnod clo.
Bydd pethau’n teimlo’n haws i rai y tro hyn efallai. Rydych chi wedi bod drwyddi gynt ac ysgolion wedi paratoi yn well gyda gwersi byw. Efallai bydd pethau’n teimlo’n waeth oherwydd y cyfnod hir ers cychwyn y pandemig. Rwyt ti angen cyswllt wyneb i wyneb ac yn ofni’r syniad o orfod dysgu o adref eto.
Teimladau cymysg
Roedd yn glir o’r arolwg pa mor gymysg oedd teimladau plant a phobl ifanc am y cyfnod clo a’ch addysg. Roeddech yn teimlo’n hapus am fod yn ôl, gweld ffrindiau a chael gwersi wyneb i wyneb eto. Ond gellir teimlo’n bryderus hefyd, yn poeni am ddal Covid neu fod ar ei hôl hi gyda’r gwaith ysgol.
Gall fod yn ddryslyd iawn cael teimladau mor gymysg, gorfoledd un munud ac iselder y munud wedyn! Gall fod yn anodd iawn ymdopi â hyn. Mae’r wlad gyfan (rhan fwyaf o’r byd i ddweud y gwir) yn profi hyn nawr. Ni ddylid teimlo embaras os yw ymdopi yn anodd. Mae ein llinell gymorth yn derbyn mwy o gysylltiadau gan blant a phobl ifanc sydd ddim yn ymdopi oherwydd effaith Covid ac mae ein cynghorwyr yn gallu cynnig cymorth.
Gall siarad helpu
Mae siarad gyda rhywun am dy deimladau yn bwysig iawn. Gall teuluoedd a ffrindiau gynnig cefnogaeth – wyneb i wyneb neu ar y ffôn, neges testun neu alwad fideo. Ond, os nad wyt ti’n gallu siarad â rhywun, neu’n teimlo nad wyt ti’n derbyn y gefnogaeth neu’r cyngor rwyt ti ei angen, yna mae Meic yno i ti bob dydd, rhwng 8yb a hanner nos. Nid wyt ti ar ben dy hun.
Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol, felly nid oes rhaid rhoi enw ac nid ydym yn gweld o ble rwyt ti’n galw. Ni fyddem yn ailadrodd yr hyn rwyt ti wedi’i rannu gydag unrhyw un, heblaw am mewn sefyllfaoedd penodol, os ydym yn poeni bod dy fywyd di mewn perygl neu fod rhywun yn achosi niwed i ti er esiampl. Cer draw i weld yr holl amgylchiadau yn ein herthygl Beth yw Cyfrinachedd? Byddem yn dweud wrthyt ti os oes rhaid i ni dorri cyfrinachedd ac yn siarad drwy’r hyn rydym yn ei wneud ac ateb unrhyw gwestiynau Ni fyddem yn gwneud hyn y tu ôl i dy gefn.
Cysyllta
Gellir cysylltu â Meic yn rhad ac am ddim, ac nid oes rhaid i ti siarad chwaith os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud. Mae posib gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein os bydda’n well gen ti beidio siarad gyda rhywun ar y ffôn.
Mae cynghorwyr Meic wedi cael eu hyfforddi i helpu. Byddant yn siarad dros bethau gyda thi, yn gweithio gyda thi i ddarganfod ffyrdd i ymdopi, a darganfod adnoddau a gwasanaethau gall helpu os wyt ti angen.
Am ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y Coronafeirws clicia yma.