x
Cuddio'r dudalen

Pleidleisio a Cyfyngiadau Covid – Person, Post a Dirprwy

Efallai mai dyma’r tro cyntaf i ti bleidleisio, a gall y ffordd mae pethau’n gweithio fod yn ddiarth i ti. Efallai dy fod di wedi pleidleisio o’r blaen ond ddim yn siŵr os bydd pethau’n wahanol oherwydd Covid. Dyma ein canllaw pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd ar y 6ed o Fai 2021 a pa reolau bydd rhaid dilyn.

To read this article in English, click here

Mae yna dair ffordd y gallet ti bleidleisio.

1. Pleidleisio dy hun yn yr orsaf bleidleisio

Os wyt ti wedi cofrestru i bleidleisio bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei yrru yn y post. Nid wyt ti’n cael dewis pa orsaf bleidleisio i fynd iddi, mae’n rhaid i ti fynd i’r un ar dy gerdyn pleidleisio. Cer â’r cerdyn gyda thi a’i roi i’r person wrth y ddesg. Byddant yn rhoi papur pleidlais i ti (neu bapurau – os wyt ti’n 18+ byddi di’n pleidleisio yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd). Cer â’r papur yma draw i un o’r bythau preifat a nodi dy ddewisiadau gyda chroes.

Bydd cyfyngiadau Covid ar waith yn yr orsaf bleidleisio yn ddibynnol ar y lefel rhybudd cyfredol. Mae’n debygol o fod cyfyngiadau ar y nifer o bobl fydd yn cael bod yn yr orsaf bleidleisio ar unwaith. Bydd rhaid gwisgo mwgwd, cadw pellter 2 fedr a dilyn system un ffordd. Mae posib bydd sgriniau diogelwch clir yno hefyd i gadw pawb yn ddiogel.*

Anogir i bobl fynd â phensel neu feiro eu hunain eleni i farcio’r papur bleidlais, yn hytrach nag defnyddio’r bensel darparir fel arfer. Paid â phoeni os wyt ti’n anghofio, bydd pensiliau ar gael os oes angen, a’r rhain yn cael eu diheintio.

Fe ddylai’r mesuriadau Covid wneud i bawb deimlo’n ddiogel yn y gorsafoedd pleidleisio, ond os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus yna mae gen ti opsiynau eraill.

Blwch postio ar gyfer erthygl pleidleisio

2. Pleidleisio trwy’r post

Mae pleidlais bost yn opsiwn sydd ar gae ymhob etholiad. Efallai nad yw’n hawdd i ti adael y tŷ, neu os efallai nad yw’n bosib mynd i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod gan dy fod di ar wyliau, yn y Brifysgol ayb. Ond gall unrhyw un wneud cais am bleidlais bost. Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus yn mynd i orsaf pleidleisio yna mae hwn yn opsiwn da i ti.

Ond mae’n rhaid gwneud cais am bleidlais bost (mae hwn yn gam gwahanol i gofrestru am bleidlais – sydd angen cael ei gwblhau erbyn 19 Ebrill). Eleni bydd rhaid i’r cais eu cyrraedd erbyn 5yh ar 20fed Ebrill. Ffurflen gais ar gael yma.

Bachgen yn gorwedd ar soffa yn sâl ar gyfer erthygl pleidleisio

3. Pleidlais Trwy Ddirprwy

Os wyt ti wedi bod yn ‘gwarchod’ oherwydd Covid yna efallai nad wyt ti’n hapus gyda’r syniad o fynd yn bersonol i bleidleisio, neu efallai nad yw’n bosib i ti fynd am reswm arall. Fe gei di ddewis rhywun gallet ti ymddiried ynddynt i bleidleisio ar dy ran, gelwir yn pleidlais trwy ddirprwy. Mae’n rhaid gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy erbyn 27 Ebrill. Bydd rhaid i ti ddweud wrthynt pam nad wyt ti’n gallu mynd i’r orsaf bleidleisio dy hun.

Bydd yna bleidlais frys drwy ddirprwy eleni hefyd, felly os oes rhaid i ti hunanynysu oherwydd Covid, yna mae posib gwneud cais hyd at 5yh ar ddiwrnod y bleidlais. Os oeddet ti wedi gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy eisoes, a bod y person dewiswyd yn gorfod hunanynysu, mae posib newid hyn hefyd.

Gwybodaeth bellach

Mae llawer o wybodaeth a fideos am yr etholiad ar gael ar dudalennau Pleidlais 16 a Defnyddia Dy Lais Senedd Cymru.

Mae gennym erthygl gyda gwybodaeth am fanylion etholiadau’r Senedd, clicia yma, ac erthygl hefyd gyda manylion cofrestru i bleidleisio.

* Efallai bydd mwy o newidiadau i ddod i drefniadau Diwrnod Etholiad oherwydd Covid. Byddem yn diweddaru’r erthygl yma ond mae’r holl wybodaeth cyfoes ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.