x
Cuddio'r dudalen

Sut i Ymdopi Gyda Bwlio

Mae bwlio yn brofiad hunllefus. Er ei fod yn ymddygiad creulon ac anŵraidd, y gwir trist ydy bod rhai pobl yn parhau i fwlio fel oedolion. Dyna pam, yn ogystal â gweithredu i adrodd bwlio, mae’n bwysig dysgu sut i ymdopi fel nad yw ymddygiad bwlio yn gallu achosi cymaint o niwed i ti.

To read this article in English, click here

Isod rydym yn rhannu’r cyngor cyffredin rhoddir i’r rhai sy’n cysylltu â Meic am fater bwlio. Gobeithio bydd hyn yn fuddiol i ti:

Deall nad yw’n fai arnat ti, ac nid wyt ti ar ben dy hun. Mae bwlio yn ymddygiad sy’n cael ei ddysgu ac mae rhai pobl yn defnyddio hyn i guddio neu i ymdopi â phroblemau eu hunain. Gall rhesymau am fwlio gynnwys anhapusrwydd; cael eu bwlio eu hunain; anniogelwch a chenfigen.

Rhanna beth sy’n digwydd i ti gyda ffrind(iau) agos gallet ti ymddiried ynddynt. Rhai fydd yn hapus i gerdded/bod gyda thi pan fydd y bwli o gwmpas. Mae pobl yn llai tebygol o fwlio pan fydd ffrindiau eraill o gwmpas. Gallet ti hefyd siarad gydag aelod staff yn dy ysgol/coleg, fel cynghorydd neu swyddog lles.

Gwarchod dy deimladau o alw enwau ac ymddygiad niweidiol. Os yw rhywun yn dweud rhywbeth niweidiol i ti, dychmyga dy hun yn dal y geiriau yma ac yn eu taflu i mewn i’r bin! Dilyna hyn gyda meddwl neu farn bositif ohonot ti dy hun, fel “dwi’n hoffi fy hun”, neu “Dwi’n glyfar”; byddi di’n cael dy synnu pa mor bwerus gall hyn fod.

antibullying_happinesswelsh_tiny

Tacteg hunanamddiffyniad pwerus ydy i gerdded i ffwrdd o’r sefyllfa yn hyderus, gan ei fod yn cadw ti’n ddiogel ond hefyd yn gyrru neges gref i’r person sydd yn cyflawni’r bwlio nad wyt ti’n barod i gael dy dynnu i mewn. Gallet ti ddweud rhywbeth niwtral fel, “Welai di wedyn” wrth i ti adael.

Os wyt ti’n teimlo’n ddigon diogel, siarada gyda’r person sydd yn gwneud y bwlio: efallai bydd hyn yn helpu datrys y sefyllfa. Efallai byddet ti’n darganfod nad ydynt yn ymwybodol o sut mae eu hymddygiad yn effeithio arnat ti. Os yw’r bwlio yn fwy difrifol ac yn cynnwys (neu gallai gynnwys) trais corfforol, siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt fydd yn gallu helpu rhoi diwedd ar y bwlio.

antibullying_abusivewelsh_tiny

Rho dro ar hobïau newydd neu wneud mwy o’r pethau rwyt ti’n ei fwynhau. Gall gymryd rhan mewn gweithgareddau positif weithio gwyrthiau gyda dy hyder a dy les, yn ogystal â rhoi cyfle i ti wneud ffrindiau newydd sydd yn rhannu dy ddiddordebau. Mae teimlo’n dda amdanat ti dy hun a chael rhwydwaith o ffrindiau da yn gallu helpu lleihau’r effaith mae ymddygiad bwlio yn ei gael arnat ti.

Mae ymarfer corff yn gwneud pobl yn hapusach, lleihau straen a chadw ti’n iachach. Os wyt ti’n poeni neu’n teimlo straen am fwlio, ceisia wneud ychydig o weithgareddau corfforol, fel mynd am dro hir, nofio, a chwarae gemau tîm.

antibullying_constantwelsh_tiny

Darganfod os oes cynllun cyfoed/cyfryngu yn dy ysgol/goleg gan fod cyfryngu yn gallu helpu gyda materion bwlio, gwrthdaro a pherthynas yn torri lawr.

Siarada gyda Meic neu wasanaeth tebyg. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol, am ddim i helpu ti i wneud newid.