x
Cuddio'r dudalen

Cadw’n Ddiogel Rhag Troseddau Cyllell

Efallai dy fod di wedi clywed am bobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael eu trywanu (stabbed) ar y newyddion yn ddiweddar. Efallai dy fod di’n poeni wrth glywed am drais a throsedd cyllell fel hyn yng Nghymru, a phobl ifanc yng nghanol y cwbl. Mae Meic yma i roi ffeithiau a cheisio cynnig cyngor fel nad wyt ti yn cael i mewn i sefyllfa beryglus.

To read this content in English – click here

Nid bwriad yr erthygl hon yw codi ofn arnat ti. Mae Heddlu’r Met yn dweud nad yw 99% o bobl ifanc y DU yn cario cyllell. Wrth edrych ar y boblogaeth gyfan mae troseddau yng Nghymru sydd yn ymwneud â chyllyll yn eithaf isel, 49 am bob 100,000 o’r boblogaeth yn 2020 (Gorffennaf 19 – Mehefin 20 – Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol). Mae’r rhain yn niferoedd bach. Mae’r tebygrwydd y byddi di’n wynebu rhywbeth fel hyn yn isel, ond dyma gamau gallet ti eu cymryd i leihau’r perygl hyd yn oed fwy.

Ydy cario cyllell yn amddiffyn neu’n gosod ti mewn perygl?

Mae rhai pobl ifanc yn dweud eu bod yn cario cyllell i amddiffyn eu hunain. Mewn gwirionedd, mae’r ffaith eu bod yn cario cyllell yn eu rhoi mewn mwy o berygl. Mae tystiolaeth yn dangos dy fod di’n fwy tebygol o gael dy dargedu a dy ymosod os wyt ti’n cario cyllell. Os wyt ti’n dod a chyllell i frwydr yna gall pethau droi’n ddifrifol iawn yn sydyn iawn. Dan amgylchiadau arferol efallai bydda ymladd yn golygu rhywun yn cael ei ddyrnu ac yna’n cerdded i ffwrdd. Gyda chyllell gall hyn droi’n anafiad difrifol neu farwolaeth.

Nid wy ti’n fwy diogel os mai ti yw’r unig un sydd yn cario cyllell. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn aml yn cael eu hanafu neu ladd gan gyllyll eu hunain gan fod posib troi’r rhain yn erbyn y person. Os nad oes cyllell mewn brwydr yna nid yw’n bosib i hyn ddigwydd. Felly ydy cario cyllell yn dy amddiffyn go iawn? Neu a yw’n gosod ti mewn mwy o berygl?

Helmed heddlu traddodiadol ar gyfer erthygl trosedd cyllell

Beth yw’r gyfraith?

Mae’r gyfraith yn llym iawn ar gyllyll – mae’n anghyfreithlon cario unrhyw offer siarp gellir ei ddefnyddio fel arf. Os yw’r heddlu neu athro yn drwgdybio dy fod di’n cario cyllell yna mae ganddynt hawl, yn ôl y gyfraith, i stopio a chwilio.

Os wyt ti’n cael dy ddal gyda chyllell byddi di mewn trafferthion difrifol iawn. Hyd yn oed os nad wyt ti wedi defnyddio’r gyllell nac wedi ei ddangos i neb erioed. Mae’r ffaith dy fod di’n ei gario yn ddigon. Os wyt ti eisiau dysgu mwy am y gyfraith yna cer i wefan gov.uk.

Mae cario cyllell yn gallu golygu cofnod troseddau neu sbel yn y carchar. Gall un penderfyniad sydyn i “amddiffyn dy hun” ddifetha dy fywyd am byth. Mae’n gallu cael effaith ar ragolygon gyrfa ac atal ti rhag teithio i rai gwledydd.

Mae posib cael i drafferthion mawr os wyt ti’n yno pan fydd rhywun arall yn ymosod ar rywun gyda chyllell. Os wyt ti’n ymwybodol bod dy ffrind yn cario cyllell ac yn meddwl ei fod yn debygol o droseddu yna gallet ti gael dy gyhuddo o dan gyfraith ‘menter ar y cyd’. Os yw dy ffrind yn lladd rhywun yna gallet ti gael dy gyhuddo o lofruddiaeth hefyd am fod yno.

Beth ddylwn i’w wneud os ydw i’n meddwl bod rhywun yn cario cyllell?

Y peth pwysicaf ydy cadw dy hun yn ddiogel. Os wyt ti’n cael dy fygwth gyda thrais yna’r peth gorau i wneud ydy gadael. Paid cael yng nghanol y peth. Unwaith rwyt ti’n ddiogel dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt. Gall hyn fod yn aelod o’r teulu, athro, ffrind, yr heddlu neu gallet ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic. Gallem helpu arwain ti tuag at y camau gorau i’w cymryd.

I adrodd trosedd cyllell, neu unrhyw drosedd arall, cysyllta â’r heddlu ar 101. Os oes trosedd difrifol yn digwydd, neu newydd ddigwydd, neu os yw rhywun mewn perygl ar y pryd yna galwa’r rhif argyfwng 999. Gallet ti hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111 neu adrodd trosedd yn ddienw ar wefan Fearless. Fearless yw brand Crimestoppers i rai 11-16 oed.

Nid pwrpas yr erthygl hon yw rhoi darlith i ti. Rydym eisiau i ti ac eraill gadw’n ddiogel. Rydym yn deall bod pobl yn gallu cael i mewn i sefyllfaoedd weithiau sydd yn ymddangos fel ei fod yn amhosib dianc ohono, fel bod yn aelod o gang. Hyd yn oed os wyt ti’n credu nad allet ti wneud dim, mae posib datrys pethau. Siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt. Mae gan Childline wybodaeth ar y wefan yn rhoi cyngor am beth i’w wneud os wyt ti’n cael dy ddychrynu neu fod rhywun yn gofyn i ti ymuno â gang.