x
Cuddio'r dudalen

Deall Diogelwch Ar-lein: Cyngor i Gadw’n Ddiogel

To read this content in English – click here

Nid blog yw hwn i’th annog i beidio cael cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a sgwrsio ar-lein. Rydym yma i helpu gyda’r camau i gadw’n ddiogel a gwneud penderfyniadau da am yr hyn rwyt ti’n rhannu ar-lein.

Meddylia am breifatrwydd

Dy osodiadau preifatrwydd yw’r arf fwyaf pwysig sydd gen ti i gadw dy hun yn ddiogel ar-lein. Hawdd yw credu na fydd dim drwg yn digwydd os nad wyt ti wedi cael dy dargedu o’r blaen. Llawer gwell fydda amddiffyn dy hun rhag i rywbeth drwg ddigwydd yn hytrach nag ymdopi â’r canlyniadau wedyn.

Cadwa dy wybodaeth yn breifat – gosod dy osodiadau preifatrwydd fel mai dim ond ffrindiau sydd yn gallu gweld gwybodaeth amdanat. Paid rhannu manylion fel ble rwyt ti’n byw neu enw ysgol. Sicrha nad wyt ti’n rhannu cyfrineiriau gydag eraill – nid oes angen i ti byth rannu’r rhain gyda ffrindiau.

Mae’r SWGfL wedi creu cyfres o restrau gwirio ar gyfer llwyfannau gwahanol sydd yn dy arwain trwy’r gosodiadau proffil ar Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, Roblox a Tik Tok.

Tri person ar ffôn gyda emojis yn dod allan o'r sgrin i ddangos 'likes' ayb. Ar gyfer erthygl diogelwch ar-lein

Nid oes rhaid i ti rannu popeth

Ystyried yr hyn yr wyt ti’n ei rannu. Fydda gen ti gywilydd petai dy riant/nain neu daid/athro yn ei weld? Fyddet ti’n dweud yr un pethau o flaen rhywun mewn bywyd go iawn? Os mai na yw’r ateb, yna mae’n debyg y byddai’n well i ti beidio rhannu. Mae’r pethau rwyt ti’n ei wneud a’i ddweud ar-lein yn gallu cael oblygiadau mewn bywyd go iawn oddi ar y rhyngrwyd.

Meddylia am enw da. Efallai nad yw’n bwysig i ti ar hyn o bryd, ond gall unrhyw beth yr wyt ti’n ei bostio aros ar-lein am byth. Gall pobl golli rheolaeth o’r hyn maent yn ei bostio yn sydyn iawn pan fydd pobl yn dechrau rhannu. Dychmyga’r sefyllfa mewn 5 neu 10 mlynedd. Fyddet ti’n hapus i gyflogwr y dyfodol weld rhai o’r pethau rwyt ti wedi postio?

Pam bod angen i bobl wybod ble rwyt ti drwy’r adeg? Y peth callaf a fwyaf diogel yw diffodd lleoliadau ar y ffôn ac apiau fel nad yw pobl yn gallu gweld ble rwyt ti drwy’r adeg os oes ganddynt fwriad drwg.

Cadw pethau ‘preifat’ yn breifat!

Os yw rhywun yn gofyn i ti rannu lluniau neu sylwadau anaddas yn breifat, meddylia sut y byddet ti’n teimlo os bydda’r rhain yn cael eu rhannu yn gyhoeddus. Unwaith i ti yrru rwyt ti wedi colli rheolaeth o’r ddelwedd yna. Efallai dy fod di’n ymddiried 100% yn y person yma nawr, ond beth fydda’n digwydd os ydych chi’n ffraeo? Mae’n bwysig iawn i ti ddeall hefyd ei bod yn anghyfreithlon rhannu delweddau rhywiol o rywun dan 16 oed, bod hynny’n llun ohonot ti dy hun, neu o rywun arall. Gallet ti a’r person sydd yn derbyn y llun gael i drafferthion gyda’r heddlu. Hyd yn oed os yw’r person sydd yn gofyn am lun yn rhywun rwyt ti’n hoff iawn ohonynt, bydda’n gryf a dweud “NA”. Os ydynt yn hoffi ti go iawn yna byddant yn parchu’r dewis yma.

Dewis dy ffrindiau yn ofalus

Ceisia ychwanegu ffrindiau rwyt ti’n adnabod yn dy fywyd go iawn yn unig, paid dechrau ychwanegu pobl am eu bod yn ffrind i ffrind. Nid wyt ti’n gwybod pwy ydyn nhw nac sut berson ydyn nhw go iawn. Dychmyga bod y ferch 14 oed yna rwyt ti’n siarad â nhw yn ddyn 50 oed mewn gwirionedd. Wrth ychwanegu pobl rwyt ti’n adnabod yn unig rwyt ti’n amddiffyn dy hun.

Mae hyn yn wir mewn gemau ar-lein hefyd, nid cyfryngau cymdeithasol yn unig. Paid rhannu manylion personol a blocia, adrodd a distewi pobl sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus. Mae gan Childline gyngor diogelwch am gemau ar-lein.

Meddylia am dy fywyd ar-lein fel dy fywyd oddi ar y we. Fyddet ti’n dechrau siarad â phobl ar hap ar y stryd a dweud pob math o fanylion preifat am dy hun?

Bachgen mewn crys melyn yn edrych mewn syndod. Ar gyfer erthygl diogelwch ar-lein

Gweld rhywbeth drwg?

Wyt ti wedi gweld rhywbeth nad wyt ti’n hoff ohono neu sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus? Oes rhywun yn dweud rhywbeth sydd yn gwneud i ti deimlo’n annifyr neu sy’n anaddas?  Wyt ti’n poeni am dy ddiogelwch, neu ddiogelwch rhywun arall?

Os wyt ti’n anhapus gydag unrhyw beth rwyt ti’n ei weld ar-lein yna dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt ac/neu rho wybod i CEOP. Os yw’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, os yw’n ymosodol, neu os wyt ti’n gwybod na ddylid ei rannu ar-lein, yna hysbysa CEOP. Mae gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ffwythiant achwyn hefyd, rhai yn cysylltu yn syth at CEOP. Dylid defnyddio hwn hefyd os wyt ti’n poeni am ddiogelwch rhywun arall ar-lein.

Cofia bod posib dileu rhywun fel ffrind, stopio dilyn neu flocio. Nid yw colli ffrind neu ddilynwr mor bwysig â dy ddiogelwch – nid niferoedd sydd yn bwysig bob tro. Mae’n llawer gwell cadw dy hun yn ddiogel.

‘Detox’ cyfryngau cymdeithasol

Ceisia gael ychydig o amser i ffwrdd o’r sgrin. Mae’n bosib bod y syniad o hyn yn hunllefus, ac mai’r ffôn ydy dy gysylltiad i bopeth a phawb yn dy fywyd, ond ceisia gael ychydig o amser i ffwrdd o’r dyfeisiau weithiau. Treulia amser gyda’r teulu. Bydda’n greadigol. Cer allan i’r awyr agored. Efallai bydd cael seibiant weithiau yn gwneud lles i ti.

Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus am rywbeth neu mewn perygl yna dweud wrth rywun yn syth. Os wyt ti’n teimlo fel nad allet ti siarad gydag aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid ayb. yna mae posib cysylltu â Meic. A chofia hysbysu CEOP am unrhyw beth sydd yn dy boeni am ddiogelwch ar-lein.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth yna gall Meic helpu, gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar unrhyw bwnc. Rydym yma i wrando a gweithio gyda thi i ddarganfod ffordd ymlaen. Mae Meic yn ddienw ac am ddim i’w gysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein o 8yb tan hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn.