x
Cuddio'r dudalen

Ydw i’n Hoyw? Sut i Ddod Allan

Mae bod yn berson ifanc yn gyfnod o ddarganfod pwy wyt ti. Y pethau ti’n hoffi, y pethau ti’n eu casáu, pwy yw dy ffrindiau, beth wyt ti am wneud â dy fywyd a deall dy rywioldeb.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

This article is also available in English  – to read this content in English  click here

Wyt ti’n ansicr am dy deimladau? Paid â phoeni. Mae Meic yma i helpu.

Ydw i’n hoyw neu’n lesbian?

Os wyt ti’n ffansïo rhywun o’r un rhyw yna gallai feddwl dy fod di’n hoyw, ond nid yw hynny’n bendant. Nid yw’n anarferol i deimlo atyniad at rywun o’r un rhyw weithiau. Mae bod yn hoyw yn golygu bod y teimladau yma yn fwy na chrysh fach.

Paid teimlo dan bwysau i benderfynu os wyt ti’n hoyw neu beidio. Rho amser a gofod i dy hun i feddwl am y ffordd rwyt ti’n teimlo. Wrth i ti fynd yn hŷn mae newidiadau mawr yn digwydd i’r corff a’r emosiynau. Mae hyn yn rhan o dyfu a dod i ddeall pwy wyt ti. Ond mae’r cyfnod yma’n gallu bod yn un dryslyd ac anodd weithiau. Ar ddiwedd y dydd, ti sydd yn adnabod dy hunan orau. Paid caniatáu i bobl ddweud wrthyt ti mai cyfnod neu fympwy yw hyn pan wyt ti’n gwybod yn well.

Mae darganfod dy fod di’n hoyw am y tro cyntaf yn gallu bod yn brofiad ofnus a dryslyd, ond mae bod yn wir i ti dy hun yn bwysig. Cychwynna wrth ddweud dy fod di’n hoyw. Un o’r ffyrdd gorau i deimlo’n gyfforddus ac yn hapus yng nghroen dy hun ydy chwilio am help i dderbyn pethau. Mae hwn yn gychwyn da.

Os hoffet ti siarad ymhellach am hyn yna gallet ti  gysylltu â llinell gymorth Meic (manylion isod) a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu helpu. Gallet ti hefyd ymweld â Stonewall Cymru.

Dwrn yn cynrychioli cryfder mewn lliwiau'r enfys ar gyfer erthygl dod allan

Dod allan

‘Dod allan’ ydy pan wyt ti’n dweud wrth dy deulu a ffrindiau dy fod di’n lesbiad, hoyw, deurywiol neu draws. Mae’r profiad yma yn gallu bod yn wahanol i bawb. Efallai bydd yn cymryd amser i ti deimlo’n ddigon cyfforddus a hyderus i siarad gyda phobl. Mae’r mwyafrif o bobl eisiau bod yn agored am y person ydynt, yn enwedig i’r bobl sydd agosaf atynt, ond nid oes rhaid i ti ddweud wrth bawb. Dy ddewis di yw hyn. Ti sydd yn penderfynu pwy i siarad â nhw a phryd i wneud hyn.

Meddylia pwy hoffet ti siarad â nhw gyntaf. Dylai hyn fod yn rhywun cefnogol, fel aelod teulu, ffrind neu athro rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt. Gall y person yma gynnig cefnogaeth i ti i ddweud wrth bobl eraill yn dy fywyd. Ond cofia, mae posib na fydd pethau’n aros yn ddistaw am hir. Meddylia’n ofalus pwy rwyt ti am ddweud wrthynt a’r posibilrwydd y gall hyn cael ei rannu cyn i ti fod yn barod am hynny.

Mae gan RUComingOut cyngor gwych am ddod allan ac yn rhannu straeon dod allan ar y wefan.

Fflag enfys gyda siâp calon wedi'i dorri allan o'r canol ar gyfer blog dod allan

Sut i ddweud wrth bobl

Mae’n naturiol y gall hyn fod yn sgwrs anodd. Mae siarad gydag unrhyw un am ryw a rhywioldeb yn gallu bod yn anodd pa un ai wyt ti’n heterorywiol, cyfunrywiol, deurywiol, panrywiol, anrhywiol ayb. Byddai’n syniad da eistedd a siarad gan y gallet ti ateb unrhyw gwestiynau yn syth. Unwaith i ti gychwyn bydd siarad yn dod yn haws. Unwaith i ti ddweud wrth un person bydd yn llawer haws i ddweud wrth eraill.

Os nad wyt ti’n gyfforddus yn dweud wrth rywun wyneb i wyneb, yna beth am e-bost neu neges testun? Gallet ti ddweud wrth deulu fel hyn hefyd os fydda’n well gen ti. Mae’n rhoi cyfle i rywun feddwl am yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud a dod i ddeall pethau cyn ymateb.

Ar ddiwedd y dydd, nid oes ffordd gywir nac anghywir i wneud hyn. Gwna’r hyn sydd yn teimlo orau i ti.

Mae gan Stonewall Cymru gyngor gwych i rai sydd yn Dod Allan Fel Person Ifanc. Edrycha ar 11 Awgrym Dod Allan Fel Lesbiad, Hoyw Neu Ddeurywiol gan Ditch The Label hefyd.

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am dy rywioldeb neu ddod allan i deulu neu ffrindiau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni di, yna cysyllta â Meic. Gall ein cynghorwyr cyfeillgar helpu. Ffonia (080880 23456) gyrra neges tesun (84001) neu sgwrsia gyda ni ar-lein.