x
Cuddio'r dudalen

Secstio Ac Ecsploetiaeth Rywiol

Ecsploetiaeth Rywiol ydy pan fydd person yn twyllo neu’n dylanwadu ar rywun i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol.

To read this article in English, click here

Gallai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd wahanol. Weithiau bydd pobl yn ceisio gwneud i ti deimlo bod cael rhyw, neu gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol, yn ddisgwyliedig ohonot ti (efallai bod arnat ti ffafr iddynt, neu rwyt ti wedi derbyn anrheg ddrud ganddynt). Weithiau efallai byddant yn cynnig arian neu le i aros i ti. Efallai bydd rhywun hyd yn oed yn bygwth ti gyda blacmel (efallai bod ganddynt lun rhywiol ohonot ti ac wedi bygwth ei ddangos i bobl eraill os nad wyt ti’n gwneud yr hyn maent yn ei ofyn.)

Beth bynnag ydy’r rheswm, nid oes rhaid i ti BYTH gymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad rhywiol os nad wyt ti eisiau. Mae hyn yn cynnwys gyda chariad: nid oes gan neb yr hawl i wneud i ti ymddwyn mewn ffordd sydd ddim yn teimlo’n iawn i ti , ac mae gorfodi rhywun neu ddylanwadu ar rywun i gael rhyw yn anghyfreithlon.

Pwrpas yr erthygl yma ydy i roi’r wybodaeth a’r adnoddau i ti i helpu amddiffyn rhag gwahanol ffyrdd o ecsploetiaeth rywiol. Os wyt ti angen cefnogaeth fedri di gysylltu â Meic yn gyfrinachol.

Ecsploetiaeth rywiol: rhyw, cyfrinachau a chelwyddau

Fel soniwyd cynt, mae sawl ffurf o ecsploetiaeth rywiol. Mae Barnado’s Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw i ddeall a dy amddiffyn rhag ecsploetiaeth rywiol. Mae’r canllaw yn fyr ac yn hawdd i’w ddarllen, ac ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Gellir ei ddarllen ar-lein neu lawr lwytho copi am ddim isod:

Secstio

Dydy ymddygiad rhywiol ddim yn golygu cael rhyw yn unig. Mae rhannu llun noeth/rhywiol dros y rhyngrwyd neu ffôn symudol hefyd yn ymddygiad rhywiol, sy’n cael ei alw’n secstio. Nid oes gan neb yr hawl i orfodi ti i wneud hyn chwaith.

Un o’r peryglon mwyaf o secstio ydy bod unrhyw beth digidol yn hawdd i’w rannu. Efallai dy fod di’n gyrru llun i dy gariad ac yn gwneud iddynt addo peidio ei rannu, ond dim ond un person sydd angen mynd drwy’r ffôn/cyfrifiadur yna, a’i rannu a gallai fod ar y we. Mae achosion wedi bod ble mae cariadon yn gwahanu ac yna’n rhannu lluniau preifat gyda ffrindiau neu ar-lein, ac unwaith mae’r llun yna ar y we mae posib ei gopïo a’i rannu dros y byd.

Ar nodyn tebyg: dylet ti bob tro fod yn ymwybodol o’r camera ar dy gyfrifiadur neu ffôn. Gall pobl gymryd sgrinlun a chlipiau fideo felly paid meddwl yn ganiataol bod sgwrs ar-lein yn breifat bob tro. Mae hefyd yn bosib gosod firws sydd yn hacio i mewn i’r camera, felly dylet ti osgoi newid o’i flaen, hyd yn oed os wyt ti’n meddwl nad yw ymlaen.

Zipit

Dylai adrodd unrhyw un sydd yn gofyn drosodd a throsodd i ti secstio (ac yn bendant unrhyw un sydd yn ceisio gorfodi ti, neu yn gwneud i ti deimlo dan fygythiad).  Weithiau bydd angen dweud wrth berson yn blwmp ac yn blaen bod eu hymddygiad yn amhriodol os ydynt yn gofyn am luniau anweddus,  a dweud nad oes gen ti unrhyw ddiddordeb yn gwneud hynny. Cofia bod gen ti’r hawl i ddweud na bob tro, ta waeth pwy sydd yn gofyn i ti secstio, paid byth teimlo bod rhaid i ti i blesio rhywun sydd yn bwysig i ti.

Dyna pam bod ChildLine wedi datblygu’r app Zipit: mae’n help i ddweud wrth bobl mewn ffordd ddoniol a diplomateg nad oes gen ti ddiddordeb mewn rhannu lluniau preifat. Mae hefyd yn rhoi cyngor pwysig i ti ar sut i sgwrsio’n ddiogel a beth i wneud os wyt ti’n poeni.

Mae Zipit ar gael am ddim ar bob ffôn clyfar. Clicia yma.

Dolenni Defnyddiol:

THINKUKNOW – Gwefan gwych yn llawn gwybodaeth a fideos am Ecsploetiaeth Rywiol
Beth yw Secstio? – Cyngor ac arweiniad grêt
Canolfan Diogelwch CEOP – Sut i adrodd pryder a darganfod cefnogaeth
GetSafeOnline – Dysgu sut i amddiffyn dy gyfrifiadur a ti dy hun ar-lein

Mae Meic yma i siarad o hyd am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.