x
Cuddio'r dudalen

Deall Diogelwch ar dy Ffôn, Consol a Chyfrifiadur

Wedi cael ffôn, tabled, gonsol gemau neu gyfrifiadur newydd yn ddiweddar? Wyt ti wedi meddwl am dy ddiogelwch pan fyddi di’n mynd ar-lein arnynt?

Nid ydym yma i sbwylio’r hwyl, ond mae’n bwysig i ti ddeall sut i gadw dy hun yn ddiogel. Nid yw bod yn ofalus ar-lein yn golygu na fedri di gael hwyl hefyd, ond mae meddwl am dy ddiogelwch yn gallu sicrhau bod y gofod yn un mwy pleserus i fod ynddi.

3D Password Field with Padlock Isolated.
Blog Deall Diogelwch ar dy Ffôn, Consol a Chyfrifiadur

Cyfrineiriau

Gosoda cyfrineiriau cryf. Paid dewis pethau y gall pobl ddyfalu’n hawdd fel pen-blwydd neu enw anifail anwes. Dylid creu cyfrinair sydd yn gymysgedd o lythrennau, rhifau a symbolau. Paid rhannu dy gyfrinair gyda ffrindiau. Cer i weld y cyngor yma gan Internet Matters am osod cyfrineiriau ac enwau defnyddwyr.

Rhannu gwybodaeth

Cadwa wybodaeth bersonol yn breifat. Bydda’n ofalus am yr hyn rwyt ti’n rhannu ag eraill ar-lein. Paid rhannu pethau fel cyfeiriadau, dy rif ffôn, enw ysgol neu fanylion sensitif. Dychmyga’r hyn byddet ti’n ei rannu gyda rhywun diarth ar y stryd. Fyddet ti’n rhoi gymaint o wybodaeth iddynt mor hawdd? Mae gan Get Safe Online gyngor ar breifatrwydd ar eu gwefan. Mae gan Internet Matters gyngor am sut i chwarae a chysylltu’n ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein.

Image of purple/pink outline of a person on black background with lus sign on top of head.
Blog Deall Diogelwch ar dy Ffôn, Consol a Chyfrifiadur

Ychwanegu pobl

Sicrha dy fod di’n deall sut i gadw dy hun yn ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol. Wyt ti’n adnabod y bobl rwyt ti’n ychwanegu fel ffrindiau yn dy fywyd go iawn? Bydda’n ofalus wrth ychwanegu pobl nad wyt ti’n adnabod, neu ffrind i ffrind. Ni fedri di wybod yn sicr pwy yw’r person rwyt ti’n siarad â nhw, nid pawb sydd yn onest. Bydda’n ofalus am yr hyn rwyt ti’n ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. Unwaith i ti rannu rhywbeth, rwyt ti’n colli rheolaeth ohono a byth yn gwybod beth y gall rhywun arall wneud gyda’r wybodaeth yna. Cer draw i weld cyngor Hwb ar gyfryngau cymdeithasol.

Dangos parch

Bydda’n barchus o bobl eraill ar-lein. Gwna hwn yn ofod positif yn hytrach nag un negyddol. Mae bwlio a chasineb yr un mor niweidiol ar-lein ag y mae yn y byd go iawn, a gall y pethau yma ddod yn ôl i dy frathu pan fyddi di’n hŷn ac yn chwilio am swydd. Mae sawl esiampl o bobl sydd wedi cael i drafferth ar ôl gwneud sylwadau niweidiol, hiliol a homoffobig ar-lein. Weithiau mae’r sylwadau yma wedi’u gwneud flynyddoedd yn ôl pan yn ifanc, ond wedi dod i’r amlwg eto flynyddoedd wedyn.

Face recognition, personal identification, secure access. Profile entry, data storage opening. Female account holder cartoon character. Vector isolated concept metaphor illustration.
Blog Deall Diogelwch ar dy Ffôn, Consol a Chyfrifiadur

Gosodiadau diogelwch

Oes gosodiadau diogelwch ar dy ddyfais? Os nad wyt ti’n sicr, yna gofynna i riant, gofalwr neu oedolyn a sicrha bod y diweddariadau diogelwch a’r meddalwedd gwrthfeirws diweddaraf wedi’u gosod.

Gwiria’r gosodiadau diogelwch ar dy apiau cyfryngau cymdeithasol,  ffrydio a gemau. Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol gyngor yma ar osodiadau diogelwch, dilysu 2 gam, deall dy ôl troed digidol, adnabod ac adrodd cyfrifon ffug.

Bydda’n ofalus am y pethau ti’n agor. Bydda’n wyliadwrus o unrhyw ddolenni amheus mewn apiau, sgyrsiau neu e-byst. Os ydynt yn gofyn i ti fewngofnodi neu rannu gwybodaeth bersonol, paid! Pan fyddi di’n lawr lwytho pethau o wefannau anghyfreithlon, rwyt ti’n cynyddu’r risg o lawr lwytho maleiswedd i dy ddyfais. Os wyt ti’n gweld bargen ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg ei fod o! Mae Which? yn rhestru’r sgamiau ar-lein diweddaraf yma. Gellir cael gwybodaeth am y peryglon o glicio ar ddolenni amheus yma gan McAfee (nid dyma’r unig feddalwedd amddiffyn firws sydd ar gael).

Adnabod newyddion ffug

Dyw’r ffaith bod rhywbeth i’w weld ar-lein ddim yn golygu ei fod yn wir. Ymchwilia’r ffeithiau dy hun cyn i ti gredu neu rannu gwybodaeth. Gall rhannu camwybodaeth fod yn niweidiol. Bydda’n ddinesydd digidol cyfrifol. Darganfod cyngor Hwb am newyddion ffug a chamwybodaeth yma.

Phone breakdown in hands drawing with thin lines on blue background

Beth os yw rhywbeth yn mynd o’i le ar-lein?

Mae Meic wedi cael sawl person ifanc yn cysylltu sydd wedi dioddef o flacmel ar ôl gyrru lluniau noeth i rywun maent wedi cyfarfod trwy chwarae gemau ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol. Efallai eu bod wedi credu bod y person roeddent yn siarad â nhw o gwmpas yr un oedran. Ar ôl gyrru’r lluniau, maent wedi cael wltimatwm bod rhaid gyrru arian neu mwy o luniau noeth, neu byddant yn rhannu’r lluniau. Manylion pellach am hyn yn ein blog Blacmel Rhywiol a Phorn Dial – Beth os yw’n Digwydd i Ti.

Mae hwn yn sefyllfa frawychus iawn i fod ynddi, ond y cyngor gorau ydy dweud wrth rywun cyn gynted â phosib. Ffonia’r heddlu i’w adrodd ar 101 neu adrodd i CEOP. Mae CEOP yn asiantaeth gorfodi’r gyfraith sydd yn helpu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag camdriniaeth rywiol a grwmio ar-lein.

Siarada â rhywun

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth sydd wedi digwydd ar-lein, yna dweud wrth rywun. Hyd yn oed os wyt ti wedi gwneud rhywbeth nad oeddet ti i fod ac yn ofni cael row, mae’n llawer gwell dweud wrth rywun na phoeni neu drio datrys pethau dy hun. Os nad wyt ti’n teimlo fel y gallet ti ddweud wrth y bobl agosaf atat, yna gallet ti geisio siarad ag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt (fel athro), neu gallet ti ffonio ni’n gyfrinachol ar linell gymorth Meic. Gallem dy helpu darganfod datrysiad i hyn.

Os wyt ti wedi dioddef o drosedd seibr neu dwyll ar-lein, mae help ar gael gan Cymorth i Ddioddefwyr. Galwa’r Supportline am ddim ar 08 08 16 89 111, neu ddarganfod cymorth yn agos i ti.