4 Ffordd i Gadw’n Heini Tra’n Sownd Yn Y Tŷ

Mae’n Wanwyn! Bron yn amser i’r clociau symud awr ymlaen, mae’r haul allan… ac rwyt ti’n sownd yn y tŷ. Dim y sefyllfa gorau i fod ynddi.
To read this article in English, click here
Os oes gen ti ardd, yna mae’n debyg dy fod di wedi treulio amser y tu allan yr wythnos hon. Ond heb ffrindiau i dreulio amser â nhw, a dim ymwelwyr yn cael dod i’r tŷ, mae’n debyg nad wyt ti’n symud cymaint ag yr wyt ti fel arfer.
Mae cadw’n heini yn dda i’r ymennydd, i’r galon, ac i dy wen. Mae’n rhyddhau hormonau gelwir yn endorffinau, sydd yn gwneud i ti deimlo’n hapus! Mae’n wych os wyt ti wedi cael llond bola o deulu a’r rheolau newydd gan y Llywodraeth.
Maent yn caniatáu i ti fynd allan i wneud pethau pwysig fel cadw’n heini, ond os ydy rhywun yn dy gartref yn sâl, yna dwyt ti ddim i fod i fynd allan o gwbl. Felly sut mae cadw’n iach ac yn actif pan fydd rhaid i ti gadw draw o bawb? Mae gennym ychydig o awgrymiadau. (Gallet ti droi’r rhain yn sialens TikTok hefyd i gadw mewn cysylltiad â dy ffrindiau!)

Ymarfer cylchol
Cliria digon o ofod fel dy fod di’n gallu ymestyn dwy fraich allan heb daro dim. Ysgrifenna restr o symudiadau gellir ei wneud mewn un lle – fel sgipio rhaff, codi ar dy eistedd (sit-ups), ymwthiadau (press-ups), byrpîs, naid seren, sgwatio, neu gamu fyny a lawr staer. Gwna pob symudiad mor sydyn â phosib am 60 eiliad, gan ddefnyddio cloc neu amserydd, a chyfri faint rwyt ti’n ei wneud yn yr amser yna. Gwna hyn tua dwywaith yr wythnos, a gweld os yw’n bosib gwneud mwy yn yr un amser tro nesaf!

Dyfeisia ddawns fydda’n creu argraff ar Beyoncé
Chwarae dy hoff gân hapus a pheidio stopio dawnsio tan y diwedd! Gallet ti weithio arno tan mae’n berffaith, neu ddyfeisio trefn newydd bob dydd. Os oes gen ti frawd neu chwaer yna dyfeisiwch ddawns grŵp gyda’ch gilydd.

Bore da, amser deffro!
Os oes gen ti fynediad i YouTube, beth am ddilyn sesiynau dyddiol The Body Coach (Joe Wicks) ar-lein! Maen nhw’n llawer o hwyl ac yn rhoi hwb i ti peth cyntaf y bore cyn i ti ddechrau ar dy waith ysgol. Clicia yma i wylio.
Neu os wyt ti eisiau gwneud cadw’n heini yng Nghymraeg mae Ffit Cymru yn cynnig sesiynau Teulu Ffit gyda Rae Carpenter am 9 bob bore Llun i Wener hefyd, yn fyw ar YouTube.

Ymestyn dy gorff
Mae’n bwysig dy fod di’n ymestyn yn iawn ar ôl ymarfer corff, ond gall fod yn ffordd dda i ymlacio os yw pethau’n dod yn ormod i ti hefyd. Mae ioga yn ffordd hawdd iawn i wneud hyn gartref. Yr unig beth sydd ei angen ydy rhywbeth meddal ar y llawr (fel mat neu gwpl o flancedi), a dillad cyfforddus.
Mae gennym lawer o wybodaeth fydd yn gallu helpu os yw pethau ychydig yn od ar y funud oherwydd y Coronafeirws. Clicia yma i weld popeth.
Angen siarad gyda rhywun?
Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ac eisiau siarad am y peth gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic. Bod hynny i siarad am y coronafeirws, neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni, mae ein cynghorwyr wedi derbyn hyfforddiant i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru, a gallant helpu ti i gael y cymorth sydd ei angen arnat.
