Cyngor Sut i Wneud Ffrindiau mewn Ardal Wledig
Gall byw mewn ardal wledig yn bell o bob man fod yn grêt, ond mae yna heriau ychwanegol, yn enwedig wrth geisio cyfarfod ffrindiau newydd. Os wyt ti’n stryglo, gall Meic helpu. Darllena ymlaen.
Os wyt ti yn byw mewn ardal wledig, bosib ti wedi hen arfer efo pentrefi bach, dewis cyfyng o ysgolion a chlybiau ieuenctid, cysylltiad gwael i’r we a thrafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy. Gall yr holl bethau yma ei gwneud yn anodd cyfarfod a chadw ffrindiau weithiau. Dyma ein cyngor cyfarfod ffrindiau.
Defnyddia gyfryngau cymdeithasol
Mae cofrestru i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda i wneud ffrindiau. Gellir cadw cysylltiad â phobl sy’n byw ychydig yn bellach, fel ffrindiau ysgol, yn ogystal â chysylltu gyda phobl ddiarth sydd yn hoffi pethau tebyg i ti. Chwilia ac ymuna â grwpiau cymunedol, fforymau, neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol lleol penodol i bobl ifanc dy ardal. Gall fod yn ffordd wych i ddarganfod am ddigwyddiadau lleol, rhannu diddordebau, a sgwrsio gyda phobl ifanc eraill o ardaloedd gwahanol.
Dechrau chwarae gemau ar-lein
Os wyt ti’n hoffi chwarae gemau cyfrifiadur, beth am chwarae gyda phobl ledled y byd ar y ffôn, gliniadur, PC neu gonsol? Mae chwarae gemau aml chwaraewr yn ffordd dda i gysylltu os wyt ti’n byw mewn ardal wledig. Ti’n cael gwneud rhywbeth ti’n hoffi, cydweithredu ag eraill, a mynd i’r afael ag unigrwydd ar yr un pryd. Mae digonedd o gemau aml chwaraewr rhad neu am ddim i chwarae ar-lein gyda ffrindiau, fel Fortnite, Among Us a Fall Guys.
Ymuno â grŵp ieuenctid lleol
Mae ymuno gyda chlwb ieuenctid lleol yn ffordd dda i gyfarfod mwy o bobl ifanc a gwneud ffrindiau. Paid digalonni os wyt ti’n byw yn rhy bell o’r ganolfan. Weithiau mae’r gweithwyr ieuenctid yn cynnal sesiynau yn y gymuned. Efallai gallant dy helpu gyda syniadau am sut i gyfarfod pobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg i ti.
Mynycha ddigwyddiadau lleol
Edrycha ar hysbysfyrddau cymunedol lleol i weld os oes unrhyw ddigwyddiadau yn dod i’r ardal, neu’r cyffiniau. Hyd yn oed os nad yw’r digwyddiad o ddiddordeb, gall fod yn gyfle da i gyfarfod pobl newydd. Gallet ti wahodd dy ffrindiau drosodd i ymuno gyda thi, yn enwedig os yw ar benwythnos neu yn y nos.
Gwirfoddoli yn y gymuned
Nid yn unig yw gwirfoddoli’n ffordd dda i helpu’r gymuned, ond mae’n rhoi cyfle gwych i ti gyfarfod pobl newydd. Bod hynny’n helpu elusen leol neu’n cymryd rhan mewn digwyddiad glanhau cymunedol. Rwyt ti’n gallu teimlo’n dda wrth gysylltu gyda phobl. Mae’n rhoi rhywbeth i ti wneud yn dy amser rhydd, felly’n ffordd berffaith i fynd i’r afael ar unigrwydd.
Rhanna dy hobïau gydag eraill
Darganfod beth yw dy ddiddordebau a cheisia darganfod pobl eraill sydd yn rhannu’r rhain. Chwaraeon, celf, cerddoriaeth, neu unrhyw hobi arall? Gall darganfod rhywun sydd yn mwynhau’r un pethau â thi yn fod yn bwysig i greu perthynas parhaol weithiau. Chwilia am glybiau neu weithdai lleol, neu gymunedau ar-lein sydd yn ymwneud â dy ddiddordebau penodol, ac ymuna.
Gofyn i bobl gymdeithasu
Er bod y syniad o ofyn i rywun ‘hangio allan’ gyda thi yn gallu codi ofn, mae angen i ti gymryd y cam cyntaf weithiau. Beth am ofyn i eistedd gyda rhywun amser cinio sydd yn edrych yn unig, neu os gei di ymuno mewn gêm pêl droed?
Creu grwpiau astudio
Os wyt yn yr ysgol ac yn cael trafferth cysylltu gyda’r bobl yn y dosbarth, yna ystyried sefydlu grwpiau astudio. Gall fod yn ffordd dda i ddod i adnabod pobl yn well yn ogystal â helpu eich gilydd gyda’ch gwaith ysgol.
Canolbwyntia ar dy hun
Mae’n iawn fod ar ben dy hun weithiau a chanolbwyntio ar dy ddatblygiad personol a hunan welliant. Ymuna mewn cyrsiau neu weithdai ar-lein sydd o ddiddordeb i ti. Gall hyn helpu ti i ehangu dy wybodaeth a dy sgiliau, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gysylltu gyda phobl eraill sydd yn rhannu diddordebau ac uchelgeisiau tebyg. Mae hefyd yn bwnc da i gychwyn sgwrs gyda phobl newydd rwyt ti’n cyfarfod.
Siarad â Meic
Mae’n gallu bod yn anodd gwneud ffrindiau, yn enwedig os wyt ti’n byw mewn ardal wledig, ynysig a ddim yn gweld llawer o bobl ifanc y tu allan i’r ysgol, neu’n teimlo fel nad wyt ti’n ffitio. Cer i weld tudalen wybodaeth Ffrindiau Meic.
Os hoffet ti siarad mwy am y cyngor yn y blog yma, gallet ti siarad gyda chynghorwr Meic am ddim wrth gysylltu ‘r llinell gymorth Meic. Mae’n agored o 8yb tan hanner nos bob dydd!