x
Cuddio'r dudalen

A Ddylet Ti Boeni am Frech y Mwncïod?

Gyda’r holl sylw am Frech y Mwncïod (monkeypox) yn y cyfryngau, mae’n anodd i rywun beidio poeni am yr ‘outbreak’ sydd yn cael ei adrodd yn y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol. Gall fod yn anodd deall beth sydd yn digwydd, yn enwedig gyda chymaint o wybodaeth gamarweiniol yn cael ei rannu. Mae’r blog yma yn edrych ar beth ydy brech y mwncïod a sut i ymdopi os wyt ti’n poeni.

This article is also availaible in English – click here

Nid yw’r afiechyd yma yn un newydd, ond mae wedi cael mwy o sylw wedi yn ddiweddar gan fod achosion newydd wedi codi dros y byd, gan gynnwys Cymru a’r Deyrnas Unedig (DU). Dyma’r toriad gwaethaf o frech y mwncïod y tu allan i Affrica, ble mae’r haint yn endemig (yn gyffredin mewn ardal benodol).

Beth ydy Brech y Mwncïod?

Mae brech y mwncïod yn cael ei achosi gan firws brech y mwncïod. Mae’r firws yma yn dod o’r un teulu o firysau â’r frech wen (smallpox), ond mae’n llawer llai difrifol.

Mae’r afiechyd fel arfer i’w weld ym mhellafoedd gwledydd canolbarth a gorllewin Affrica, yn agos i fforestydd glaw trofannol (tropical). Mae achosion wedi bod y tu allan i Affrica ers 2001, ond prin oedd y rhain.

Mae sawl achos o frech y mwncïod wedi’i ddarganfod yn y DU yn ddiweddar, felly mae’n cael ei alw’n doriad (outbreak).

Woman with high fever checking her temperature covid-19 awareness vector

Beth yw’r symptomau?

Ar gychwyn yr haint, mae pobl yn profi symptomau’r ffliw, fel gwres, cyhyrau poenus, oerfel, a blinder.

O fewn 5 diwrnod o’r symptomau yma, bydd brech yn cychwyn fel arfer, sydd yn edrych yn debyg i frech yr ieir. Mae’r frech yn cychwyn ar y wyneb fel arfer, ac yna’n symud i ddarnau eraill o’r corff, cledrau’r dwylo a gwadn y traed ran amlaf. Yna bydd y frech yn codi’n swigen ac yn cael crachen drosto, sydd yn disgyn i ffwrdd wedyn. Mae’r frech yn gallu bod yn goslyd ac yn boenus iawn ac yn gallu gadael creithiau ar y croen ar ôl gwella.

Mae’r haint yn diflannu heb unrhyw driniaeth feddygol fel arfer, ac yn gallu parhau rhwng 2-3 wythnos. Er bod rhai achosion o frech y mwncïod yn gallu bod yn ddifrifol, ac mae marwolaethau wedi’u hadrodd yng Ngorllewin Affrica, mae’r mwyafrif o achosion yn ysgafn.

Sut mae’r haint yn cael ei rannu?

Mae brech y mwncïod yn cael ei rannu fel arfer trwy gysylltiad croen i groen, ond mae’n gallu cael i mewn i’r corff trwy groen wedi torri, y system anadlu, neu’r llygaid, trwyn neu geg.

Mae’n gallu cael ei ledaenu wrth gyffwrdd anifeiliaid sydd â’r afiechyd hefyd, fel mwncïod, llygod mawr a gwiwerod, neu bethau heintus fel dillad a dillad gwely.

Gall unrhyw un ddal brech y mwncïod, ond mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi dweud y dylai dynion hoyw a deurywiol fod yn enwedig o ofalus o ganlyn y nifer sylweddol o heintiau diweddaraf yn Ewrop. Dylent fod yn “wyliadwrus o’r symptomau a chwilio am gymorth os ydynt yn poeni”. Er nad yw brech y mwncïod yn cael ei ddisgrifio fel afiechyd trosglwyddir yn rhywiol (STD), gellir ei basio os wyt ti’n cael rhyw gyda pherson sydd â’r haint oherwydd dy fod di’n gyswllt agos, beth bynnag dy ryw, hunaniaeth rywiol neu rywioldeb.

Pathogen microorganisms set. Bacteria, virus, germ, cancer cells, coronavirus in round border. Can be used for epidemic, healthcare, illness, microbiology topics

Dylwn i boeni?

Nid yw’r holl sylw am frech y mwncïod yn y wasg yn helpu wrth achosi pobl i fynd i banig, yn enwedig yn dilyn y pandemig Covid-19, ond nid yw hyn yr un peth.

Mae brech y mwncïod yn firws sydd wedi bod o gwmpas mewn pobl ers dros 50 mlynedd. Daw o’r un teulu â’r frech wen a chafodd ei ddarganfod am y tro cyntaf mewn mwncïod (y rheswm am yr enw) yn 1958. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymateb i geisio atal y firws rhag dod yn salwch cyffredin yn y wlad yma, fel brech yr ieir. Mae eisoes cyffuriau gwrthfirysol a brechlynnau sydd yn gallu trin a rheoli’r firws yn effeithiol os oes angen.

Meddwl dy fod di efo’r haint?

Mae’r perygl o ddal brech y mwncïod yn y DU yn isel iawn. Mae’n annhebyg bod y firws gen ti os nad wyt ti wedi teithio i orllewin neu ganolbarth Affrica neu wedi bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd â brech y mwncïod.

Ond, dylai unrhyw un sydd â brech neu anafiadau anghyffredin ar unrhyw ran o’r corff:

  • Cysylltu â GIG 111 yn syth
  • Ceisio peidio dod i gyswllt agos ag unrhyw un ac ynysu nes cael gwybod beth i’w wneud

Gwybodaeth berthnasol

I gael gwybod y diweddaraf am achosion brech y mwncïod sydd yn cael eu darganfod gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).

Poeni am yr hyn sydd yn digwydd yn y newyddion? Dysga sut i ymdopi gyda phethau gofidus yn y newyddion.

Eisiau siarad?

Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny’n ymwneud â brech y mwncïod neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.